Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
I bwy mae’r canllaw ymarfer hwn?
Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddwyr ifanc a phobl ifanc, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw ymarfer hwn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â diogelu plant rhag arferion niweidiol yn ymwneud â thraddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergoeledd. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol gael eu tanategu gan ddwy egwyddor allweddol:
- mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu: i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran yn llawn, yn unigol ac ar y cyd; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn: i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull a dylai ei les gorau bob amser fod o’r pwys mwyaf.
Mae sawl mater sy’n gyffredin ym mhob un o’r canllawiau arfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu sy’n cael ei ystyried:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu bod hawl gan bob plentyn i dyfu’n iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gefnogi’n briodol i wella wedi camdriniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Hawliau Plant yn unol â dyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i roi ymateb ar y cyd i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Diogelu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Mae rhannu gwybodaeth wrth wraidd arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r rhesymau dros rannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth a niwed difrifol i bobl eraill. Pan na rennir gwybodaeth mewn ffordd brydlon ac effeithiol, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ar sut i ymateb yn anwybodus a gallai hyn arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, yn canolbwyntio ar y plentyn ac ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol y plentyn. Mae angen i blant gael eu cynnwys yn ystyrlon yn y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth.
- Dylai ymarferwyr ymgyfarwyddo â diwylliant a chredau’r teuluoedd maent yn gweithio gyda nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn ynghylch ymddygiadau penodol a’r rhesymau drostynt mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Mae pryderon canolog ac amlwg i’w datrys wrth gynllunio ar gyfer anghenion gofal a chymorth plant gyda statws Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches (PDCLl). Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Blant Digwmni sy’n Ceisio Lloches i Weithwyr Proffesiynol ar gael. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod rhaid i ymarferwyr barhau i ystyried mesurau diogelu penodol yn rhan o’r gwaith cynllunio gyda, ac ar gyfer y plentyn. Os oes amheuaeth am oedran plentyn sy’n ddioddefwr posibl, dylai asiantaethau barhau i drin yr unigol fel plentyn nes bod [Asesiad PDCLl]https://llyw.cymru/plant-ar-eu-pen-eu-hun-yn-ceisio-lloches-canllawiau-i-weithwyr-cymdeithasol?_ga=2.188222056.1564784450.1571924280-407075894.1564144814 yn cael ei gynnal.
- Rydym yn gwybod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes nam ar eu synhwyrau/nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael eu hamddiffyn a’u cefnogi fel sydd ei angen pan fônt wedi’u cam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gydnabod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl yn benodol yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu a dylent roi ar waith unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sydd eu hangen i’w diogelu.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod y plentyn yn agored i niwed ni waeth y lleoliad mae’n byw ynddo, p’un a yw’n derbyn gofal maeth, mewn lleoliadau mabwysiadol neu mewn cartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu sydd wedi’u mabwysiadu berthnasau a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr neu chwiorydd neu berthnasau biolegol eraill. Gallai’r perthnasau hyn ac unrhyw gysylltiad fod yn gadarnhaol ac wedi’u croesawu neu’n rhai nad oes eu heisiau ac y’u hystyrir yn berygl. Gallai profiad plentyn o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol ei adael mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl, ymddygiadol neu emosiynol a allai barhau i’w wneud yn agored i niwed.
- Dylai plant gael eu gweld a dylai eu barn gael ei chlywed. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Arfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr ar eu pen eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd y plentyn neu nas ofynnwyd iddo am ei farn na’i deimladau, neu le na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando’n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo arfer diogelu da.1
- Mae ychydig o dystiolaeth bod datgelu ac adrodd am gamdriniaeth, a cham-drin plant yn rhywiol yn benodol o bosibl yn anos i blant ac oedolion mewn rhai cymunedau oherwydd rhwystrau diwylliannol.2
- Mae’n bwysig credu plentyn sy’n dweud rhywbeth wrthych sy’n awgrymu bod risg o gamdriniaeth hyd yn oed os yw’r hyn y mae’n ei ddweud yn ymddangos yn annhebygol. Mae’n bwysig cofnodi’r wybodaeth fel mater diogelu a chymryd y cyfle i alluogi’r plentyn i siarad ag ymarferydd heb i aelodau’r teulu fod yn bresennol. Ar gyfer plentyn sydd angen cymorth cyfieithydd ar y pryd, mae’n bwysig bod y cyfieithydd yn annibynnol, a ddim yn aelod o’r teulu na’r gymuned.
Diwylliant
Wrth feddwl am ddiogelu plant rhag camdriniaeth yn ymwneud â thraddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergoeledd, mae’n bwysig cael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut all diwylliant a thraddodiad ddylanwadu ar arferion ac ymddygiad penodol. Os yw pobl yn byw mewn cymunedau sefydledig neu eu bod newydd gyrraedd Cymru, bydd cynnal eu traddodiadau, diwylliant a chrefydd cartref yn bwysig iawn ac yn aml bydd teuluoedd yn dymuno trosglwyddo’r gwerthoedd hyn ymlaen i’w plant. Yn y cyd-destun hwn, dylid cofio nad yw cam-drin plant yn dderbyniol mewn unrhyw gymuned, unrhyw ddiwylliant, unrhyw grefydd, dan unrhyw amgylchiadau.
Mae’r cysyniad o ‘anrhydedd’ yn gred pwysig iawn mewn sawl teulu a chymuned, a gallai’r rheiny yr ystyrir iddynt ddod ag amarch i’r teulu neu gymuned oherwydd eu hymddygiad yn agored i gamdriniaeth, camdriniaeth emosiynol a marwolaeth.
Mae’r codau ‘anrhydedd’ hyn y amlwg mewn sawl gwlad, diwylliant a chrefydd. Mae’r term ‘camdriniaeth ar sail anrhydedd’ yn gynhennus – does dim anrhydedd wrth gomisiynu llofruddiaeth, trais, herwgipio a gweithredoedd ac ymddygiad treisgar sy’n cynrychioli ‘camdriniaeth ar sail anrhydedd’. Fodd bynnag, mae wedi’i gydnabod bod y term yn cael ei ddeall a’i ddefnyddio’n rhyngwladol, gan gynnwys mewn cynadleddau megis Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae’r Cyngor NCO Rhyngwladol ar Drais yn erbyn Plant wedi cyhoeddi adroddiad ar Torri Hawliau Plant: Arferion niweidiol yn seiliedig ar draddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergoeledd sy’n cynnig rhagor o wybodaeth.
Beth yw Camdriniaeth ar Sail ‘Anrhydedd’?
Mae troseddau ar sail ‘anrhydedd’ yn cynnwys trais a/neu ymddygiad treisgar, gan gynnwys llofruddiaeth, sy’n cael ei gyflawni gan rywun sydd am amddiffyn enw da eu teulu neu gymuned. Gall hefyd fod ar ffurf brawychu, rheolaeth orfodol neu flacmel. Lladd ar sail anrhydedd yw llofruddio person y mae honiad ei fod wedi “dod â gwarth” i’r teulu. Ymhlith y camau y gall teulu eu cymryd y maent yn credu fydd yn gallu adfer anrhydedd mae:
- Cipio neu herwgipio
- Carcharu neu ynysu
- Ymosodiadau asid
- Curo a chaethiwed domestig
- Priodas dan orfod
- Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
- Anffurfio/llurguniad
- Llofruddio
- Ymddygiad rheoli neu gymhellol
Os yw’r person sy’n destun neu mewn perygl o Gamdriniaeth ar sail Anrhydedd yn blentyn (dan 18 oed), mae’n rhaid eu hystyried fel Plentyn mewn Perygl dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Pam mae hyn yn digwydd?
Mewn llawer o sefyllfaoedd, mae’r troseddau’n cael eu cyflawni gan aelodau’r teulu yn erbyn perthynas fenywaidd, a gall hyn gynnwys plentyn dan 18 oed. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio er ei fod yn llai cyffredin, gall gwrywod hefyd fod yn ddioddefwyr a gall hyn gynnwys bachgen dan 18 oed. Mae’r dioddefwyr wedi cael eu hymosod arnynt neu wedi’u lladd, yn dioddef camdriniaeth emosiynol neu seicolegol yn sgil ymddygiad sy’n groes i ddisgwyliadau’r teulu neu’r gymuned, er enghraifft:
- gwrthod mynd i mewn i briodas (neu odinebu neu geisio ysgariad)
- gwrthod cael ei thorri (AOCB)
- bod yn LHDT+
- bod yn ddioddefwr trais neu gamdriniaeth rhywiol
- bod mewn perthynas nad oedd yn bodloni eu perthnasau
- gwisgo colur, berchen ar ffôn symudol
- gweld merch yn siarad â bachgen
- gwisgo mewn modd ‘amhriodol’
- dyheadau am gael gyrfa
- ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn rhy ‘Orllewinol’
Mewn achosion o gamdriniaeth ar sail anrhydedd sy’n ymwneud â phlentyn dan 18 oed, dylid ystyried a yw’n ddiogel siarad â rhieni/gofalwyr plentyn. Gallai cynnwys y teulu neu’r gymuned gynyddu’r risg o niwed sylweddol i’r plentyn. Gall y teulu wadu’r honiadau ac mewn rhai achosion gallent hefyd geisio mynd â’r plentyn allan o’r wlad.
Priodas dan orfod
- Mae priodas dan orfod yn arfer diwylliannol annerbyniol; mae’n fath o gam-drin plant ac yn fath o drais yn erbyn menywod a merched. Mae priodas dan orfod yn anghyfreithiol yn y DU. At ddibenion cyfraith droseddol yng Nghymru a Lloegr, mae priodas dan orfod yn un sy’n digwydd heb gydsyniad llawn a rhydd un neu’r ddau barti.
- Gall priodas dan orfod gynnwys menywod a gwrywod yn cael eu gorfodi i mewn i briodas. Mae’n effeithio ar blant o oddeutu 13 oed a hŷn, yn dibynnu ar y wlad a’r diwylliant; mae oddeutu 20% o’r dioddefwyr yn wrywaidd. Gall pobl, gan gynnwys plant dan 18 oed, ag anableddau dysgu fod mewn risg penodol o briodas dan orfod.
Mae priodas dan orfod yn drosedd nad yw’n cael ei hadrodd yn aml a does dim rhagamcan cadarn o nifer wirioneddol y priodasau dan orfod yng Nghymru, na’r DU. Fodd bynnag dangosodd ystadegau’r Uned Priodas dan Orfod (UPO) o gyfnod o un flwyddyn bod 30% o’r dioddefwyr dan 18 oed, ac 16% dan 16 oed.3 Un o’r rhesymau dros dan-adrodd yw bod dioddefwyr priodas dan orfod yn amharod i geisio cymorth am nifer o resymau:
- Byddai ceisio cymorth yn torri’r cod ‘anrhydedd’, gan ddod â chywilydd i’r teulu neu’r gymuned
- Nid yw dioddefwyr eisiau gwneud eu teuluoedd yn droseddwyr
- Ofn y bydd yn gwneud y sefyllfa’n waeth drwy gamdriniaeth gorfforol neu emosiynol
- Mae’r dioddefwyr wedi’u hynysu ac nid ydynt yn gwybod lle i gael cymorth
- Mae priodas dan orfod yn drosedd gudd, lle bydd teuluoedd a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd yn credu eu bod nhw’n parchu traddodiadau diwylliannol ac yn amddiffyn ‘anrhydedd’ y teulu a’r gymuned. Mae teuluoedd yn credu eu bod nhw’n amddiffyn eu plant rhag perthnasau ‘anaddas’ neu eu bod nhw’n adeiladu teuluoedd cryfach ac amddiffyn credoau diwylliannol neu grefyddol.
Rhai o’r dangosyddion sy’n berthnasol i’r risg o Briodas dan Orfod i blant
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond maent yn arwyddion y dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol ohonynt a gyda’i gilydd gallent adeiladu darlun i awgrymu bod plentyn mewn perygl.
Addysg:
- Bod yn absennol neu ddiflannu’n gyflym
- Cais am fod yn absennol am gyfnod hir a methu dychwelyd o’r ymweliadau hyn i’r wlad wreiddiol
- Ofn gwyliau’r ysgol
- Brodyr a chwiorydd neu gefndryd yn goruchwylio yn yr ysgol
- Ymddygiad, ymgysylltu, perfformiad neu brydlondeb yn gwaethygu
- Rheiny sydd â chyfrifoldeb rhianta’n tynnu’r plentyn o’r ysgol
- Ddim yn cael mynychu gweithgareddau allgyrsiol
- Cyhoeddi ei fod wedi dyweddïo’n sydyn
- Atal rhag mynd ymlaen i addysg bellach/uwch
Hanes Teulu:
- Brodyr a chwiorydd yn cael eu gorfodi i briodi
- Brodyr a chwiorydd yn priodi’n fuan
- Brodyr a chwiorydd yn achosi niwed i’w hunain neu’n lladd eu hunain
- Marwolaeth rhiant
- Dadleuon yn y teulu
- Rhedeg i ffwrdd o gartref
- Cyfyngiadau afresymol e.e. cadw gartref gan rieni (“carcharor yn y tŷ”) a chyfyngiadau ariannol
Iechyd:
- Rhywun yn gorfod mynd gyda’r unigolyn i weld y doctor neu glinig
- Hunan-niwed
- Ymgais i ladd ei hun
- Anhwylder bwyta
- Iselder
- Unigedd
- Camddefnyddio sylweddau
- Beichiogrwydd cynnar/di-groeso
- Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
Ymyrraeth yr heddlu:
- Dioddefwr neu frodyr/chwiorydd yn y teulu wedi mynd ar goll
- Adroddiadau am gam-drin domestig, aflonyddu neu dorri heddwch yng nghartref y teulu
- Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
- Adroddiadau am y dioddefwr yn troseddu e.e. siopladrad neu gamddefnyddio sylweddau
- Bygythiadau i ladd ac ymdrechion i ladd neu niweidio
- Adroddiadau am droseddau eraill megis trais neu herwgipio
- Ymosodiadau asid
Gorchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod (GAPO)
Yn 2007, cyflwynodd Llywodraeth y DU Orchmynion Amddiffyn Sifil Priodas dan Orfod yn sgil Deddf Priodas dan Orfod (Amddiffyn Sifil), 2007. Dan y Ddeddf hon, gall person sydd dan fygythiad o briodas dan orfod ymgeisio i’r llys am Orchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod (GAPO) all gynnwys ba bynnag ddarpariaethau y mae’r llys yn eu hystyried yn briodol i atal y briodas dan orfod rhag digwydd, neu i amddiffyn dioddefwr priodas dan orfod o’i effeithiau, a gall gynnwys mesurau megis cymryd pasbort neu gyfyngiadau o ran cyswllt â’r dioddefwr.
Gall unrhyw berson dan fygythiad o briodas dan orfod wneud cais neu gall unrhyw ymarferydd wneud cais am GAPO ar ei ran.
Yr Uned Priodas dan Orfod yw’r brif ffynhonnell cymorth a chanllawiau ar gyfer dioddefwyr priodas dan orfod, dioddefwyr posibl a’r rheiny allai ddod i gyswllt â nhw.
Llinell Gymorth yr Uned Priodas dan Orfod: 020 7008 0151
Os yw’r person sy’n destun neu mewn perygl o Briodas dan Orfod yn blentyn (dan 18 oed), mae’n rhaid eu hystyried fel Plentyn mewn Perygl dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Stori Rubie yn fideo byr am oroeswr priodas dan orfod.
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
- Gelwir Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod hefyd yn Enwaediad Benywaidd neu Dorri Organau Cenhedlu Benywaidd (TOCB) ac mae hefyd yn arferiad diwylliannol traddodiadol. Mae’r broses yn achosi canlyniadau iechyd byr a hir dymor, gan gynnwys anawsterau wrth roi genedigaeth, gan achosi perygl i’r fam a’r plentyn a phroblemau iechyd meddwl.
- Does dim manteision i AOCB ac mae’n achosi niwed sylweddol. Mae’n cynnwys gwaredu a niweidio meinwe cenhedlu benywaidd iachus ac arferol, ac mae’n tarfu ar swyddogaethau naturiol cyrff merched a menywod. Mewn termau cyffredinol, bydd y risgiau iechyd yn cynyddu gyda chymhlethdod cynyddol y broses, er y gallai’r effeithiau seicolegol fod yn debyg waeth a yw’r broses yn ddwys yn gorfforol ai peidio.
- Mae’r oedran y bydd menywod yn cael profiad o AOCB yn amrywio’n helaeth iawn yn ôl y gymuned. Gallai’r broses gael ei chynnal pan fydd y ferch newydd gael ei geni, yn ystod ei phlentyndod neu lencyndod, yn syth cyn priodi neu’n ystod ei beichiogrwydd cyntaf. Fodd bynnag, credir y bydd y rhan fwyaf o achosion o AOCB yn digwydd cyn bydd plentyn yn troi’n 8 oed.
- Mae sawl menyw sydd wedi goroesi AOCB yn awyddus i weld hyn yn dod i ben. Mae AOCB yn achosi niwed a thrawma sylweddol, sydd ag effaith hiroes. Mae llawer o oroeswyr AOCB ac aelodau eraill cymunedau perthnasol nad ydynt eisiau i’w plant gael profiad o AOCB heddiw. Yn aml bydd angen cymorth arnynt i amddiffyn eu plant rhag AOCB oherwydd pwysau gan y teulu neu aelodau’r gymuned. Mae A Change has Begun yn fideo byr ar AOCB lle mae menywod yn siarad am yr effaith y mae AOCB yn ei chael ar fenywod. Nid yw’n cynnwys unrhyw luniau graffig o AOCB.
- Mae Voices over Silence ar gael ar wefan Byw Heb Ofn. Mae’r ffilm yn codi ymwybyddiaeth o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (AOCB) yng Nghymru drwy gyfleu barnau a lleisiau pobl ifanc ar y mater i gefnogi sgyrsiau rhwng y cenedlaethau o fewn ystod o gymunedau a chyd-destunau gwahanol.
- Ar yr un pryd, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r canlyniadau emosiynol a seicolegol posibl o drafod AOCB gyda merched a menywod sydd wedi symud o wlad lle mae AOCB yn gyffredin, i wlad lle mae’n hollol anghyfreithiol ac yn annerbyniol yn gymdeithasol. Mae llawer o fenywod o gymunedau perthnasol yn erbyn AOCB ond mae eraill sydd ddim. Mae’n bwysig bod yr iaith sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio AOCB yn barchus, heb sarhau unigolion, eu diwylliant neu draddodiad. Os oes angen gwasanaethau cyfieithu ar y pryd, sicrhewch fod y cyfieithydd ar y pryd yn annibynnol, ac nad yw’r teulu’n ei adnabod.
Rhai o’r dangosyddion sy’n berthnasol i’r risg o AOCB i blant
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond maent yn arwyddion y dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol ohonynt a gyda’i gilydd gallent adeiladu darlun i awgrymu bod plentyn mewn perygl.
- Os yw rhieni’n nodi eu bod nhw neu berthynas yn bwriadu mynd â’r plentyn allan o’r wlad am gyfnod estynedig o amser
- Mae’r plentyn yn trafod ymweld â gwlad y teulu lle mae AOCB yn gyffredin
- Mae’r plentyn yn siarad am “ddathliad arbennig”.
- Clywed plentyn yn siarad am AOCB gyda’i ffrindiau.
- Mae teulu’n dod o gymuned y mae AOCB wedi effeithio arni neu wlad y mae AOCB wedi effeithio arni.
- Gallai unrhyw blentyn y mae ei mam wedi cael profiad o AOCB fod mewn perygl.
- Unrhyw blentyn y mae ei chwaer neu berthynas agos yn y teulu wedi bod trwy AOCB
Ymhlith y pethau eraill i’w hystyried mae:
- lefelau ymgysylltiad gyda gweithwyr proffesiynol (addysg, iechyd neu eraill)
- chwiorydd iau allai fod mewn perygl
- materion diogelu sydd eisoes yn bodoli
- absenoldebau o’r ysgol heb eglurhad
Mae’n bosibl y bydd merch sydd wedi bod trwy AOCB yn:
- cael trafferth cerdded, sefyll neu eistedd
- treulio cyfnod hirach yn yr ystafell ymolchi neu’r toiled
- ymddangos yn nerfus, yn bryderus neu’n isel
- ymddwyn yn anarferol ar ôl bod yn absennol o’r ysgol neu’r coleg
- bod yn benodol anfodlon i fynd drwy archwiliadau meddygol arferol
- gofyn am gymorth, ond ddim yn rhy agored am y broblem oherwydd cywilydd neu ofn
Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (2003) wedi gwneud naill ai cynnal AOCB yn y DU neu fynd â merch dramor i gynnal y broses yn drosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (mae gan yr Alban ddeddf ei hun ar AOCB). Diwygiwyd y gyfraith gan y Ddeddf Troseddau Difrifol (2015), a ychwanegodd pwerau ychwanegol at gyfraith 2003. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Dyletswydd Adrodd Hanfodol lle mae gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon a darlithwyr ddyletswydd gyfreithiol i adrodd i’r heddlu os cânt wybod bod plentyn wedi profi AOCB, neu os ydynt yn arddangos arwyddion corfforol o AOCB. Mae’r ddyletswydd yn ddyletswydd bersonol a does dim modd ei throsglwyddo i berson arall. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol dan y Ddeddf a dylid ei gynnal ochr yn ochr â gweithdrefnau diogelu. Mae’r Ddyletswydd Adrodd Hanfodol (i’r Heddlu) dim ond yn berthnasol os yw merch yn dweud ei bod wedi cael profiad o AOCB neu os ydych yn gweld tystiolaeth gorfforol o AOCB.
- Cyflwyno Gorchmynion Amddiffyn AOCB sy’n modelu’n agos y Gorchmynion Amddiffyn Priodas dan Orfod, a’u nod yw diogelu merch sydd mewn perygl o AOCB.
- Ehangu’r awdurdod daearol i gynnwys nid yn unig dinasyddion y DU ond hefyd y rheiny sy’n byw yn y DU yn gyson.
- Gwarantu anhysbysrwydd y dioddefwr.
- Cyflwyno trosedd newydd sef methu ag amddiffyn merch rhag AOCB, gan y rheiny sydd â chyfrifoldeb (ddim o anghenraid cyfrifoldeb rhianta) dros y ferch.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi creu taflen ffeithiau ar orchmynion amddiffyn rhag AOCB (PDF).
Ar gyfer ymarferwyr iechyd, mae’r Llwybr Clinigol Cymru Gyfan - Iechyd Cyhoeddus Cymru ar AOCB yn nodi os yw ymarferwr yn poeni bod plentyn (dan 18 oed) wedi cael profiad o AOCB, neu os yw plentyn yn dweud wrthyn nhw, rhaid iddynt sicrhau bod gweithdrefnau diogelu’n cael eu dilyn a rhoi gwybod i’r arweinydd Diogelu lleol am yr achos. Dylid cyflawni’r Llwybr Clinigol bob tro y bydd achos newydd o AOCB yn cael ei nodi neu ei amau, ar gyfer merched a menywod o bob oed, gan gynnwys datgeliad gan riant neu ofalwr. Dylai adrodd hanfodol fod ar y cyd â chwblhau’r llwybr.
Os yw’r person sy’n destun neu mewn perygl o AOCB yn blentyn (dan 18 oed), mae’n rhaid ei hystyried fel Plentyn mewn Perygl dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gall unrhyw ymarferwr hefyd gysylltu â llinell gymorth AOCB NSPCC cenedlaethol i gael cyngor: Llinell Gymorth AOCB NSPCC cenedlaethol: 0800 028 3550 E-bost: help@nspcc.org.uk.
Smwddio/fflatio’r bronnau
Rhaid i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc allu adnabod yr arwyddion a symptomau merched sydd mewn perygl neu wedi cael profiad o smwddio neu fflatio’r bronnau. Yn yr un modd ag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (AOCB), caiff smwddio neu fflatio’r bronnau ei ystyried yn gamdriniaeth gorfforol. Does dim cyfraith benodol mewn perthynas â smwddio’r bronnau yn y DU a does neb erioed wedi cael ei erlyn am gynnal y broses. Fodd bynnag, gellid erlyn troseddwyr am ystod o droseddau, gan gynnwys ymosodiad cyffredinol, creulondeb tuag at blant a niwed corfforol difrifol.
Beth yw smwddio/fflatio’r bronnau?
Fflatio’r bronnau, neu smwddio’r bronnau, yw’r broses lle bydd bronnau merched ar ddechrau eu llencyndod yn cael eu smwddio, eu tylino, fflatio a/neu bwyso i lawr dros gyfnod o amser (weithiau blynyddoedd) er mwyn i’r bronnau ddiflannu neu i oedi datblygiad y bronnau’n gyfan gwbl.
Mewn rhai teuluoedd, mae cerrig mawr, morthwyl neu sbatwla poeth wedi’u gwresogi dros lo tanbaid yn cael eu defnyddio i gywasgu meinwe’r bronnau. Mae’n bosibl y bydd teuluoedd eraill yn dewis defnyddio belt elastig neu rwymell i bwyso’r bronnau i lawr er mwyn eu hatal rhag tyfu.
Bydd fflatio’r bronnau’n dechrau fel arfer gydag arwyddion cyntaf y glasoed. Gallai hynny fod mor ifanc â 9 oed ac fel arfer bydd yn cael ei gynnal gan berthnasoedd benywaidd sy’n credu y bydd hyn yn amddiffyn y ferch rhag aflonyddu ar sail rhyw.
Ynghyd â phoen eithafol a niwed seicolegol, mae’r arfer yn golygu y bydd y merched ifanc mewn perygl cynyddol o ddatblygu codenni, heintiau a chanser hyd yn oed.
Dylid cydnabod hefyd bod rhai merched a bechgyn ifanc yn dewis rhwymo eu bronnau gan ddefnyddio deunydd tynn ar sail trawsffurfio rhywedd neu hunaniaeth, a gall hyn hefyd achosi problemau iechyd.
Cam-drin Plant sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred (CPCFfG)
- Nid yw cam-drin neu esgeuluso plant ar sail ffydd neu gred yn ymwneud ag un ffydd, cenedligrwydd, grŵp ethnig na chymuned. Nid yw pawb â chred o’r fath yn niweidio plant. Fodd bynnag, gall rhai credoau ac ofergoeledd arwain at gam-drin plant.
- Mae’r term ‘credu mewn meddiant ysbrydol’ yn golygu credu bod grym drygionus wedi mynd i mewn i’r plentyn ac yn rheoli ef neu hi. Weithiau defnyddir y term ‘gwrach’ ac mae hyn yn golygu’r gred y gall y plentyn ddefnyddio grym drygionus i niweidio pobl eraill. Mewn achosion a ddaeth i’r amlwg yn sgil gwaith ymchwil, roedd gan bob plentyn gyhuddiad o fod yn ‘ddrygionus’. Roedd hyn yn aml yn mynd llaw yn llaw â chred y gallent ‘heintio’ pobl eraill gyda ‘drygioni’ o’r fath. Mae’r eglurhad am sut bydd ysbryd yn meddiannu plentyn yn amrywiol iawn ond mae’n cynnwys bwyd y mae wedi’i fwyta neu drwy ysbrydion sydd wedi hedfan o’i amgylch.
- Nid yw’r credoau hyn yn gysylltiedig ag unrhyw wlad, diwylliant na grŵp ethnig penodol ac yn bwysicach fyth, nid yw’r gred bod ysbryd wedi meddiannu plentyn yn arwain at gam-drin y plentyn yn awtomatig, ond gall fod yn drawmatig iawn i’r plentyn. Ym mhob achos, gall teuluoedd, gofalwyr, arweinwyr crefyddol, cynulleidfaoedd a’r plant eu hunain wirioneddol gredu fod grymoedd drygionus ynghlwm, a gall camdriniaeth ddigwydd pan wneir ymgais i ‘allfwrw’ neu ‘ryddhau’ y plentyn. Mae’r math hwn o gamdriniaeth yn cael effeithiau trawmatig ar blant, o gleisiau a chreithiau i broblemau seicolegol, ac weithiau bydd yn arwain at farwolaeth.
- Bydd plant yn cael eu cam-drin gan y rheiny o’u cwmpas, teulu, ffrindiau a chynulleidfaoedd er mwyn gwaredu neu allfwrw’r ysbryd neu ddiafol drygionus, neu fel defod rhyddhau. Gall hyn fod ar ffurf cam-driniaeth corfforol, megis cleisiau, llosgiadau, toriadau, clwyfau trywanu, marciau tagu, tystiolaeth o ataliad corfforol (marciau llosg ar yr arddyrnau neu goesau). Mae rhwbio tsili ar organau rhywiol neu lygaid plentyn hefyd yn arfer cyffredin wrth allfwrw/rhyddhau.
- Gall camdriniaeth emosiynol fod ar ffurf arwahanu, er enghraifft, peidio â chaniatáu plentyn i fwyta neu rannu ystafell gydag aelodau’r teulu, neu fygwth ei esgeuluso. Gall y plentyn hefyd dderbyn y gamdriniaeth os yw’n credu bod ysbryd y tu mewn iddo. Gall plant gael eu hesgeuluso gan rieni/gofalwyr sy’n methu â sicrhau gofal meddygol priodol, goruchwyliaeth, presenoldeb ysgol, hylendid da, maeth, dillad neu gadw’r plentyn yn gynnes. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd y plant yn cael profiad o gamdriniaeth rywiol.
- Mewn rhai gwledydd Affricanaidd, bydd credoau crefyddol/ffydd ar ffurf dewiniaeth neu ‘hud a lledrith Juju’ yn cael eu defnyddio’n aml i reoli pobl sy’n cael eu masnachu a’u defnyddio mewn caethwasiaeth fodern. Yn aml, dywedir wrth y bobl os nad ydynt yn gwrando ar eu masnachwr, byddant yn gwylltio’r byd ysbrydol ac yn dioddef gan hunllefau, gwallgofrwydd a marwolaeth. Os oes pryderon bod plentyn o bosibl wedi cael ei fasnachu, dylai ymarferwyr gyfeirio at Ganllaw Ymarfer Cymru Gyfan - Plant allai fod wedi cael eu masnachu. Anogir gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio â phlant i ymgyfarwyddo â’r arwyddion posibl o fasnachu neu gaethwasiaeth fodern a nodir yn y Ffurflen NRM Plant.
- Mae nifer o ffactorau sy’n gwneud plant yn dargedau camdriniaeth sy’n gysylltiedig â ffydd, ofergoeledd neu gredoau:4
- Ysbrydion Drygionus: Mae cred bod ysbrydion drygionus yn gallu ‘meddiannu’ plant yn aml yn mynd ochr yn ochr â chred y gall plentyn wedi’i feddiannu ‘heintio’ pobl eraill gyda’r un cyflwr. Gallai hyn fod drwy gyswllt â bwyd a rennir, neu fod ym mhresenoldeb y plentyn.
- Creu bwch dihangol: Gallai plentyn gael y bai am anlwc yn y cartref, megis anawsterau ariannol, ysgariad, anffyddlondeb, salwch neu farwolaeth.
- Ymddygiad drwg: Weithiau credir mai grymoedd ysbrydol sydd ar fai am ymddygiad drwg neu anarferol. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn mae plentyn ddim yn gwrando, bod yn wrthryfelgar, neu’n rhy annibynnol, gwlychu’r gwely, cael hunllefau neu mynd yn sâl.
- Gwahaniaeth/Anabledd Corfforol: Gallai plentyn gael ei dargedu am fod yn wahanol yn gorfforol neu oherwydd anabledd. Ymhlith yr achosion a nodir mae plant ag anableddau dysgu, materion iechyd meddwl, epilepsi, awtistiaeth, atal dweud a byddardod.
- Awenau a nodweddion anghyffredin: Os oes gan blentyn sgil neu dalent penodol, gellid rhesymoli hyn fel canlyniad i feddiannaeth neu ddewiniaeth weithiau. Gall hyn hefyd fod yr achos os yw plentyn yn blentyn o enedigaeth luosog neu os cafodd y fam enedigaeth anodd.
- Strwythur teuluol cymhleth: Awgryma gwaith ymchwil fod plentyn sy’n byw â theulu estynedig, rhieni nad ydynt yn rhieni biolegol, neu rieni maeth (yn rhan o drefn maethu preifat) yn fwy tebygol o fod mewn perygl. Yn yr amgylchiadau hyn, maent yn fwy tebygol o fod yn destun masnachu ac wedi’u gorfodi i fod yn gaethwas.
Rhai dangosyddion mewn perthynas â’r risg o Gamdriniaeth Plant sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred (CPCFfG)
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond maent yn arwyddion y dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol ohonynt a gyda’i gilydd gallent adeiladu darlun i awgrymu bod plentyn mewn perygl.
- plentyn yn dweud ei fod yn ‘ddrygionus’ neu wedi’i gyhuddo o fod yn ‘ddrygionus’, a/neu fod rhywun yn ‘curo’r diafol allan ohono’
- corff plentyn yn dangos arwyddion neu farciau, megis cleisiau neu losgiadau, yn sgil camdriniaeth gorfforol
- plentyn yn amlwg yn drysu, yn mynd i mewn i’w gragen, colli cyswllt neu’n ynysig ac yn ymddangos ei fod ar ben ei hun ymysg plant eraill
- gofal personol plentyn yn dirywio, er enghraifft drwy golli pwysau, bod yn llwglyd, mynd i’r ysgol heb fwyd neu arian am fwyd neu edrych yn frwnt gyda dillad budur ac hyd yn oed ysgarthion arno/arni
- gall hefyd fod yn amlwg iawn os nad yw gofalwr neu riant y plentyn yn ymddangos yn bryderus na’n dangos perthynas agos â’r plentyn
- presenoldeb plentyn yn yr ysgol yn anghyson neu mae’n cael ei gymryd allan o’r ysgol yn gyfan gwbl heb drefnu lle mewn ysgol arall
Os yw’r person sy’n destun neu mewn perygl o gamdriniaeth sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred yn blentyn (dan 18 oed), mae’n rhaid ei ystyried fel Plentyn mewn Perygl dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Ymateb cymesur
- Dylai pob achos lle allai plentyn fod mewn perygl o gamdriniaeth ynghylch traddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergoeledd arwain at adrodd plentyn mewn perygl.
- Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.
- Mae gan bartneriaid perthnasol Ddyletswydd i Adrodd Plant mewn Perygl (Adran 130) dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae Adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” fel plentyn sy’n:
- a) destun neu mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed; ac
- b) sydd ag anghenion gofal a chymorth (waeth os yw’r awdurdod lleol yn cwrdd â’r anghenion hynny ai peidio).
Pan fo plentyn wedi cael ei adrodd dan adran 130, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail i gynnal archwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad yn berthnasol i’r plentyn mewn perygl, byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros y penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn byw benderfynu ar ôl ystyried y dystiolaeth a oes angen cynnal trafodaeth strategaeth aml-asiantaethol, i lywio penderfyniad ar ymateb i’r plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth aml-asiantaethol.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r penderfyniad strategol aml-asiantaethol yn nodi nad oes sail i fwrw ymlaen i Gyfarfod Strategaeth neu i Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio at waith ataliol i leihau’r tebygolrwydd o risg neu niwed i’r dyfodol.
- Os oes cynllun gofal a chymorth neu gynllun amddiffyn plant eisoes yn bodoli, neu os yw’n blentyn mewn gofal neu yn yr ystâd sicr, dylai fod trafodaeth strategaeth aml-asiantaethol i bennu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio datblygiad neu adolygiad cynllun y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategol wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru ac yn nogfen Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 – Trin Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Pan fo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion a gaiff eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategol ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth benodol am y plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol sydd angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategol ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach na’r materion.
- Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gyfeirio at y Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan sydd wedi’u cyflwyno ochr yn ochr â Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion perthnasol:
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategol arwain at set o gamau cytunedig i lywio datblygiad neu adolygiad amddiffyn plant a/neu gynllun gofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion holistig y plentyn er mwyn hyrwyddo lles ac i atal niwed i’r dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio’n ecsglwsif ar reoli risg.
- Pan fo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) pan fyddant yn dod i mewn i ofal neu’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol. Cyflwynir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn golygu rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn mewn amgylchiadau penodol i gael mynediad at gymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys eglurhad am rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys beth gall ei wneud a beth na all ei wneud, sut mae’n gweithio ar sail eu dyheadau a theimladau, ei annibyniaeth ac sut mae’n gweithio ar ran y plentyn/person ifanc, ei bolisi cyfrinachedd a niwed sylweddol – mae’n egluro hawl statudol plant a phobl ifanc i gael eu cefnogi i fynegi eu barn, dyheadau a theimladau ynghyd â’r hawl i gyflwyno sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Mae’r sefydliadau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Ni fyddant yn eich barnu a byddant yn helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei hangen i newid. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Archwilio a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae ar gael fel ffynhonnell o help a chymorth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
- Ffonio’r gwasanaeth am ddim: 0808 801 1000
- E-bostio’r gwasanaeth: advice@childcomwales.org.uk
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Adnoddau
Byw Heb Ofn
Mae gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ar Byw Heb Ofn. Llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn: 0808 8010 800. Gwasanaeth negeseuon testun: 078600 77333 E-bost: info@livefearfreehelpline.wales.
Yr Uned Priodas dan Orfod (UPO)
Mae’r Uned Priodas dan Orfod yn Uned ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad. Mae’n gweithio yn y DU, lle rhoddir cefnogaeth i unrhyw unigolyn, yn ogystal â thramor lle gellir rhoi cefnogaeth i bobl Prydeinig, gan gynnwys pobl â chenedligrwydd deuol. Mae’r UPO yn gweithredu llinell gymorth gyhoeddus i roi cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr priodas dan orfod yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â’r achosion. Mae’r cyngor a roddir yn amrywio o gyngor diogelwch syml, i helpu dioddefwr i atal eu priod digroeso rhag symud i’r DU (achosion ‘noddwr amharod’), ac mewn sefyllfaoedd eithafol, mynd i achub dioddefwyr sy’n cael eu dal yn erbyn eu hewyllys mewn gwlad dramor.
Yr Uned Priodas dan Orfod yw’r brif ffynhonnell cymorth a chanllawiau ar gyfer dioddefwyr priodas dan orfod, dioddefwyr posibl a’r rheiny allai ddod i gyswllt â nhw.
Karma Nirvana – llinell gymorth a chyngor 0800 5999247
Mae The Henna Foundation yn elusen trydydd sector cofrestredig, sydd wedi ymrwymo i gryfhau teuluoedd yn y Gymuned Foslemaidd. Mae’r Sefydliad yn gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i fynd i’r afael ag anghenion, pryderon a dyheadau menywod a phlant Moslemaidd, a’r teuluoedd y maent yn byw ynddynt.
Ffoniwch 029 20496920 neu e-bostiwch info@hennafoundation.org
Mae Bawso yn sefydliad gwirfoddol sy’n gweithio ledled Cymru yn darparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a phobl ddu ac ethnig leiafrifol y mae camdriniaeth ddomestig a phob ffurf ar drais yn effeithio arnyn nhw: Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.
Ffoniwch - 0800 731 8147
www.bawso.org.uk
Mae’r app Petals FGM yn adnodd ar-lein defnyddiol a ddatblygwyd gan Brifysgol Coventry.
Diogelu hawliau plant – ymchwilio i faterion yn ymwneud â dewiniaeth a meddiannaeth ysbrydion
Mae Adran 4 Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn nodi bod rhaid i Lywodraeth Cymru greu Strategaeth Genedlaethol, gan gynnwys pennu beth y byddan nhw’n ei wneud i herio agweddau diwylliannol all ategu arferion niweidiol traddodiadol megis AOCB, Priodas dan Orfod a Thrais ar Sail Anrhydedd.
Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Yn 2007, cyflwynodd Llywodraeth y DU Orchmynion Amddiffyn Sifil Priodas dan Orfod yn sgil Deddf Priodas dan Orfod (Amddiffyn Sifil), 2007. Dan y Ddeddf hon, gall person sydd dan fygythiad o briodas dan orfod ymgeisio i’r llys am Orchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod (GAPO) all gynnwys ba bynnag ddarpariaethau y mae’r llys yn eu hystyried yn briodol i atal y briodas dan orfod rhag digwydd, neu i amddiffyn dioddefwr priodas dan orfod o’i effeithiau, a gall gynnwys mesurau megis cymryd pasbort neu gyfyngiadau o ran cyswllt â’r dioddefwr.
Gall unrhyw berson dan fygythiad o briodas dan orfod wneud cais neu gall unrhyw weithiwr proffesiynol wneud cais am GAPO ar ei ran.
Gall testun GAPO fod yn berson y bydd y briodas dan orfod yn digwydd iddo/iddi, neu unrhyw berson sy’n cynorthwyo, cefnogi, neu’n annog y briodas dan orfod. Gellid ystyried priodas fel un dan orfod nid yn unig ar sail bygythiadau o drais corfforol i’r dioddefwr, ond hefyd drwy fygythiadau o drais corfforol i drydedd partïon (megis teulu’r dioddefwr), neu hyd yn oed hunan-drais (er enghraifft, priodas drwy fygythiad o hunanladdiad). Bydd person sy’n mynd yn groes i orchymyn priodas dan orfod yn torri gweithredoedd y llys, ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei arestio.
Ym mis Mehefin 2014, cyflwynwyd deddfwriaeth bellach i wneud priodas dan orfod yn drosedd, yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ac o dan y ddeddf honno y gosb yw uchafswm o saith mlynedd yn y carchar. Cafodd ei lunio i gryfhau Deddf 2007 drwy wneud priodas dan orfod yn drosedd y mae modd mynd i’r carchar ar ei chyfer, nad oedd ar gael o’r blaen, ac er mwyn amddiffyn pobl ag anableddau dysgu.
Adrodd Hanfodol, AOCB – Canllawiau’r Swyddfa Gartref
1https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/175391/Munro-Review.pdf
2 Harrison, K. and Gill, A K; (2018) Breaking Down Barriers: Recommendations for Improving Sexual Abuse Reporting Rates in British South Asian Communities- The British Journal of Criminology, Volume 58, Issue 2, 15 February 2018, Pages 273–290
3 Forced Marriage Unit Statistics 2017, Home Office, 2018 https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/730155/2017_FMU_statistics_FINAL.pdf
4 Child abuse linked to faith or belief https://www.met.police.uk/advice/advice-and-information/caa/child-abuse/faith-based-abuse/
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF