Mae'r canllaw ymarfer hwn i'w ddefnyddio o 21 Mawrth 2022, pan ddaw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2022
Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar gyfer pwy y mae’r canllaw ymarfer hwn?
Mae'r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed), eu rhieni a'u gofalwyr neu unrhyw un sy'n gweithredu in loco parentis1. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar, gofal plant, darpariaeth chwarae, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddau ieuenctid ac ieuenctid, cymunedol a gwasanaethau cefnogaeth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn helpu unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a chyfrifoldebau o ran sicrhau bod plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw ymarfer yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu lle effeithir ar blentyn gan gosb gorfforol. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob ardal awdurdod lleol gael eu hategu gan ddwy brif egwyddor:
- mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb; er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol dylai pob ymarferydd a sefydliad chwarae rhan lawn yn unigol a thrwy gydweithredu; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn; er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol i’r plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo ef. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull hwn a’i fudd personol ddylai gael y sylw pennaf bob amser.
Mae rhai materion sy’n gyffredin yn yr holl ganllawiau ymarfer diogelu ac mae rhai sy’n benodol i’r mater diogelu dan sylw:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hawl i dyfu yn iach, hapus a diogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a chael cefnogaeth briodol i wella yn dilyn camdriniaeth.Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Hawliau Plant yn unol â’r ddyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
- Rhaid i asiantaethau gydweithio er mwyn cynnig ymateb cydgysylltiedig i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae gan bartneriaid perthnasol Ddyletswydd i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Diogelu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae rhannu gwybodaeth yn ganolog i ymarfer diogelu da. Mae’n rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn galluogi rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r amgylchiadau penodol pan fo angen rhannu gwybodaeth yw i atal camdriniaeth neu niwed difrifol rhag digwydd i eraill. Pan na chaiff gwybodaeth ei rhannu yn amserol ac effeithiol, gall penderfyniadau o ran sut i ymateb fod yn seiliedig ar anwybodaeth a gall hynny arwain at ymarfer diogelu gwael a golygu bod plant yn wynebu risg o niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, canolbwyntio ar y plentyn a bod ar sail anghenion unigol ac amgylchiadau’r plentyn. Rhaid i blant fod yn rhan ystyrlon o broses gynllunio eu gofal a’u cefnogaeth.
- Rydym yn gwybod bod plant anabl neu â nam ar eu synhwyrau yn wynebu risg uwch o gael eu cam-drin o gymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Maen nhw hefyd yn llai tebygol o gael yr amddiffyniad a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt ar ôl cael eu cam-drin. Dylai ymarferwyr gydnabod yn agored bod plant anabl neu blant sydd â nam ar eu synhwyrau yn fwy agored i gamdriniaeth a chosb gorfforol, a chydnabod y rhwystrau y gallant eu hwynebu, yn arbennig o ran cyfathrebu, a dylent alluogi unrhyw ddulliau diogelu ychwanegol y mae eu hangen i ddiogelu plant anabl neu blant â nam ar eu synhwyrau.
- Dylai ymarferwyr ymgyfarwyddo â diwylliant a chredoau’r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn ynghylch ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn effro i’r posibilrwydd bod plentyn mewn risg o niwed waeth ble mae’n byw, boed mewn gofal maeth, lleoliad mabwysiadol neu gartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu’r rhai sydd wedi eu mabwysiadu berthnasoedd a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd neu deulu biolegol arall. Gall y perthnasoedd hyn ac unrhyw gyswllt fod yn gadarnhaol ac yn rhywbeth i’w groesawu, neu gallant fod yn ddigroeso a chael eu hystyried yn risg. Gall profiad blaenorol plant o gamdriniaeth a chob gorfforol olygu eu bod yn wynebu risg o brofi anawsterau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylid gweld a chlywed plant. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Ymarfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr ar eu pen eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd plentyn, lle ni ofynnwyd am ei farn a’i deimladau neu lle na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando yn uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n hyrwyddo ymarfer diogelu da.2
- Mae'r canllaw ymarfer hwn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu mewn perthynas â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (Deddf Plant Cymru). Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Nid yw Deddf Plant Cymru yn creu trosedd newydd; mae'n diddymu amddiffyniad i'r troseddau presennol o ymosod ar blentyn neu ei guro. Yn gyffredinol, felly, nid oes unrhyw newidiadau o ran diogelu3 a phrosesau cyfiawnder troseddol4 gan fod amddiffyniad cosb resymol yn cael ei ddileu ym mis Mawrth 2022 pan ddaw Adran 1 o Ddeddf Plant Cymru i rym.
- Fodd bynnag, mae'r canllaw ymarfer hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ymarferwyr am yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei olygu i'w hymarfer.
Beth yw cosb gorfforol?
- Nid yw'n bosibl rhoi rhestr benodol o'r hyn sydd gyfystyr â chosb gorfforol oherwydd gall gynnwys unrhyw beth lle mae plentyn yn cael ei gosbi gan ddefnyddio grym corfforol. Yn ôl y gyfraith, ystyrir bod cosbi plentyn yn gorfforol yn ymosodiad cyffredin5.
Beth yw ystyr niwed corfforol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Nid yw dileu'r amddiffyniad cosb resymol yn Neddf Plant Cymru yn cael unrhyw effaith ar ystyr 'niwed corfforol' o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), na 'niwed arwyddocaol' o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn a olygir wrth 'niwed arwyddocaol' a sut rydym yn diffinio gwahanol fathau o niwed. Yn unol â chanllawiau statudol6 diffinnir Niwed Corfforol fel 'taro, slapio, gorddefnydd neu gamddefnydd o feddyginiaeth, atal corfforol gormodol, neu sancsiynau amhriodol.’ Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Beth sy’n newid?
Cafodd Deddf Plant Cymru Gydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020 a bydd yn dod i rym ddydd Llun 21 Mawrth 2022.
Cyn 21 Mawrth 2022
Mae cosb gorfforol wedi bod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant ers peth amser. Fodd bynnag, os yw rhiant, gofalwr neu unigolyn sy'n gweithredu in loco parentis mewn lleoliad heb ei reoleiddio (e.e. lleoliadau dysgu rhan-amser neu leoliadau addoli, chwarae a hamdden) yn cael eu cyhuddo o ymosodiad cyffredin tra’n gofalu am blentyn sydd yn eu gofal, gallent geisio amddiffyn eu gweithredoedd drwy ddweud bod y gosb yn rhesymol. Mae amddiffyniad cosb resymol yn amddiffyniad i'r troseddau cyfraith gyffredin presennol o ymosod a churo7, i rieni a'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis8 yn unig; nid yw'n amddiffyniad llwyr9. Nid yw ar gael ar gyfer unrhyw lefel o ymosodiad sy’n fwy difrifol nag ymosodiad cyffredin, megis niwed corfforol gwirioneddol.
O 21 Mawrth 2022
Pan ddaw Adran 1 o Ddeddf Plant Cymru i rym, bydd yn dileu'r amddiffyniad cosb resymol. O'r adeg hon, bydd unrhyw gosb gorfforol yn erbyn plant yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys drwy law rhieni, gofalwyr ac unrhyw un sy'n gweithredu in loco parentis mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.
Mae dileu'r amddiffyniad cosb resymol yn ei gwneud yn haws i blant, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a'r cyhoedd ddeall y gyfraith. Bydd hyn yn gwella gallu ymarferwyr sy'n gweithio gyda theuluoedd i amddiffyn plant drwy ddileu'r posibilrwydd o ddryswch sy’n bodoli ar hyn o bryd ynghylch beth sy'n lefel dderbyniol o gosb gorfforol. Bydd hefyd yn golygu y gall ymarferwyr ddarparu cyngor clir, diamwys i rieni a gofalwyr bod unrhyw lefel o gosb gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Bydd yn helpu i ddiogelu hawliau plant ac yn anfon neges glir: nid yw cosbi plant yn gorfforol yn cael ei oddef yng Nghymru.
Pam mae'r gyfraith yn newid?
- Nod cyffredinol Deddf Plant Cymru yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd rhieni, gofalwyr a'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis yng Nghymru rhag cosbi plant yn gorfforol, gan gynnwys ymwelwyr â Chymru. Wrth wneud hynny, bydd plant yng Nghymru yn cael yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiadau ag oedolion.
- Bwriad y ddeddfwriaeth, ynghyd â’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i rieni a gofalwyr fabwysiadu dulliau rhianta cadarnhaol10, yw sicrhau gostyngiad pellach yn y defnydd a’r goddefgarwch o gosb gorfforol yn erbyn plant yng Nghymru.
- Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol yn erbyn plant, waeth pa mor fach, yn anghydnaws â hawliau dynol plant o dan Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o drais), ac mae wedi galw am ei diddymu. Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi sylw cyffredinol i dynnu sylw at y ffaith bod gan blant, fel pawb arall, hawl i barch i’w hurddas dynol, eu cyfanrwydd corfforol ac amddiffyniad cyfartal o dan y gyfraith.11
I bwy y bydd y newid yn y gyfraith yn berthnasol?
Mae Deddf Plant Cymru yn gymwys i unrhyw un yng Nghymru sy'n gofalu am blant (dan 18 oed). Gall hyn fod fel:
- Rhiant, gwarcheidwad cyfreithiol neu berson sy’n meddu ar hawliau rhiant y plentyn.
- Person sy'n gyfrifol am y plentyn ar adeg y digwyddiad (er enghraifft modrybedd, ewythrod, neiniau a theidiau, ffrindiau a gwarchodwyr, oedolion sy'n rhedeg clybiau neu grwpiau eraill ar gyfer plant, gan gynnwys lleoliadau dysgu heb eu rheoleiddio, lleoliadau addoli, chwarae neu hamdden ac au pairs).
Fel gyda chyfreithiau eraill, bydd hefyd yn berthnasol i ymwelwyr â Chymru.
Mae cosb gorfforol wedi bod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant ers peth amser. Yn dilyn y newid hwn yn y gyfraith, bydd pob cosb gorfforol yn erbyn plant yng Nghymru yn anghyfreithlon ym mhob lleoliad.
Pa weithredoedd fydd neu fydd ddim yn dderbyniol gan rieni ar ôl i'r amddiffyniad gael ei ddileu?
- Mae gwahaniaeth rhwng cosb gorfforol a'r rhyngweithio corfforol sy'n digwydd rhwng rhieni a phlant bob dydd. Mae'r gyfraith gyffredin yn cydnabod bod rhai ymyriadau corfforol a wneir gan rieni, wrth arfer awdurdod rhiant mewn perthynas â phlant, yn angenrheidiol ac yn gyfreithlon.
- Mae oedolion yn defnyddio ymyriadau corfforol i gadw plant yn ddiogel rhag niwed, fel dal plentyn yn ôl rhag rhedeg i’r ffordd neu ddal plentyn yn gorfforol i'w atal rhag anafu ei hun neu eraill, neu i'w atal rhag rhoi ei law mewn tân neu ar arwyneb poeth. Mae'r mathau hyn o ymyriadau yn ymwneud â chadw plentyn yn ddiogel. Fodd bynnag, pe bai rhiant yn gweld ei blentyn yn gwneud rhywbeth peryglus ac yn ymateb drwy ei gosbi'n gorfforol, ni fyddai hyn yn dderbyniol o dan y gyfraith.
- Mae rhieni'n cwtsio, brwsio gwallt, brwsio dannedd, chwarae’n 'arw', a chodi plant i seddi ceir bob dydd. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn atal unrhyw un o'r gweithgareddau hyn – nid yw ond yn ceisio rhoi terfyn ar gosb gorfforol. Efallai y bydd amgylchiadau lle gallai ymyriad corfforol o'r fath fod yn gyfystyr â chosb gorfforol. Er enghraifft, mae gwahaniaeth rhwng annog a chynorthwyo plentyn nad yw'n cydweithredu i frwsio ei ddannedd i gynnal hylendid deintyddol da a brwsio’i ddannedd yn galed gyda'r bwriad o achosi poen i blentyn fel cosb am beidio â chydweithredu.
- Dylai'r amgylchiadau, y cyd-destun ehangach a bwriad y rhiant neu'r gofalwr lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch a yw'r weithred yn debygol o gael ei hystyried yn gosb gorfforol ac felly'n anghyfreithlon.
- Cefnogir y ddeddfwriaeth gan gyngor i rieni a gofalwyr ar ffyrdd amgen o annog ymddygiad cadarnhaol mewn plant gan gynnwys drwy'r ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo.
Sail Tystiolaeth - Effaith cosb gorfforol ar blant
- Nododd adolygiad o dystiolaeth a gyhoeddwyd yn12 2018:
- fod y rhan fwyaf o ymchwilwyr yn y maes o’r farn y gallai pob cosb gorfforol o dan unrhyw amod fod yn niweidiol i blant;
- er nad oes tystiolaeth bendant fod cosb gorfforol 'resymol' yn achosi canlyniadau negyddol i blant, ceir tystiolaeth ei bod yn gysylltiedig â chanlyniadau negyddol;
- nid yw cosb gorfforol yn erbyn plant herfeiddiol yn fwy effeithiol o ran newid ymddygiad byrdymor na mathau eraill digorfforol o ddisgyblu; ac
- nid oes unrhyw dystiolaeth ddibynadwy sy'n dangos bod gan gosb gorfforol 'resymol' fanteision datblygiadol hirdymor, neu ei bod yn fwy effeithiol o ran newid ymddygiad byrdymor o gymharu â dulliau digorfforol eraill.
- Canfu dadansoddiad o 20 mlynedd o ymchwil13:
- nad yw cosbi plant yn gorfforol yn effeithiol o ran gwella ymddygiad plant.
- cysylltiad pendant rhwng cosb gorfforol a phroblemau ymddygiadol megis ymddygiad ymosodol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- nad oes unrhyw astudiaeth yn dangos bod cosb gorfforol yn lleihau ymddygiad problemus nac yn annog canlyniadau cadarnhaol.
Ymateb i Bryderon
Aelodau’r cyhoedd
Yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, cynghorwyd aelodau'r cyhoedd, drwy'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth, y dylid rhoi gwybod i’r Awdurdod Lleol cyn gynted â phosibl os oes ganddynt bryderon am achos o ymosod ar blentyn. Os oes pryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch plentyn, dylent gysylltu â'r heddlu.
Ymarferwyr
Dylai ymarferwyr barhau i ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ôl yr arfer.
Ymateb cymesur
- Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chefnogaeth na all ei rieni/gofalwyr eu bodloni heb gefnogaeth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yr awdurdod lleol perthnasol er mwyn asesu ei anghenion.
- Dylai ymarferwyr ddilyn y polisi diogelu ar gyfer y lleoliad lle maent yn gweithio a thrafod unrhyw bryderon am blentyn gyda'u rheolwr a/neu Berson/Arweinydd Diogelu Dynodedig. Fodd bynnag, os nad yw'n bosibl cysylltu â'r person hwn am unrhyw reswm, dylai'r ymarferydd roi gwybod yn uniongyrchol i Wasanaethau Cymdeithasol Plant ei awdurdod lleol. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylai gysylltu â'r Heddlu.
- Mae gan bartneriaid perthnasol Ddyletswydd i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg (Adran 130) dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn sy’n wynebu risg” yn blentyn: a) sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, (b) y mae arno anghenion gofal a chefnogaeth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn bodloni unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio).
Plant sy'n ymweld â Chymru
- Pan fo trosedd wedi'i chyflawni yng Nghymru, yr un yw'r trefniadau ar gyfer ymateb, waeth ble mae'r plentyn yn preswylio (byw) fel arfer.
- Ni ddylai fod unrhyw oedi mewn ymateb i wybodaeth am blentyn sy’n wynebu risg gan nad yw’r plentyn yn byw yn ardal yr awdurdod lleol lle nodwyd y mater diogelu.
Ymateb i achosion o ymosod ar blentyn pan gânt eu hadrodd i'r heddlu
Ar ôl i Ddeddf Plant Cymru ddod i rym, os bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r heddlu neu'n dod i'w sylw, bydd yr heddlu'n parhau i ddilyn gweithdrefnau diogelu a chyfiawnder troseddol arferol.
O 21 Mawrth 2022, pan ddaw Adran 1 Deddf Plant Cymru i rym, bydd yr heddlu'n parhau i fod yn gyfrifol am:
- gynnal ymchwiliadau i unrhyw drosedd honedig;
- cynnal asesiad cychwynnol o ran a oes digon o dystiolaeth bod trosedd wedi'i chyflawni;
- ystyried a yw er budd i’r cyhoedd i gymryd camau pellach, neu a ddylid peidio â chymryd unrhyw gamau pellach. Byddai trafodaethau ‘budd y cyhoedd’ yr heddlu yn ystyried ystyriaethau'r gwasanaethau cymdeithasol, wedi’u cynllunio i fodloni budd pennaf y plentyn; a
- phenderfynu (os cymerir camau pellach) a yw'r drosedd a'r unigolyn sy'n ei chyflawni yn addas ac yn gymwys ar gyfer Datrysiad y Tu Allan i’r Llys (DTALl) neu a ddylid cyfeirio'r achos at GEG am gyngor.
Os bydd yr heddlu'n derbyn adroddiad yr ymosodwyd ar blentyn, byddant yn penderfynu pa gamau i'w cymryd, os o gwbl, yn seiliedig ar ffeithiau ac amgylchiadau unigol yr achos:
- Os nad oes digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen, neu os ystyrir nad yw er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen â'r achos, gall yr heddlu benderfynu cymryd Dim Camau Pellach (DCP). Yn yr achos hwn gallant gyfeirio at wasanaethau ymyrraeth gynnar, megis Teuluoedd yn Gyntaf.
- Os bydd yr heddlu'n penderfynu cymryd camau pellach (e.e. lle mae digon o dystiolaeth a lle ystyrir bod hynny er budd y cyhoedd), byddant yn pennu'r datrysiad mwyaf priodol sy'n briodol i'r amgylchiadau ac yn gymesur â'r drosedd a gyflawnwyd. Mae DTALlau (Datrysiad Cymunedol14 a Rhybudd Amodol15) yn ffordd o ddelio â throseddu llai difrifol ac yn cynnig dewis arall yn lle erlyn drwy'r llysoedd. Mae DTALlau yn canolbwyntio ar adsefydlu, a chaiff amodau eu gosod megis mynychu cwrs.
Cynllun Cefnogaeth Rhianta y Tu Allan i'r Llys
- Mewn achosion lle mae'r heddlu'n penderfynu cymryd camau pellach yn erbyn rhiant sydd wedi cosbi ei blentyn yn gorfforol, bydd opsiwn o gynnig cefnogaeth rhianta wedi'i theilwra ar y cyd â DTALl.
- Bydd cefnogaeth rhianta wedi'i theilwra ar gael ym mhob awdurdod lleol. Bydd y gefnogaeth yn cael ei chynllunio i annog a chefnogi rhieni/gofalwyr i fabwysiadu technegau rhianta cadarnhaol tra'n helpu rhieni/gofalwyr i ddeall pam mae cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau.
- Bydd pob heddlu yn sicrhau bod staff perthnasol yn ymwybodol o'r trefniadau hyn a sut y gellir atgyfeirio.
Atodiadau
Ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth
Mae rhagor o wybodaeth a chefndir ar y newid yn y gyfraith ar gael yma.
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr
Mae cyngor a chefnogaeth ar gael i rieni a gofalwyr plant a dylai ymarferwyr roi gwybod iddynt am y rhain.
Gwybodaeth i blant a phobl ifanc
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddarganfod beth sy'n digwydd yn yr ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, mae Meic yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ac anfeirniadol:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae ar gael fel ffynhonnell o help a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg.
Mae Childline yn wasanaeth am ddim, preifat a chyfrinachol lle gall unrhyw un dan 19 oed gael cefnogaeth a chyngor. Mae gwefan Childline www.childline.org.uk yn cynnwys tudalennau gwybodaeth a chyngor:
1 Mae'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis yn cyfeirio at unrhyw un sy'n gyfrifol am blentyn tra bo'r rhiant yn absennol.
2https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/175391/Munro-Review.pdf
3 Yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru (GDC). Mae GDC yn helpu ymarferwyr i gymhwyso'r ddeddfwriaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllaw diogelu statudol Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl.
4 Yn dilyn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron a’r Safon Gyhuddo ar Droseddau yn Erbyn y Person a gaiff ei diwygio gan Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) i ystyried y newid yn y gyfraith yng Nghymru.
5 Yn Neddf Plant Cymru diffinnir cosb gorfforol fel unrhyw guro a wneir fel cosb, a chyfeirir ato fel "cosb gorfforol".
6working-together-to-safeguard-people-volume-5-handling-individual-cases-to-protect-children-at-risk.pdf (gov.wales)
7 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988, Adran 39.
8 Mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio.
9 Mae Safon Gyhuddo GEG yn esbonio'r terfynau ar ei hargaeledd, ac yn ei gwneud yn glir, hyd yn oed o fewn y terfynau hynny, fod yn rhaid i'r ymddygiad troseddol fod yn rhesymol ac yn gymedrol, gan ystyried ffactorau fel natur a chyd-destun ymddygiad y diffynnydd, hyd yr ymddygiad, goblygiadau corfforol a meddyliol mewn perthynas â’r plentyn, oedran a nodweddion personol y plentyn, a'r rhesymau a roddwyd gan y diffynnydd am roi’r gosb.
10 Mae rhianta cadarnhaol yn cyfeirio at ymddygiad rhieni yn seiliedig ar fudd pennaf y plentyn sy'n meithrin a grymuso, yn ddi-drais ac yn rhoi cydnabyddiaeth ac arweiniad sy'n cynnwys gosod ffiniau i alluogi datblygiad llawn y plentyn (Cyngor Ewrop). Mae'n ymwneud ag annog rhieni i wneud dewisiadau am y math o rieni y maent am fod a mabwysiadu dulliau rhagweithiol a chadarnhaol o reoli ymddygiad eu plentyn.
11 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (2006): 42ain Sesiwn. Sylw Cyffredinol Rhif 8: Hawl y plentyn i amddiffyniad rhag cosb gorfforol a mathau creulon neu ddiraddiol eraill o gosb. Genefa: Y Cenhedloedd Unedig.
12Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru - Cosb Gorfforol Rhiant: Canlyniadau Plant ac Agweddau
13Physical punishment and child outcomes: a narrative review of prospective studies - The Lancet
14 Nid yw Datrysiad Cymunedol yn rhan o gofnod troseddol unigolyn – Fodd bynnag, gellir ei ddatgelu fel rhan o wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae angen derbyn cyfrifoldeb. Nid yw methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau yn arwain at erlyniad am y drosedd ond gall yr heddlu ystyried hyn os yw'r person yn troseddu eto.
15 Gellir cynnig Rhybudd Amodol i berson sydd wedi cyfaddef i gyflawni'r drosedd a lle mae gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth i gyhuddo. Mae'n rhan o gofnod troseddol person. Gall methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau arwain at erlyniad am y drosedd.
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF