Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
I bwy mae’r canllaw arfer hwn?
Mae’r canllaw hwn i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed) yn bennaf.
Mae hyn yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio yn y meysydd blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddu ieuenctid a’r gwasanaethau ieuenctid, cymunedol a chymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) ac yn y meysydd gofal maeth a gofal preswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae pawb sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc yn gyfrifol am ddiogelu’r plant hynny.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw arfer hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am ddiogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol ar Blant (CTaB). Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol gael eu tanlinellu gan ddau brif egwyddor:
- mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu: i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran lawn yn unigol ac ar y cyd; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn: i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull a dylai ei les gorau bob amser fod o’r pwys mwyaf.
Mae sawl mater sy’n gyffredin ym mhob un o’r canllawiau arfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu sy’n cael ei ystyried:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu bod hawl gan bob plentyn i dyfu’n iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gefnogi’n briodol i wella wedi camdriniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau'r Plant yn unol â dyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i roi ymateb ar y cyd i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n wynebu risg dan Adran 130, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Crynodeb Diogelu
- Mae rhannu gwybodaeth wrth wraidd arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth ddiogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r rhesymau dros rannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth a niwed difrifol i bobl eraill. Pan na rennir gwybodaeth mewn ffordd brydlon ac effeithiol, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ar sut i ymateb yn anwybodus a gallai hyn arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i niwed.
- Rydym yn gwybod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes nam ar eu synhwyrau/nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael eu hamddiffyn a’u cefnogi fel sydd ei angen pan fônt wedi’u cam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gydnabod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl yn benodol yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu a dylent roi ar waith unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sydd eu hangen i’w diogelu.
- Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ddod yn gyfarwydd â diwylliant a chredau’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent erioed anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Mae pryderon canolog ac amlwg i fynd i’r afael â nhw o ran cynllunio ar gyfer anghenion gofal a chymorth plant sydd â statws Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASC). Mae Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches: Canllawiau Llywodraeth Cymru i Weithwyr Proffesiynol ar gael. Pan fo amheuaeth o ran oedran dioddefwr posib sy’n blentyn, dylai asiantaethau barhau i drin yr unigolyn fel plentyn nes y pennir oedran Age Assessment of UASC. Mae’n bwysig cofio bod rhaid i ymarferwyr ystyried mesurau diogelu penodol o hyd yn rhan o’u gwaith cynllunio gyda ac ar gyfer y plentyn.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod y plentyn yn agored i niwed ni waeth y lleoliad mae’n byw ynddo, p’un ai a yw’n derbyn gofal maeth, mewn lleoliadau mabwysiadol neu mewn cartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu sydd wedi’u mabwysiadu berthnasoedd a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr neu chwiorydd neu berthnasau biolegol eraill. Gallai’r perthnasoedd hyn ac unrhyw gysylltiad fod yn gadarnhaol ac wedi’u croesawu neu’n rhai nad oes eu heisiau ac y’u hystyrir yn berygl. Gallai profiad plentyn o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol ei adael mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl, ymddygiadol neu emosiynol a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, yn canolbwyntio ar y plentyn ac ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol y plentyn. Mae angen i blant gael eu cynnwys yn ystyrlon yn y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth.
- Dylai plant gael eu gweld a dylai eu barn gael ei chlywed. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Ymarfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion pan na welwyd y plentyn neu nas ofynnwyd iddo am ei farn na’i deimladau, neu pan na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando’n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo arfer diogelu da.
- Mae Camfanteisio Troseddol ar Blant yn fater diogelu. Dylid ystyried plant a gamdrinir drwy CTaB fel plant yn gyntaf a dylid ystyried eu hanghenion gofal a chymorth yn yr un ffordd ag ar gyfer unrhyw blentyn. Gall Camfanteisio Troseddol ar Blant achosi niwed sylweddol iddynt ac mae yn ei wneud.
Diffiniad
Camfanteisio Troseddol ar Blant (CTaB) -
Mae’n fath o gam-drin plant sy’n cynnwys camfanteisio troseddol ac sydd eisiau ymateb diogelu.
Mae plant yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau troseddol gan gynnwys cludo cyffuriau neu arian sy’n arwain at enillion personol ar gyfer unigolyn, grŵp neu gang troseddol cyfundrefnol
Mae’n cynnwys plentyn
Mae’n digwydd i’r rheiny sydd hyd at 18 oed.
Mae’n cynnwys gweithgareddau denu a/neu orfodi
Mae’n cynnwys elfen o gyfnewid a gall fod yn weithgaredd camfanteisio hyd yn oed os yw’n ymddangos yn wirfoddol.
Gall gynnwys dulliau gorfodi a/neu ddenu i gydymffurfio a bydd yn aml yn mynd law yn llaw â bygythiadau a thrais.
Mae’n nodweddiadol gyda rhyw ffurf o anghydbwysedd pŵer sy’n ffafrio’r rheiny sy’n camfanteisio.
Cyflwyniad a sail dystiolaeth
- Cydnabyddir CTaB fel ffurf o gam-drin plant ers yn gymharol ddiweddar a daw rhan sylweddol o’n gwybodaeth am y ffurf hon ar gam-drin mewn cysylltiad â’r wybodaeth am y Llinellau Cyffuriau1 (Saesneg yn Unig) sef modelau busnes anghyfreithlon a reolir a gweithredir gan gangiau sy’n defnyddio eu grym i baratoi, recriwtio a chamfanteisio ar blant er mwyn manteisio yn droseddol. Fodd bynnag, nid dyma’r unig ffordd y mae camfanteisio troseddol ar blant yn digwydd.
- Ceir achosion yng Nghymru sy’n cynnwys troseddwyr unigol (gan gynnwys aelodau o’r teulu) sydd wedi camfanteisio ar blant ac wedi eu cynnwys mewn gweithgareddau troseddol er mwyn manteisio’n bersonol. Mae tystiolaeth hefyd yn berthnasol i droseddwyr cysylltiedig sy’n gweithredu mewn grwpiau er mwyn cyflawni camfanteisio troseddol ar blant. Mae tystiolaeth bod gangiau yng Nghymru mewn rhai ardaloedd yn cyflawni CTaB gan gynnwys camfanteisio ar blant drwy’r Llinellau Cyffuriau.
- Mae CTaB yn cynnwys plant sy’n byw yn y DU a gall hefyd gynnwys plant sy’n cael eu masnachu i’r DU er mwyn camfanteisio’n rhywiol arnynt. Gall plant gael eu masnachu at ddibenion camfanteisio troseddol megis tyfu canabis neu gyflawni troseddau stryd. Gorfodir y dioddefwyr i ddarparu llafur i droseddwyr at ddibenion anghyfreithlon. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw dioddefwyr a orfodir i dyfu canabis mewn preswylfeydd preifat.2
- Gall y risg i’r person ifanc, a’i deulu a’i ffrindiau, o ganlyniad i gamfanteisio troseddol arnynt gynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i:3
- anafiadau corfforol: peryg o drais difrifol a marwolaeth
- Trawma emosiynol a seicolegol
- Trais rhywiol: Ymosodiad rhywiol, cael ei dreisio, delweddau anweddus wedi eu cymryd yn rhan o ddefodau cyflwyno/dial/cosbi, mewnosod cyffuriau o fewn y corff
- Clymu â dyled: y person ifanc a theuluoedd i fod mewn dyled i’r rheiny sy’n camfanteisio a ddefnyddir i reoli’r person ifanc
- Esgeulustod a methu diwallu anghenion sylfaenol
- Byw mewn amgylcheddau aflan, peryglus a/neu fudr
- Blinder ac amddifadu o gwsg: disgwylir i’r plentyn gyflawni gweithgareddau troseddol dros gyfnodau hir o amser ac yn ystod y nos
- Presenoldeb a/neu gyrhaeddiad gwael yn yr ysgol/coleg/prifysgol
- Gellir camfanteisio’n droseddol ar fechgyn a merched.4
- Mae tystiolaeth o waith ymchwil ac arfer yn awgrymu bod nifer fawr o blant sydd wedi dioddef o gamfateisio troseddol yn cael profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod.5
- Mae ymchwil yn dangos y ffaith y gall camdriniaeth ac esgeulustod effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd ac efallai na fydd plant sydd wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn gweithio ar eu hoed cronolegol o ran eu sgiliau corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol.6
- Er mwyn deall yr amgylchiadau y gellid cynnwys plant mewn camfanteisio troseddol ynddynt, mae’n dda ystyried eu sefyllfa mewn cyd-destun ffactorau unigol y plentyn sef y cartref, ei gyfoedion, ysgolion a chymdogaeth. Mae gwaith ymchwil wedi llywio’r cysyniad Diogelu Cyd-destunol sy’n cydnabod y gall y gwahanol berthnasoedd y mae pobl ifanc yn eu creu yn eu cymdogaethau, eu hysgolion ac ar-lein gynnwys trais a chamdriniaeth. Nid yw rhieni a gofalwyr yn dylanwadu ar y cyd-destunau hyn a gall profiadau pobl ifanc o gamdriniaeth y tu allan i’r teulu danseilio perthnasoedd rhwng rhieni a phlant.7
- Yn aml defnyddir pwysau a rheolaeth gan gyflawnwyr a hwyluswyr CTaB fel offeryn i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol. Gall hyn gynnwys rheolaeth trwy roi i’r plentyn rywbeth mae ei eisiau neu’i angen megis arian, alcohol neu gyffuriau, perthynas/perthnasau, addewid i gadw’r plentyn yn ddiogel rhag pobl eraill neu lety. Neu gellir rheoli trwy fygwth y caiff y pethau hyn eu tynnu yn ôl os na fydd y plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol. Gall gorfodaeth fod yn fygythiadau o drais corfforol neu drais corfforol go iawn, camdriniaeth emosiynol neu fygythiadau i frifo rhywun sy’n bwysig i’r plentyn. Fodd bynnag gall CTaB ddigwydd heb unrhyw arwyddion amlwg o orfodaeth neu reolaeth.
- Gall plant fethu ag adnabod eu profiadau’n rhai gamfanteisiol. Fodd bynnag, mae llawer o blant yn deall bod rhywun yn camfanteiso arnynt ond gallant gael trafferth datgelu neu geisio cymorth oherwydd stigma neu oherwydd bod y peth maent yn ei dderbyn yn gyfnewid am y gamdriniaeth yn bwysig iddynt. Gallai rhai plant ddeall bod rhywun yn camfanteisio arnynt ond maent yn dal i gredu mai’r camfanteisio yw’r dewis gorau sydd ar gael iddynt oherwydd bod eu dewisiadau wedi’u cyfyngu. Gall rhai plant deimlo bod ganddynt ddiffyg rheolaeth dros y penderfyniadau gaiff eu gwneud amdanynt mewn meysydd eraill o’u bywyd a bod y cyfnewid sy’n rhan o’r ffurf hwn ar gamdriniaeth yn rhoi iddynt ymdeimlad o reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd iddynt neu’n rhoi statws iddynt.
- Gall CTaB a phryderon diogelu plant eraill orgyffwrdd. Mae gwahanol fathau o gamdriniaeth a chamfanteisio’n gydberthyn a dyma un o’r rhesymau dros yr angen i’n hymateb ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y broblem. Rydym yn gwybod bod CTaB yn perthyn yn gryf i faterion diogelu eraill megis mynd ar goll a masnachu plant. Gall mynd ar goll o’r cartref neu leoliad gofal roi plant sy’n wynebu risgl y bydd rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arnynt neu gall fod yn arwydd bod CTaB eisoes yn digwydd. Mae masnachu plant yn cynnwys symud plentyn o un le i le arall er mwyn camfanteisio arno. Gall plant hefyd gael profiad o gamfanteisio troseddol yn rhan o weithgareddau Camfanteisio’n Rhywiol Ar Blant (CRhB) neu gallant gael eu targedu ar gyfer camfanteisio rhywiol oherwydd eu bod nhw eisoes mewn sefyllfa camfanteiso troseddol ac i’r gwrthwyneb8. Felly gall CTaB fod yn un rhan o brofiad unigol a chymhleth o gamdriniaeth a chamfanteisio cydberthnasol ar gyfer pob plentyn.
Dangosyddion Camfanteisio Troseddol ar Blant9
Mae nifer fawr o wahanol ddangosyddion bod camfanteisio’n digwydd y dylent arwain at adroddiad bod plentyn sy’n wynebu risg a rhoi cychwyn ar gweithdrefnau diogelu. Gellir nodi un dangosydd yn unig neu gall fod llawer ohonynt. Mae amrywiaeth o wahanol bobl ym mywyd y plentyn a all fod yn amau neu yn meddu ar wybodaeth am un dangosydd ond yn wahanol i bob un. Felly mae’n bwysig yr adroddir ar unrhyw bryderon fel mater diogelu ar unwaith er mwyn ceisio rhagor o wybodaeth gan yr holl asiantaethau sy’n berthnasol i fywyd y plentyn.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn na chynhwysfawr o ddangosyddion:
- Achosion aml o fynd ar goll a chael ei ganfod y tu allan i’w ardal
- Wedi ei ganfod gyda meintiau sylweddol o gyffuriau ac arfau
- Wedi’i ganfod gyda chyffuriau yn y rectwm neu’r fagina
- Symiau arian, ffonau symudol, credydau, dillad, gemwaith, triniaethau gwallt newydd neu eitemau ac anrhegion eraill na all eu hesbonio
- Cael ei ddarganfod y tu allan i’w ardal wrth fynd ar goll, neu gael ei arestio y tu allan i’w ardal – yn arbennig yn ymwneud â throseddau â chyffuriau
- Atgyfeiriadau niferus am ddigwyddiadau yn yr un lleoliad
- Dychwelyd o ysbeidiau mynd ar goll gydag anafiadau, neu’n edrych yn anhrefnus
- Newid yn ei ymddygiad, h.y. yn fwy cyfrinachol, wedi ei encilio, neu ei arwahanu o’i gyfoedion, neu fethu ymgysylltu â’i ffrindiau arferol
- Absenoldebau anesboniadwy o’r ysgol, neu fethu ag ymgysylltu â’r ysgol, coleg, hyfforddiant neu waith
- Yn mynd yn fwyfwy amharus, yn anghyfeillgar neu’n ymosodol yn gorfforol gartref neu yn yr ysgol gan gynnwys defnyddio iaith rhywioledig ac iaith berthnasol i ddelio cyffuriau a/neu drais
- Mynnu ei fod yn anorchfygol neu nad oes ots ganddo beth fydd yn digwydd iddo
- Cynnydd yn yr awydd i wneud arian
- Mae’n adrodd bod rhywun yn mynd ag ef/hi i bartïon, i dai pobl, mewn ardaloedd anhysbys, gwestai, clybiau nos, cael bwyd tecawê, mynd y tu allan i’w ardal gydag oedolion anhysbys neu i leoliadau a nodir yn ‘lleoedd poeth” neu sy’n codi pryder.
- Cynnydd mewn defnydd cyffuriau neu alcohol.
- Ofni cael ei gosbi gan aelodau gangiau neu drais gan bobl ifanc neu oedolion
- Cael sawl ffôn symudol, cardiau SIM neu ddefnydd o’i ffôn sy’n achosi pryder megis galwadau gan lawer o bobl neu ragor o negeseuon, synau na’r arfer.
- Meddu ar allweddi/cardiau gwesty, neu allweddi i leoliad anhysbys
- Datgelu ei fod wedi ei dreisio’n rhywiol neu’n gorfforol ac wedyn tynnu’r datganiad yn ôl
- Cael ei gipio neu ei ddal dan orfod
- Mynd i mewn neu adael cerbydau/ceir ag oedolion anhysbys
- Cael gwobrau ar ffurf arian neu nwyddau am gyflwyno cyfoedion
- Hunan-niweidio neu newid sylweddol yn ei lesiant emosiynol
- Asiantaethau yn methu ymgysylltu â’r plentyn neu berson ifanc
- Grwpiau cyfoedion a/neu berthnasoedd newydd
- Perthnasoedd ag unigolion neu grwpiau rheolaethol neu hŷn
- Pryderon rhieni
- Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol a/neu feichiogrwydd yn aml (gall nodi bod CRhB yn rhan o’r camfanteisio)
- Gall cynnydd yn yr atgyfeiriadau i asiantaethau ar gyfer cyfoedion hysbys, pobl gyfarwydd neu aelodau o’r teulu ddangos fod patrwm o gamdriniaeth
Ymateb cymesur
- Os yw’r plentyn yn wynebu risg uniongyrchol neu’ch bod yn amau y gall fynd ar goll cyn y gellir sicrhau ei ddiogelwch cysylltwch â’r Heddlu ar 999.
- Pan fo’r plentyn yn ymddangos yn ddiogel ac yn dda ac nad oes pryderon o ran gallu’r rhiant/gofalwr i gadw’r plentyn yn ddiogel a chefnogi ei lesiant, dylid darparu gwybodaeth am gymorth i’r plentyn a’i riant/gofalwr (gweler atodiadau).
- Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu diwallu heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol er mwyn asesu ei anghenion.
- Relevant partners have a Duty to Report Children at Risk (Section 130) under Part 7 of the Social Services and Well-being (Wales) Act.<}100{>Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Crynodeb Diogelu, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn sy’n wynebu risg” yn blentyn:
- a) sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a
- b) y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).
Pan fo plentyn wedi’i adrodd dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried p’un a oes seiliau dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad wedi’i dderbyn yn ymwneud â phlentyn sy’n wynebu risg byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth ar a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth. Dylai cynrychiolwyr pob awdurdod lleol sy’n berthnasol i’r plentyn ac unrhyw Wasanaeth Troseddwyr Ifainc sy’n berthnasol i’r plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth strategaeth aml-asiantaeth. Ni ddylai bod unrhyw oedi cyn ymateb i wybodaeth am blentyn sy’n wynebu risg oherwydd nad yw’r plentyn fel arfer yn byw yn yr awdurdod lleol lle nodir bod problem ddiogelu.
- Dylai’r drafodaeth amlasiantaeth gael ei llywio gan gyngor yr heddlu ar p’un a yw’r plentyn sy’n wynebu risg mewn peryg uniongyrchol a p’un a fyddai rhai camau gweithredu yn rhoi’r plentyn sy’n wynebu risg mewn peryg mwy o niwed.
- Dylid ystyried sut i gyfweld y plentyn yn ddiogel i sicrhau y cynhelir cyfweliadau’r heddlu mewn ffordd na fydd yn rhoi’r plentyn mewn risg mwy o gael ei niweidio gan y rhai sy’n camfanteisio arno. Mae hyn yn cynnwys ystyried penodi cyfreithiwr annibynnol a chynnwys Oedolyn Priodol. Mae canllawiau10 ar gael gan y Ganolfan Gyfreithio ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid sy’n cynnwys cyngor i gyfreithwyr amddiffyn sy’n amau bod eu cleientiaid yn dioddef CTaB; yn ogystal â chyngor ar y camau ymarferol y dylid eu cymryd os yw cyfreithiwr amddiffyn yn amau bod ei gleient yn dioddef o CTaB.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Pan fo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion a gaiff eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y broblem.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol ddarllen Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion perthnasol cysylltiedig megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant, Masnachu Plant a Phlant sy’n Mynd ar goll o’r Cartref neu Leoliad gofal.
- Rhaid i bob plentyn y nodir ei fod wedi’i fasnachu o bosibl gael ei atgyfeirio i’r gwasanaeth Eiriolwyr Masnachu Plant Annibynnol a bydd y gwasanaeth HMPA yn dyrannu’r achos er mwyn i’r plentyn gael cymorth uniongyrchol neu i gael cymorth gan Gydlynydd Arfer Rhanbarthol y gwasanaeth HMPA. Gallai atgyfeirio’n gyflym ar ôl nodi helpu i leihau nifer y plant sy’n mynd ar goll ac sy’n cael eu hailfasnachu.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Pan fo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn yn benodol o ran cael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys eglurhad am rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys beth gall a beth na all ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail ei ddymuniadau a theimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n unig dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – eglura hawl statudol plant a phobl ifanc ar gymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Mae’r sefydliadau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut mae cysylltu â nhw.
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio gyda sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Ni fyddant yn eich beirniadu a byddant yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i newid. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio ac Eirioli Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae ar gael yn ffynhonnell o help a chymorth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
The Childrens Society
A oes pryderon gennych fod rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar eich plentyn?
- A ydych yn credu y gall ymwneud â gwerthu cyffuriau neu fathau eraill o weithgarwch troseddol?
- A ydych wedi gweld newid yn ei ymddygiad yn ddiweddar ac nad ydych yn deall pam?
Beth yw ystyr Camfanteisio Troseddol?
- Pan gaiff plant eu defnyddio gan bobl, sydd weithiau’n rhan o gangiau/grwpiau, i gyflawni gweithgareddau troseddol megis cludo neu werthu cyffuriau/arfau, rhoi arian drwy beiriannau tocynnau, helpu gyda lladrata.
- Weithiau caiff plant eu hanfon y tu allan i’w hardal, a gallant fod i ffwrdd am ddiwrnodau.
- Pan gaiff plant eu hanfon i gyflawni troseddau gan bobl hŷn a fydd, neu’r gang/grŵp, yn elwa ar y trosedd, hynny yw camfanteisio a masnachu.
Mae’n bwysig gwybod nad ydych ar eich pennau eich hunain ac nid bai chi yw hyn. Mae llawer o rieni a gofalwyr mewn sefyllfaoedd tebyg ac mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i ddiogelu eich plentyn.
- Adroddwch eich pryderon i Wasanaethau Cymdeithasol Gall gweithiwr cymdeithasol eich helpu i gymryd camau i amddiffyn eich plentyn. Byddant yn cynnal asesiad ar sail y pryder fod eich plentyn yn wynebu risg o gael ei niweidio o’r tu allan i’r teulu.
- Os hoffech gael rhagor o gefnogaeth, ewch at weithwyr proffesiynol a all eich helpu: eich meddyg teulu, yr ysgol, yr heddlu neu weithiwr ieuenctid.
- Gallwch adrodd eich pryderon i’r heddlu a dweud ‘Rwy’n amau bod fy mhlentyn yn cael ei fasnachu am gamfanteisio troseddol’.
- Os nad yw eich plentyn lle y dylai fod, adroddwch ei fod ar goll ar unwaith ar 101. Does dim angen aros 24 awr.
- Os yw eich plentyn yn cael ei gasglu gan gar, neu os oes ganddo docyn trên neu fws, cadwch gofnod o’r wybodaeth hon i’w rhoi i’r heddlu neu i’r gweithiwr cymdeithasol.
- Gall fod tystiolaeth arall bod rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar eich plentyn, megis cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, arian neu ffonau, dillad neu anrhegion na all eu hesbonio, newid yn ei ymddygiad; ceisiwch gadw cofnod o’r rhain hefyd.
Byddwch yn barod i gysylltu â’r heddlu – rydych yn ceisio amddiffyn eich plentyn
- Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sydd yn eich poeni chi
- Rhowch wybod iddynt nad ydynt mewn trafferth – a’ch bod yn poeni.
- Gall fod bygythiadau wedi eu gwneud yn eich erbyn neu yn erbyn eich teulu gan y bobl sy’n camfanteisio ar eich plentyn. Gall eich plentyn gredu ei fod yn eich amddiffyn chi. Rhowch wybod iddo eich bod yn ymwybodol o’r risg hwn ac nad ei gyfrifoldeb ef yw eich amddiffyn chi.
- Os eos gennych bryderon am ddiogelwch uniongyrchol eich plentyn ffoniwch yr heddlu ar 999 ar unwaith
Cael cymorth a chefnogaeth
Mae llawer o blant a phobl ifanc sydd angen cymorth a chefnogaeth o bryd i’w gilydd.
Os hoffech gael rhywfaint o gymorth gyda’ch plentyn a’ch teulu gallwch ddod o hyd i wasanaethau lleol drwy gysylltu â:
Pwynt Teulu Cymru
www.familypoint.cymru/families-first-wales/
0300 222 57 57
DEWIS Cymru
www.dewis.cymru
Gallai’r heddlu neu rywun sy’n gweithio gyda’ch plentyn gynnig i atgyfeirio eich plentyn i’r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn iddynt benderfynu p’un a yw eich plentyn ag anghenion gofal a chymorth a pha gymorth sydd ar gael i’w gynnig i’ch plentyn a’ch teulu.
Os yw’r heddlu neu rywun arall yn pryderu bod eich plentyn yn wynebu risg o gael ei niweidio byddant yn adrodd i’r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn iddynt asesu a oes angen cymorth i’w roi ar waith i helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel.
Mae ar staff rheng flaen penodol sy’n dod ar draws ddioddefwr posibl caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl ddyletswydd i roi gwybod i’r Swyddfa Gartref dan Adran 52 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Gangmasters Labour and Abuse Authority. Mae canllawiau ac adnoddau atodol wedi’u cyhoeddi mewn perthynas â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
1 Home Office (2017) Criminal Exploitation of children and vulnerable adults: County Lines guidance
2www.antislaverycommissioner.co.uk
3www.childrenssociety.org.uk
4www.csepoliceandprevention.org.uk
5JSNA Report (2015) Child Exploitation
6 Child Welfare Information Gateway, Issue Brief, November 2009, Understanding the Effects of maltreatment on Brian Development , US Department of Health and Human Services
7contextualsafeguarding.org.uk
8www.nationalcrimeagency.gov.uk
9 The Children’s Society, Victim Support and NPCC (2018) Young People Trafficked for the Purpose of Criminal Exploitation in Relation to County Lines- A Toolkit for Professionals
10Modern-Slavery-Guide-2018.pdf
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF