Rhannu Cymraeg English

Pwy i’w wahodd i’r Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol

Adref 5

Y Swyddog Diogelu Penodedig ar gyfer plant ac oedolion fydd yn cadeirio’r Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol, a fydd hefyd yn nodi pwy fydd yn bresennol.

Mewn achosion lle mae pryder am ddiogelwch plentyn neu oedolyn yn cael ei godi mewn perthynas â gweithiwr a gyflogir dan adain Taliadau Uniongyrchol, mae gan y cyflogwr yr her benodol o gyflawni rôl y cyflogwr a rhiant y plentyn a allai fod wedi cael ei niweidio neu fod mewn perygl, yn gysylltiedig â’r pryder.

Dylai’r cadeirydd yn yr achosion hyn roi ystyriaeth arbennig i sut bydd y rhieni/cyflogwr yn cael ei gefnogi wrth gyfrannu at y broses. Dylid ymgynghori â’r rhieni/cyflogwr ynglŷn â manteision cael trydydd parti sy’n gwybod am ddyletswyddau/hawliau cyfraith cyflogaeth i gynrychioli’r rhiant fel cyflogwr yn y cyfarfodydd strategaeth hyn.

Rhoir ystyriaeth i wahodd y bobl ganlynol:

  • Rheolwr Gwasanaethau Plant neu Wasanaethau Oedolion gyda gwybodaeth am atgyfeirio
  • Yr heddlu
  • Rheolwr Tîm a Gweithiwr Cymdeithasol y plentyn neu’r oedolyn mewn perygl
  • Rheolwr y Tîm Gofal Maeth, Rheolwr Tîm Lleoli Oedolion
  • Rheolwr Cofrestredig yr Uned Breswyl lle mae’r honiad yn erbyn gofalwr maeth neu weithiwr preswyl (gan gynnwys y sector wirfoddol neu asiantaeth breifat)
  • Rheolwr cofrestredig ar gyfer darpariaeth gwasanaethau oedolion h.y. Cartref Gofal, darparwr cartref, byw â chymorth a gwasanaethau dydd (gan gynnwys y sector wirfoddol neu asiantaeth breifat)
  • Cynrychiolydd cyfreithiol yr awdurdod lleol
  • Cyflogwr (lle mae’r cyflogwr eisoes yn ymwybodol o bryderon, neu mae pryderon wedi cael eu datgelu)
  • Cynrychiolydd Iechyd
  • AGC (lle mae’r pryder am Ofalwr Maeth, Gofalwr mewn Lleoliad i Oedolion, Gofalwr Plant neu Ddarparwr Gofal i Oedolion a Phlant)
  • AGIC (lle mae’r pryder am weithiwr proffesiynol mewn lleoliad iechyd y maen nhw’n ei reoleiddio h.y. ysbyty preifat)
  • Cynrychiolydd addysg pan fo’r unigolyn dan sylw yn gweithio o fewn yr asiantaeth hon, a Chadeirydd y Llywodraethwyr pan fo’r honiad yn erbyn y Pennaeth
  • Adnoddau Dynol neu gynrychiolydd Personél (sydd ag awdurdod i gynghori’r cyflogwr ynglŷn â gwaharddiad)
  • Cynrychiolydd mudiad gwirfoddol

Rhoi gwybod i’r unigolyn

Wrth roi gwybod i’r unigolyn, dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r canlynol:

  • Dylai’r person sy’n destun yr honiad gael cefnogaeth briodol gan ei gyflogwr neu unigolyn a enwebir
  • Dylai’r person sy’n destun yr honiad gael ei drin yn deg ac yn onest a dylid ei helpu i ddeall y pryderon a fynegwyd a’r prosesau fydd yn mynd rhagddynt
  • Dylai’r person sy’n destun yr honiad gael gwybod bod honiad yn ei erbyn ar y cyfle cyntaf posib
  • Os yw’r honiad yn ymwneud â gofalwr maeth neu ofalwr mewn lleoliad i oedolion, dylai gael gwybod bod honiad wedi cael ei wneud gan y rheolwr cofrestredig neu ddirprwy
  • Ni fydd y cyflogwr yn dweud wrth y cyflogai beth yw manylion yr honiad nes bod cytundeb â’r Gwasanaethau Plant neu Oedolion/yr heddlu ynglŷn â phryd dylai hynny ddigwydd. Caiff hyn ei ystyried yn ystod y trefniadau diogelu dros dro a’u cytuno gan yr heddlu a’r Swyddog Diogelu Penodedig
  • Ni ddylid rhannu gwybodaeth am yr oedolyn, y plentyn neu’r teulu â’r unigolyn y mae honiad wedi’i wneud yn ei erbyn nac unrhyw un sy’n ei gynrychioli
  • Wrth benderfynu pryd i roi gwybod i’r unigolyn, dylid ystyried a oes unrhyw beryglon posib i’r plentyn neu’r oedolyn sy’n rhan o’r honiadau, neu i unrhyw blant neu oedolion eraill sy’n gysylltiedig â chartref, gwaith neu fywyd cymunedol yr unigolyn
  • Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i’r posibilrwydd y gallai’r unigolyn rwystro unrhyw ymchwiliad, symud neu ymyrryd â thystiolaeth neu fygwth neu gymell tystion posib
  • Os caiff ei atal o’r gwaith, rhaid i berson cyswllt dynodedig hysbysu’r unigolyn yn rheolaidd am ddatblygiadau yn y gweithle
  • Cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn honiad, dylid cynghori’r aelod o staff sydd wedi’i gyhuddo i gysylltu â’i undeb llafur neu gorff proffesiynol
  • Dylid ymgynghori ag adnoddau dynol ar y cyfle cyntaf er mwyn cynnig cymorth priodol drwy gyfrwng gwasanaeth iechyd galwedigaethol y sefydliad, trefniadau lles y cyflogai, neu drefniadau diogelu yr asiantaeth unigol

Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr plant/oedolion mewn perygl neu eu cynrychiolwyr:

  • Yr egwyddor gyffredinol yw y dylid rhoi gwybod i rieni neu ofalwyr yr oedolyn neu’r plentyn/plant dan sylw ynghyd â’r oedolyn neu’r plentyn/plant ei hun lle bo’n briodol, am yr honiad cyn gynted â phosibl ond dim ond ar ôl trafodaeth â’r Swyddog Diogelu Penodedig sy’n gyfrifol am honiadau/bryderon diogelu ynglŷn ag ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth.
  • Dylid rhoi gwybod i rieni/gofalwyr yr oedolyn neu’r plentyn/plant ynghyd â’r oedolyn neu’r plentyn/plant ei hun lle mae’n briodol, beth yw canlyniad y drafodaeth/cyfarfod strategaeth, a dylid eu helpu pan fo angen i ddeall y penderfyniadau a wnaed. Cytunir yn y drafodaeth strategaeth neu’r cyfarfod strategaeth o ran pwy fydd yn gwneud hyn.
  • Mae enghreifftiau pan na fyddai’n briodol i roi gwybod i rieni, gofalwyr oedolion neu blentyn/plant neu eu cynrychiolydd yn syth yn cynnwys pan gaiff honiad ei wneud yn erbyn aelod o’r teulu, neu os byddai dweud wrth y rhiant/gofalwr, neu’r plentyn/oedolyn sy’n wynebu risg yn amharu ar ymchwiliad yr heddlu. Yn yr achosion hyn dylid cadarnhau pryd y dylid dweud wrth y rhieni neu’r gofalwyr gyda’r Gwasanaethau Plant/Oedolion perthnasol a’r heddlu.