Rhannu Cymraeg English

Materion trawsfffiniol

Adref 5

Mae hyn yn faes gwaith a gefnogir orau drwy weithio cadarn rhwng awdurdodau. Pan fydd ymholiadau amddiffyn plant neu oedolion wedi’u gwneud mewn un ardal, ond bod y troseddwr honedig yn byw neu’n gweithio mewn ardal arall, bydd angen rhannu gwybodaeth rhwng y ddwy ardal.

Rhaid i’r Swyddog Diogelu Penodedig sicrhau ei fod yn rhannu’r holl wybodaeth â’i swyddog cyfatebol yn yr awdurdod lleol arall. Dylid rhoi ystyriaeth briodol i’r egwyddorion diogelu data perthnasol sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth bersonol, fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Fel arfer cyfrifoldeb yr awdurdod lleol lle digwyddodd y gamdriniaeth honedig/lle codwyd y pryder yw cynnal y Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol. Ar ôl trafodaeth rhwng y Swyddogion Diogelu Penodedig, penderfynir a chofnodir pa awdurdod fydd yn gyfrifol am gynnull y Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol a’r rhesymau pam.