Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd âGweithdrefnau Diogelu Cymru
I bwy mae’r canllaw arfer hwn?
Mae’r canllaw hwn i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed) yn bennaf.
Mae hyn yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio yn y meysydd blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddu ieuenctid a’r gwasanaethau ieuenctid, cymunedol a chymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) ac yn y meysydd gofal maeth a gofal preswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae pawb sy’n dod i gysylltiad â phlant yn gyfrifol am ddiogelu’r plant hynny.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw arfer hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am ymatebion diogelu pan fo plentyn mewn perygl o gael ei gam-fanteisio’n rhywiol. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol gael eu tanlinellu gan ddau brif egwyddor:
- mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu: i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran lawn yn unigol ac ar y cyd; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn: i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull a dylai ei les gorau bob amser fod o’r pwys mwyaf.
Mae sawl mater sy’n gyffredin ym mhob un o’r canllawiau arfer diogelu a sawl sy’n benodol i’r mater diogelu sy’n cael ei ystyried:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu bod hawl gan bob plentyn i dyfu i fyny’n iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhan niwed a’i gefnogi’n briodol i wella wedi camdriniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i roi ymateb ar y cyd i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl ar bartneriaid perthnasol dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Diogelu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae rhannu gwybodaeth wrth wraidd arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth ddiogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r rhesymau dros rannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth a niwed difrifol i bobl eraill. Pa na rennir gwybod mewn ffordd brydlon ac effeithiol, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ar sut i ymateb yn anwybodus a gallai hyn arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i niwed.
- Rydym yn gwybod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl mewn perygl mwy o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes nam â’u synhwyrau/nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael eu hamddiffyn a’u cefnogi fel sydd ei angen pan fônt wedi’u cam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol adnabod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu a dylent roi ar waith unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sydd eu hangen i’w diogelu.
- Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yn dod yn gyfarwydd â diwylliant a chredau’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent erioed anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Mae pryderon canolog ac amlwg i fynd i’r afael â nhw o ran cynllunio ar gyfer anghenion gofal a chymorth plant sydd â statws Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASC). Mae Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches: Canllawiau Llwyodraeth Cymru i Weithwyr Proffesiynol ar gael. Fodd bynnag mae’n bwysig cofio bod rhaid i ymarferwyr ystyried mesurau diogelu penodol o hyd yn rhan o’u gwaith cynllunio gydag ac ar gyfer y plentyn.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod y plentyn yn agored i niwed ni waeth y lleoliad mae’n byw ynddo, p’un ai a yw’n derbyn gofal maeth, mewn lleoliadau mabwysiadol neu mewn cartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu sydd wedi’u mabwysiadu perthnasau a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr neu chwiorydd neu berthnasau biolegol eraill. Gallai’r perthnasau hyn ac unrhyw gysylltiad fod yn gadarnhaol ac wedi’u croesawu neu’n rhai nad oes eu heisiau ac y’u hystyrir yn berygl. Gallai profiad plentyn o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol yn eu gadael mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl, ymddygiadol neu emosiynol a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, canolbwyntio ar y plentyn ac ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol y plentyn. Mae angen i blant gael eu cynnwys yn ystyrlon yn y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth.
- Dylai plant gael eu gweld a dylai eu barn gael ei chlywed. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Arfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd y plentyn neu nas ofynnwyd iddo am ei farn na’i deimladau, neu le na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando’n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo arfer diogelu da.
- Mae CRhB yn ffurf ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant sy’n cynnwys elfen o gyfnewid.
- Gall unrhyw blentyn gael ei gamfanteisio’n rhywiol ni waeth ei rywedd, ei ethnigrwydd neu’i rywioldeb.
- Gellir Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gallai’r ffordd y mae plant yn profi CRhB yn amrywiol a gallai fod yn rhan o ddarlun cymhleth o faterion diogelu sy’n cydberthyn. Yn aml mae cam-fanteisio ar-lein ac all-lein yn gorgyffwrdd.
- Mae’r rhai sy’n cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn dod o ystod eang o gefndiroedd ethnig, dynion ynddynt yn bennaf ond mae menywod yn cyflawni hyn hefyd. Maent yn gweithredu fel unigolion, mewn grwpiau ac mewn criwiau a gall cyflawnwyr fod yn aelodau teulu.
- Mae angen deall camdriniaeth cyfoed ar gyfoed yn y cyd-destun y mae’n digwydd ac mae angen cefnogaeth ar blant sy’n cam-drin. Mae Canllaw Arfer Cymru Gyfan ar blant lle bo pryderon am ymddygiad rhywiol niweidiol ar gael i’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Prin mae plant yn datgelu CRhB ac mae adnabod CRhB yn dibynnu’n benodol ar wybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol. Dylai pawb sy’n gweithio gyda phlant fod yn ymwybodol o’r arwyddion bod plentyn yn cael ei gam-fanteisio’n rhywiol gan ddeall eu dyletswydd i roi gwybod yn swyddogol am blentyn sydd mewn perygl.
Diffiniad
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CRhB) -
Ffurf ar gamdriniaeth rywiol
a all gynnwys rhyw neu unrhyw ffurf ar weithgarwch rhywiol gyda phlentyn; creu delweddau anweddus a/neu unrhyw ddeunydd anweddus arall sy’n cynnwys plant.
Yn cynnwys plentyn
Mae’n digwydd i’r rheiny sydd hyd at 18 oed.
Yn cynnwys rhyw fath o gyfnewid
Gall y cyfnewid gynnwys rhoi neu atal rhywbeth; megis atal bod yn dreisgar neu fygwth cam-drin person arall.
Gallai fod hwylusydd sy’n derbyn rhywbeth yn ogystal â neu yn lle’r plentyn sy’n cael ei gam-fanteisio.
Mae’n bosibl na fydd plant yn adnabod natur gamfanteisiol y berthynas neu’r cyfnewid. Gallai plant deimlo eu bod wedi rhoi caniatâd.
Sail tystiolaeth
- Mae cyfnewid yn rhan hanfodol o gamdriniaeth trwy GRhB. Cyfnewid yw’r hyn sy’n gwneud CRhB yn wahanol i ffurfiau eraill ar gamdriniaeth rywiol ar blant. Gallai’r peth a gyfnewidir fod yn ddiriaethol (arian, nwyddau, llety, profiadau) neu/a gallai gynnwys bodloni angen emosiynol, angen sy’n ymwneud â hunanhyder neu ryddid o rywbeth megis trais corfforol neu fygythiadau i rywun sy’n bwysig i’r plentyn. Gallai fod person sy’n hwyluso a/neu sy’n trefnu cam-fanteisio ar blentyn ac sy’n derbyn rhywbeth yn ogystal â neu yn lle’r plentyn. Efallai y mae’r person hwn neu nad yw’r person hwn yn cam-drin y plentyn yn rhywiol.
- Mae meithrin perthnasau amhriodol ar-lein yn cynnwys sefyllfa lle bo person yn cyfathrebu gydag ac yn ymdrechu creu perthynas gyda phlentyn gyda’r bwriad o’i roi mewn sefyllfa lle y gall gael ei gam-drin. Gall meithrin perthnasau amhriodol ar-lein ddigwydd ar-lein neu all-lein a bydd yn aml yn cynnwys y person sy’n meithrin y berthynas amhriodol yn creu perthynas gyda’r plentyn lle y mae’n teimlo’n bwysig ac wedi’i ddeall. Gallai meithrin perthnasau amhriodol ar-lein gynnwys darparu nwyddau materol neu brofiadau. Mae pobl sy’n meithrin perthnasau amhriodol yn gweithio i ddatblygu sefyllfa lle bo’r plentyn yn ymddiried ynddynt a/neu’n teimlo y gall y bobl hyn roi iddo rywbeth na all ei gael gan rywun arall. Gallai hyn fod yn gyfeillgarwch, perthynas y mae’r plentyn yn credu ei fod yn berthynas rhamantus, ymdeimlad o berthyn neu ymdeimlad o bwysigrwydd lle y caiff statws neu nwyddau sy’n creu argraff ar ei gyfoedion. Yn aml meithrinir perthnasau amhriodol i gael plant mewn sefyllfa lle y gall cyflawnwr neu hwyluswr gamfanteisio’n rhywiol ar y plentyn. Fodd bynnag, nid yw’r broses o feithrin perthnasau amhriodol yn amlwg ym mhob achos o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Gall plant ddod i gysylltiad â chyflawnwyr mewn llawer o wahanol ffyrdd a gall yr amser rhwng y cysylltiad cyntaf a’r gamdriniaeth yn digwydd fod yn fyr iawn.
- Yn aml defnyddir gorfodaeth a rheolaeth gan gyflawnwyr a hwyluswyr CRhB fel offeryn i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Gall hyn gynnwys rheolaeth trwy roi i’r plentyn rywbeth mae ei eisiau neu’i angen megis arian, alcohol neu gyffuriau, perthynas/perthnasau, addewid i gadw’r plentyn yn ddiogel rhag pobl eraill neu lety. Neu gellir rheoli trwy fygwth y caiff y pethau hyn eu tynnu yn ôl os na fydd y plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Gall gorfodaeth fod yn fygythiadau o drais corfforol neu drais corfforol go iawn, camdriniaeth emosiynol neu fygythiadau i frifo rhywun sy’n bwysig i’r plentyn. Fodd bynnag gall CRhB ddigwydd heb unrhyw arwyddion amlwg o orfodaeth neu reolaeth.
- Bydd y ffordd y deallir cam-fanteisio gan blant yn amrywio fesul plentyn. Gall plant sy’n cael eu cam-drin trwy GRhB fethu ag adnabod eu profiadau’n rhai gamfanteisiol. Fodd bynnag, mae llawer o blant yn deall eu bod yn cael eu cam-fanteisio ond gallant gael trafferth datgelu neu geisio helpu oherwydd stigma neu oherwydd bod y peth maent yn ei dderbyn yn gyfnewid am y gamdriniaeth yn bwysig iddynt. Gallai rhai plant ddeall eu bod yn cael eu camfanteisio ond maent yn dal i gredu mai’r camfanteisio yw’r dewis gorau sydd ar gael iddynt oherwydd bod eu dewisiadau wedi’u cyfyngu. Gallai rhai plant deimlo bod ganddynt ddiffyg rheolaeth dros y penderfyniadau gaiff eu gwneud amdanynt mewn meysydd eraill o’u bywyd a bod y cyfnewid sy’n rhan o’r ffurf hwn ar gamdriniaeth yn rhoi iddynt ymdeimlad o reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd iddynt mewn un rhan o’u bywydau. Gallai rhai plant dderbyn camdriniaeth yn rhan arferol o’u bywyd neu deimlo eu bod yn ei haeddu oherwydd profiadau cynt o gamdriniaeth neu deimladau o ddiffyg gwerth.
- Cydsyniad: Yr oedran cydsyniad (oedran cyfreithiol i gael rhyw) yn y DU yw 16 oed. Mae’r cyfreithiau i’w cael i amddiffyn plant. Nid ydynt ar gael i erlyn y rhain dan 16 oed sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol yn gydsyniol ar y ddwy ochr ond cânt eu defnyddio os yw’r gweithgareddau hyn yn cynnwys camdriniaeth neu gamfanteisio. I helpu i amddiffyn plant iau mae’r gyfraith yn dweud na all unrhyw un dan 13 oed roi cydsyniad yn gyfreithiol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn sy’n 12 oed neu’n iau yn destun cosbau a nodir yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003. Mae’r gyfraith hefyd yn amddiffyn pobl ifanc sy’n 16 i 17 oed. Mae’n anghyfreithlon:
- tynnu, dangos neu ddosbarthu ffotograffau anweddus
- talu am neu drefnu gwasanaethau rhywiol
- i berson sydd mewn swydd o ymddiriedolaeth (er enghraifft, athrawon, gweithwyr gofal) gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gydag unrhyw un sydd dan 18 oed.
- Amodau cydsyniad: Rhan o’r rheswm dros beidio ag ystyried CRhB yn ffurf ar gamdriniaeth yn y gorffennol oedd oherwydd yr oedd yn ymddangos bod plant yn cydsynio i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol er mwyn derbyn rhywbeth neu fel y byddai rhywun arall yn derbyn rhywbeth. Rhaid i ni fod yn glir na all plant gydsynio i’w camdriniaeth eu hunain. Fodd bynnag mae’n bwysig adnabod y gallai plant gredu eu bod yn cydsynio neu ei bod yn ymddangos eu bod yn cydsynio a gall y cydsyniad o ‘amodau cydsyniad’ ein helpu i ddeall hyn. Mae ymchwil a wnaed gan Hallett (2017)1 yn awgrymu, er mwyn deall CRhB, fod angen cydnabod bod patrwm o anghenion heb eu bodloni ar gyfer y plentyn yn tanlinellu cyfnewid rhyw. Mae ffactorau megis agweddau at ryw, profiadau’r gorffennol, perthnasau (neu ddiffyg perthnasau), anghenion emosiynol ac economaidd i gyd yn siapio’r cyd-destun y dylem ystyried rhan plentyn mewn camfanteisio’n rhywiol yn rhan ohono.
- Gall camdriniaeth ar-lein ac all-lein gorgyffwrdd:2 Nid yw plant yn gwahaniaethu rhwng y byd ar-lein a’r byd all-lein yn yr un ffordd ag y mae oedolion yn ei wneud ar hyn o bryd ac mae technoleg yn dod yn gynyddol yn rhan allweddol o fywydau cymdeithasol a phrofiadau dysgu plant. Gall CRhB ar-lein ddigwydd trwy rwydweithio cymdeithasol, ystafelloedd sgwrsio, negeseuo sydyn, gwefannau cariadon a llawer mwy o blatfformau. Yn aml mae camfanteisio’n digwydd heb y plentyn y sylweddoli. Gall camfanteisio neu gamdriniaeth fod ar un o’r ffurfiau canlynol:
- annog plentyn i gymryd rhan mewn neu i berfformio gweithgaredd rhywiol
- annog neu ofyn i blentyn dynnu a rhannu delweddau cignoeth o’u hunain
- annog neu ofyn i blentyn ffilmio ei hun yn perfformio gweithgaredd rhywiol
- meithrin perthnasau amhriodol ar-lein
- bwlio
- aflonyddwch
- Seibrfwlio lle bo dioddefwr yn cael ei gyhuddo o anfoesoldeb rhywiol
Nid yw camfanteisio ar-lein bob amser yn arwain at gamdriniaeth gyswllt (efallai na fydd y plentyn byth yn cyfarfod â’r person sy’n ei gam-drin) ond mae’n achosi niwed mawr i’r plentyn. Hefyd gall technoleg hwyluso camfanteisio’n rhywiol ar blant all-lein. Gall cyflawnwyr hefyd ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i nodi pobl ifanc y gallant feithrin perthynas amhriodol gyda nhw at ddibenion CRhB, gallant ddefnyddio bygythiadau i rannu cynnwys neu ddelweddau’r plentyn y maent wedi’u cael ar-lein yn ffordd o arfer rheolaeth dros bletyn a gallent ddenfyddio technoleg i gyfathrebu gyda’r plentyn er mwyn hwyluso camdriniaeth ar-lein trwy GRhB.
Mae Canllaw Arfer Cymru Gyfan – diogelu plant rhag camdriniaeth ar-lein ar gael yng Ngweithdrefnau Diogel Cymru.
- Gall CRhB a phryderon diogelu plant eraill orgyffwrdd: Mae gwahanol fathau o gamdriniaeth a chamfanteisio’n gydberthyn a dyma un o’r rhesymau dros yr angen i’n hymateb ganolbwyntio ar y plentyn yn lle ar y broblem. Gallai plant sy’n cael eu camfanteisio’n rhywiol brofi camdriniaeth rywiol hefyd nad yw’n cynnwys cyfnewid. Rydym yn gwybod bod CRhB yn perthyn yn gryf i faterion diogelu eraill megis mynd ar goll a masnachu plant. Gall mynd ar goll o’r cartref neu leoliad gofal roi plant mewn perygl o gael eu camfanteisio’n rhywiol neu gallai fod yn arwydd bod CRhB eisoes yn digwydd. Mae masnachu plant yn cynnwys symud plentyn o un le i le arall er mwyn camfanteisio arno. Hefyd gallai plant brofi CRhB yn rhan o Gamfanteisio’n Droseddol ar Blant neu gallent gael eu targedu ar gyfer camfanteisio troseddol gan eu bod eisoes yn cael eu camfanteisio’n rhywiol ac i’r gwrthwyneb.3 Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg o ymchwil bod rhai plant sy’n dangos Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (YRhN) yn datgan yn hwyrach eu bod wedi c ael eu cam-drin trwy GRhB.4 Felly gall CRhB fod yn un rhan o brofiad unigol a chymhleth o gamdriniaeth a chamfanteisio cydberthnasol ar gyfer pob plentyn.
- Gall fod yn ddefnyddiol ystyried cysyniadau diogelu cymhleth a diogelu cyd-destunol wrth weithio gyda phlant sydd mewn perygl lle bo camdriniaeth yn gyfarwydd iawn. Fodd bynnag mae CRhB yn ffurf ar gam-drin plant yn rhywiol a dylid ei ystyried gan ddilyn y gweithdrefnau sy’n berthnasol i’r adroddiad am risg sy’n ymwneud â phlentyn (hyd at 18 oed). Brîff Diogelu yn ystod lencyndod
- Yn yr un modd â phob ffurf â cham-drin plant, gall unrhyw blentyn gael ei gam-drin trwy GRhB. Fodd bynnag mae rhai amgylchiadau a phrofiadau sy’n gwneud rhai plant yn benodol agored i niwed. Nid yw hyn yn golygu y caiff pob plentyn â nodweddion sy’n eu gwneud yn agored i niwed ei gam-drin trwy CRhB ac nid yw’n golygu na fydd plant â nodweddion penodol sy’n eu gwneud yn agored i niwed eu cam-drin trwy GRhB.
- Plant gyda phrofiadau plentyndod negyddol: Rydym yn gwybod bod rhai plant yn benodol agored i niwed. Mae Profiadau Plentyndod Negyddol (PPNau)5 yn amrywio o gamdriniaeth gorfforol, rywiol, feddwl a llafar, i blant yn cael eu magu mewn cartref lle bo trais domestig, alcohol a chyffuriau’n cael eu camddefnyddio a rhieni wedi’u gwahanu. Mae tystiolaeth yn dangos bod plant sy’n profi plentyndod straenus o ansawdd gwael yn fwy tebygol o gael canlyniadau llesiant gwael. Mae hyn yn cynnwys plant sydd â phrofiadau cartref neu ofal ansefydlog, plant sydd wedi profi trawma a chamdriniaeth, plant gyda diffyg hunanhyder a phlant sy’n profi problemau gydag addysg, iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol/cyffuriau neu ymddygiad troseddol. Dyma’r plant y mae eu profiadau ac amgylchiadau plentyndod negyddol yn golygu ei bod yn fwy tebygol na chaiff eu hanghenion eu bodloni ac yn ei dro mae hyn yn golygu eu bod yn agored i gael eu camfanteisio allai ymddangos i fod yn ffordd o fodloni’r anghenion hynny. Fodd bynnag, gall plant nad ydynt wedi cael profiadau plentyndod negyddol gael eu camfanteisio’n rhywiol hefyd.
- Plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal a phlant sy’n byw gyda’u teuluoedd: Bydd plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn destun ymyrraeth Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd camdriniaeth, esgeulustod a phrofiadau plentyndod negyddol eraill. Gallai hyn helpu i esbonio pam bod nifer anghyfartal o ddioddefwyr CRhB yn cynnwys plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal a’r ffaith eu bod yn benodol agored i niwed.6 Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o’r plant sy’n cael eu cam-drin trwy GRhB yn byw gartref.7 Mae hyn yn golygu bod gwaith y teulu’n elfen bwysig o ran bodloni anghenion gofal a chymorth plant sy’n cael eu camfanteisio’n rhywiol.
- Merched a bechgyn: Mae tystiolaeth o ymchwil ac ymarfer yn awgrymu bod mwy o ferched yn cael eu cam-drin trwy GRhB na fechgyn; ond nid yw hyn yn golygu nad yw bechgyn yn cael eu camfanteisio’n rhywiol. Gall bechgyn gael eu camfanteisio’n rhywiol ac maent yn cael eu camfanteisio’n rhywiol. Mae ymchwil wedi’i wneud yng Nghymru8 wedi nodi rhai o’r rhesymau dros dan-nodi bechgyn yn ddioddefwyr CRhB. Mae’r ymchwil yn awgrymu na ddeallir cam-drin bechgyn yn dda; bod eu rhan yn CRhB yn benodol gymhleth ac y gallai ymarferwyr gael eu heffeithio gan stereoteips sy’n effeithio ar eu gallu i weld bechgyn yn ddioddefwyr CRhB posibl.
- Plant anabl: Yn ôl ymchwil9, mae plant ag anabledd dysgu’n agored i GRhB o ganlyniad i ffactorau sy’n cynnwys goramddiffyn, allgáu cymdeithasol a diffyg cydnabyddiaeth o’r plant yn fodau rhywiol. Hefyd mae’r ymchwil yn awgrymu bod diffyg ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant ag anableddau dysgu ymysg ymarferwyr hefyd yn cyfrannu at y ffaith bod y plant yn agored i niwed. Mae tystiolaeth o ymarfer yn awgrymu bod plant nad ydynt yn bodloni’r trothwy ar gyfer diagnosis ffurfiol o anabledd dysgu neu nad ydynt erioed wedi cael eu hasesu yn cael eu gorgynrychioli ymysg plant sy’n cael eu cam-drin trwy GRhB. Mae plant ag anabledd yn dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin na phlant nad oes anabledd ganddynt. Yn y grŵp hwn, mae plant ag anhwylderau ymddygiad yn benodol agored i niwed.10
- Plant Du a Gwyn, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME): Mae dioddefwyr camfanteisio rhywiol yn dod o bob cefndir ethnig. Mae ymchwil11 yn tystio yr oedd dau o bob tri defnyddiwr gwasanaeth CRhB rhai gwasanaethau arbenigol yn wyn ac yr oedd un o bob tri yn BAME. Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu y gallai barn ac arferion diwylliannol a chrefyddol, yn benodol y rheiny sy’n gweld gwerth mewn gwyryfdod merched a heterorywioldeb dynion, atal dioddefwyr rhag codi eu lleisiau o ganlyniad i ofni cael eu cosbi neu’u gwrthod gan eu teuluoedd. Yn ôl ymchwil12 nid yw plant Asiaidd yn cael eu nodi na’u hamddiffyn rhan camdriniaeth trwy GRhB.
- Mae CRhB yn cynnwys plant sy’n byw yn y DU a gall hefyd gynnwys plant sy’n cael eu masnachu i’r DU er mwyn cael eu camfanteisio’n rhywiol.
- Plant Strêt a Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol+: Ni waeth sut mae plant yn adnabod eu hunain o ran eu rhywioldeb neu rywedd, gallent gael eu cam-drin trwy GRhB. I blant sy’n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol+, mae ymchwil yn awgrymu y gallai diffyg gwybodaeth a chymorth priodol a theimladau o allgau olygu bod bechgyn yn ceisio cymunedau hoyw ar-lein ac all-lein i oedolion a gallai hyn eu peryglu. Mae’r un ymchwil yn awgrymu y gallai plant Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol+ wynebu rhwystrau ychwanegol i geisio help o cânt eu camfanteisio ac nad yw gweithwyr proffesiynol yn ystyried yn ddigonol bosibilrwydd camdriniaeth trwy CRhB ar gyfer plant Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol+, yn benodol mewn perthnasau lesbiaidd a thrawsrywiol.13
- Unigolion, grwpiau a chriwiau: Mae achosion o Gymru’n cynnwys cyflawnwyr unigol sydd wedi camfanteisio ar blant er eu pleser rhywiol eu hunain ac er budd ariannol. Hefyd mae ymgyrchoedd wedi bod gan yr heddlu sy’n ymwneud ag arestio cyflawnwyr cysylltiedig sy’n gweithredu mewn grwpiau. Mae hefyd tystiolaeth o blant yng Nghymru’n cael eu cam-drin trwy rwydweithiau Llinellau Cyffuriau.
- Grwpiau – yn cynnwys pobl sy’n cyfarfod mewn person neu ar-lein er mwyn sefydlu, cyd-lynu a/neu gymryd rhan mewn gweithgareddau camfanteisio’n rhywiol ar blant mewn ffordd sydd naill ai’n drefnus neu’n fanteisgar.
- Criwiau – yn cynnwys dynion a bechgyn yn bennaf sy’n cymryd rhan mewn unrhyw ffurf ar weithgarwch troseddol (ee, trosedd cyllell neu ladrad) a all gymryd rhan mewn trais yn erbyn criwiau eraill ac sydd â marcwyr y gellir eu nodi, er enghraifft tiriogaeth, enw neu ddillad weithiau.14
- Mae Canllaw Arfer Cymru Gyfan ar ddiogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol hefyd ar gael yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Cyfoed yn camfanteisio ar gyfoed: gall pobl ifanc sydd â, neu sydd heb, nodweddion sy’n eu gwneud yn agored i niwed gael eu cam-drin gan gyfoed. Wrth i bobl ifanc dyfu i fyny a threulio mwy o amser gyda’u ffrindiau, yn yr ysgol ac yn eu cymdogaeth leol, caiff yr hyn sy’n digwydd yn yr amgylcheddau hyn ei adlewyrchu yn natur y gamdriniaeth y maent yn ei phrofi.15 Mae ymchwil wedi llywio’r cysyniad Diogelu Cyd-destunol sy’n cydnabod y gall y gwahanol berthnasau y mae pobl ifanc yn eu creu yn eu cymdogaethau, eu hysgolion ac ar-lein gynnwys trais a chamdriniaeth. Nid yw rhieni a gofalwyr yn dylanwadu ar y cyd-destunau hyn a gall profiadau pobl ifanc o gamdriniaeth y tu allan i’r teulu danseilio perthnasau rhwng rhieni a phlant.16 Dylid ystyried plant sy’n cam-drin trwy GRhB yn blant sydd ag anghenion gofal a chymorth a dylent dderbyn cymorth am Ymddygiad Rhywiol Niweidiol fel y nodir yng Nghanllaw Arfer Cymru Gyfan ar blant lle bo pryderon am ymddygiad rhywiol niweidiol ar gael i’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Camfanteisio o fewn teuluoedd: Gall CRhB ddigwydd mewn teuluoedd ac mae yn digwydd mewn teuluoedd. Nid yw’r ffaith bod y rhan fwyaf o GRhB yn digwydd y tu allan i’r teulu yn golygu nad yw CRhB yn digwydd o fewn teuluoedd neu’n cael ei hwyluso gan aelod teulu. Mae achosion wedi bod yng Nghymru lle bo rhieni wedi cael budd ariannol trwy gamfanteisio ar eu plant y maent wedi’u cynnig i bobl eraill am ryw yn gyfnewid am arian. Yr elfen sy’n gwahaniaethu hyn o ffurfiau eraill ar gam-drin rhywiol ar blant o fewn teuluoedd (a allai fod yn digwydd ar yr un pryd) yw bod arian neu nwyddau’n cael eu cyfnewid gydag aelod teulu sy’n cael budd o blentyn o’r teulu’n cael ei dam-drin.
Nodi ac adrodd Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CRhB)
Promt i ymarferwyr
Mae’r prompt hwn yn rhoi gwybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o nodi CRhB yn gyson. Wrth ystyried risg CRhB mae’n hanfodol bod dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn sy’n ystyried anghenion cyfannol y plentyn yn cael ei ddefnyddio. Dylai rheoli risgiau fod yn un elfen yn unig o’r ymateb i anghenion gofal a chymorth plant lle bo CRhB yn bryder.
Dylai pawb sy’n gweithio gyda phlant fod yn ymwybodol o’r arwyddion bod plentyn yn cael ei gamfanteisio’n rhywiol gan ddeall eu dyletswydd i roi gwybod yn swyddogol am blentyn sydd mewn perygl. Siaradwch â’ch rheolwyr neu’ch arweinydd diogelu am unrhyw bryderon sydd gennych a gwnewch atgyfeiriad diogelu plant i Wasanaethau Cymdeithasol eich awdurdod lleol. Os ydych yn amau bod plant mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio dylech ffonio’r Heddlu ar 999.
Arwyddion corfforol: cleisiau, anafiadau heb esboniad, clefydau wedi’u trosglwyddo’n rhywiol.
Arwyddion emosiynol: tawedog, newidiadau eithafol i hwyliau, dicter, hunan-niweidio, hunanladdol, wedi ymddieithrio.
Arwyddion materol: ffôn symudol/ offer technolegol, dillad/ esgidiau, o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau’n aml, ag arian, pan nad oes esboniad rhesymol dros sut maent wedi cael neu dalu am y pethau hyn.
Arwyddion ymddygiadol: cyfrinachgar, mynd ar goll am gyfnodau, mynd i mewn i neu adael ceir a yrrir gan oedolion anhysbys, wedi’i ddisgrifio’n allan o reolaeth neu fod ganddynt ymddygiad mentrus gan eu teulu, eu gofalwyr neu’u hymarferwyr, pryderon am y ffordd y mae’r plentyn yn defnyddio ei ffôn symudol neu’r rhyngrwyd.
Mae ar bartneriaid perthnasol ddyletswydd statudol i Adrodd Plant sydd mewn perygl dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Social Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Mae hyn yn golygu atgyfeirio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol pan fo gennych unrhyw bryderon bod plentyn mewn perygl. Dylech sicrhau eich bod yn deall y broses ar gyfer atgyfeirio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r wybodaeth fydd ei hangen arnynt – siaradwch â’ch rheolwr.
Os ydych yn gweithio mewn lleoliad iechyd ac â gwybodaeth gyfyngedig am blentyn gallwch ddefnyddio’r Holiadur Risg Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSERQ) i lywio eich penderfyniad am wneud atgyfeiriad amddiffyn plant. www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/91733#CSE
Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CRhB) yn ffurf a gam-drin yn rhywiol ar blant sy’n cynnwys elfen o gyfnewid rhwng y plentyn sy’n cael ei gam-drin a’r person sy’n cam-drin y plentyn.
Nid yw plant (mae hynny’n golygu unrhyw un hyd at 18 oed) sy’n cael eu cam-drin yn debygol o ddweud wrth unrhyw un am yr hyn sy’n digwydd iddynt. Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth a gallai fod oherwydd eu bod yn ofni’r hyn fydd yn digwydd pe baent yn dweud wrth rywun, oherwydd nad ydynt yn cydnabod eu bod yn cael eu cam-drin, oherwydd eu bod yn ofni na fydd unrhyw un yn eu credu neu y byddant yn cael eu barnu neu oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn arfer rheolaeth dros yr hyn sy’n digwydd iddynt mewn rhyw ffordd.
Yn yr un modd â phob ffurf ar gam-drin plant, gall unrhyw blentyn gael ei gamfanteisio’n rhywiol. Fodd bynnag rydym yn gwybod bod rhai plant yn benodol agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys plant sydd â phrofiadau cartref neu ofal ansefydlog, plant sydd wedi profi camdriniaeth ynghynt yn eu plentyndod, plant gyda diffyg hunanhyder a phlant sy’n profi problemau gydag addysg, iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol/cyffuriau neu ymddygiad troseddol. Mae tystiolaeth y gallai plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu anawsterau gweithredu fod yn benodol agored i niwed. Mae bechgyn a dynion ifanc yn cael eu camfanteisio’n rhywiol yn ogystal â merched a menywod ifac. Mae tystiolaeth o rwystrau ychwanegol at ddatgelu a nodi i rai plant gan gynnwys plant Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME); plant anabl a phlant LQBT+.
Bydd y ffordd y deallir camfanteisio gan blant yn amrywio fesul plentyn. Gall plant fethu ag adnabod eu profiadau’n rhai gamfanteisiol. Fodd bynnag, mae llawer o blant yn deall eu bod yn cael eu camfanteisio ond gallant gael trafferth datgelu neu geisio helpu oherwydd stigma neu oherwydd bod y peth maent yn ei dderbyn yn gyfnewid am y gamdriniaeth yn bwysig iddynt. Gallai rhai plant ddeall eu bod yn cael eu camfanteisio ond maent yn dal i gredu mai’r camfanteisio yw’r dewis gorau sydd ar gael iddynt oherwydd bod eu dewisiadau wedi’u cyfyngu. Gallai rhai plant dderbyn camdriniaeth yn rhan arferol o’u bywyd neu deimlo eu bod yn ei haeddu oherwydd profiadau cynt o gamdriniaeth neu deimladau o ddiffyg gwerth.
Yn yr un modd ag unrhyw ffurf ar gam-drin plant mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn gweithredu ar eu pryderon. Rydym yn gwybod y gallai gwahanol bobl sy’n rhan o fywyd plentyn fod â gwahanol ddarnau o wybodaeth neu bryderon sydd, ar eu pennau eu hun, yn peri gofid ond nid ydynt yn cyfiawnhau ymchwilio pellach, ond wrth ddod â nhw ynghyd gall y pryderon hyn dystio bod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth.
Dylid ystyried unrhyw anghenion gofal a chymorth plant sydd wedi’u nodi’n rhai sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio’n rhywiol er mwyn atal camdriniaeth. Fel arfer mae camdriniaeth trwy GRhB y tu allan i’r teulu (ond nid yw hi bob amser). Mae hyn yn cynnig cyfle i weithio gyda rhiant/gofalwyr a theuluoedd i gadw’r plentyn yn ddiogel ac i fodloni anghenion gofal a chymorth mewn ffordd a fydd yn lleihau’r risg o GRhB. Fodd bynnag, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o unrhyw faterion diogelu neu gofal a cymorth yn y teulu.
Ymateb cymesur
- Os yw’r plentyn mewn perygl uniongyrchol neu’ch bod yn amau y gall fynd ar goll cyn y gellir sicrhau ei ddiogelwch cysylltwch â’r Heddlu ar 999.
- Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu bodloni heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol er mwyn asesu ei anghenion.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Adran 7, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” yn blentyn sydd:
- a) yn profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu mewn perygl o wneud hynny; ac
- b) ag anghenion gofal a chymorth (p’un a ydynt yn cael eu bodloni gan yr awdurdod ai peidio).
Pan fod plentyn wedi’i adrodd dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes seiliau dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad wedi’i dderbyn yn perthyn i blentyn mewn perygl byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth ar a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth. Dylai cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol sy’n berthnasol i’r plentyn ac unrhyw Wasanaeth Troseddau Ieuenctid sy’n berthnasol i’r plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth. Ni ddylai fod unrhyw oedi mewn ymateb i wybodaeth am blentyn mewn perygl oherwydd nad yw’r plentyn yn byw yn ardal yr awdurdod lleol lle y nodwyd y mater diogelu.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth yn nodi nad oes seiliau dros symud ymlaen at Gyfarfod Strategaeth neu at Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio ar gyfer gwaith ataliol i leihau tebygrwydd risg o niwed yn y dyfodol.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddifyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Lle bo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth gwybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion yn cael eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y mater.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol ddarllen Canllawiau Arfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol megis Mynd ar goll o’r cartref neu leoliad gofal, Masnachu Plant, Camfanteisio’n Droseddol ar Blant (CDB) neu Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (YRhN).
- Rhaid i bob plentyn y nodir ei fod wedi’i fasnachu o bosibl gael ei atgyfeirio i’r gwasanaeth Hyfforddwyr Masnachu Plant Annibynnol a bydd y gwasanaeth HMPA yn dyrannu’r achos er mwyn i’r plentyn gael cymorth uniongyrchol neu i gael gymorth gan Gydlynydd Arfer Rhanbarthol y gwasanaeth HMPA. Gallai atgyfeirio’n gyflym ar ôl nodi helpu i leihau nifer y plant sy’n mynd ar goll ac sy’n cael eu hailfasnachu.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Lle bo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn yn benodol o ran cael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth gyda nhw sy’n cynnwys esboniad am rôl Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y gellir ei wneud ac na ellir ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail eu dymuniadau a’u teimladau, ei annibyniaeth a sut mae’n gweithio’n unig ar gyfer y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – mae’n esbonio hawl statudol plant a phobl ifanc i gael eu cefnogi i fynegi eu bar, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i gyflwyno sylwadau neu gwynion.
Cynllunio ar gyfer plentyn wrth iddo droi’n 18 oed
- Ni chaiff rhai plant eu nodi’n blant sydd wedi’u cam-drin trwy GRhB neu’n ddioddefwr masnachu nes y byddant yn hŷn. Mae dyletswyddau amddiffyn plant ar eu cyfer yn parhau i fod ar waith nes y dyddiad y byddant yn troi’n 18 oed.
- Bydd rhai plant yn parhau i fod mewn perygl o drais a chamfanteisio rhywiol pan fyddant yn oedolion. Mae’n bwysig bod cynllunio ar gyfer y plentyn yn cynnwys atgyfeirio prydlon i’r wasanaethau i oedolion wrth i’w ben-blwydd yn 18 oed agosáu. Os yw’r plentyn yn derbyn gofal wedyn dylai’r materion hyn gael eu hystyried yn rhan o’r broses gynllunio Llwybr.
- Dylid gwneud trefniadau i’r achos gael ei adrodd yn un sy’n cynnwys oedolyn mewn perygl gan bartner perthnasol dan Adran 128 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Dylid ystyried a yw’r achos yn un i gael ei atgyfeirio i Bawso 0800 731 8147, New Pathways 01685 379 310 (Canol, Gorllewin a De Cymru) neu Cymorth i Fenywod yng Nghymru 0808 80 10 800.Gallant roi cymorth i ddioddefwyr sy’n oedolion o fasnachu, caethwasiaeth fodern a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a trais rhywiol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Byw Heb Ofn
Atodiadau
Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Mae ar staff rheng flaen penodol sy’n dod ar draws ddioddefwr posibl caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl ddyletswydd i roi gwybod i’r Swyddfa Gartref dan Adran 52 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Gangmasters Labour and Abuse Authority. Mae canllawiau ac adnoddau atodol wedi’u cyhoeddi mewn perthynas â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
1 Hallett, S. (2017) Making sense of child sexual exploitation: exchange, abuse and young people. Bristol: Policy Press.
2 Fox, C. and Kalkan, G. (2016) Barnardo’s Survey on Online Grooming Barkingside: Barnardo’s
3http://www.nationalcrimeagency.gov.uk/publications/832-county-lines-violence-exploitation-and-drug-supply-2017/file
4 Barnardo’s Cymru – Boys 2 research, 2018
5http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/88524
6 J. Lerpiniere et al (2013) Research Report RR-2013-05 :The Sexual Exploitation of Looked After Children in Scotland: A scoping study to inform methodology for inspection, Scotland: CELCIS https://www.celcis.org/files/9114/3877/4674/Sexual-Exploitation-of-Looked-After-Children.pdf
7https://www.manchestersafeguardingboards.co.uk/wp-content/uploads/2016/06/Licensing-LGA-CSE-myth-v-reality.pdf
8 M.Thomas and E.Speyer (2016) ‘I Never Spoke About It’...Supporting sexually exploited boys and young men in Wales’, Cardiff: Barnardo’s Cymru.
9 A.Franklin, P.Raws and E.Smeaton (2015) Unprotected, overprotected: meeting the needs of young people with learning disabilities who experience, or are at risk of, sexual exploitation. The report was commissioned by Comic Relief, and undertaken by Barnardo’s, The Children’s Society, British Institute of Learning Disabilities (BILD), Paradigm Research and Coventry University.Download the Wales Briefing
10 Miller, D; Brown, J (2014) ‘We have the right to be safe’: Protecting disabled children from abuse.
11C. Fox (2016) It’s not on the radar’ The hidden diversity of children and young people at risk of sexual exploitation in England, Barkingside: Barnardo’s https://www.barnardos.org.uk/it_s_not_on_the_radar_report.pdf
12 S. Gohir (2013) Unheard Voices, The Sexual Exploitation of Asian Girls and Young Women, MUSLIM WOMEN’S NETWORK UK, http://www.mwnuk.co.uk//go_files/resources/UnheardVoices.pdf
13 C. Fox (2016) See 13 above
14 S. Berelowitz et al (2013) “If only someone had listened” Office of the Children’s Commissioner’s Inquiry into Child Sexual Exploitation in Gangs and Groups Final Report
15 C. Firmin and G.Curtis, MsUnderstood Partnership (2015) Practitioner Briefing #1: What is peer-on-peer abuse? University of Bedfordshire http://msunderstood.org.uk/assets/templates/msunderstood/style/documents/MSUPB01.pdf
16https://contextualsafeguarding.org.uk/about/what-is-contextual-safeguarding
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF