Rhannu Cymraeg English

Ddiogelu plant a all fod wedi’u masnachu

CANLLAW YMARFER CYMRU GYFAN

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021

I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Ar gyfer pwy y mae’r canllaw ymarfer hwn?

Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 mlwydd oed).

Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddau ieuenctid ac ieuenctid, cymunedol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.

Beth yw diben y canllaw hwn?

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd yn dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn helpu unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a chyfrifoldebau o ran sicrhau bod plant ac oedolion yn ddiogel. Maent o blaid defnyddio dull cyson o roi arferion a gweithdrefnau diogelu ar waith ledled Cymru.

Mae’r canllaw ymarfer hwn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol ar ymateb i achosion pan fo plentyn wedi’i fasnachu. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob ardal awdurdod lleol gael eu hategu gan ddwy brif egwyddor:

Mae rhai materion sy’n gyffredin yn yr holl ganllawiau ymarfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu dan sylw:

Diffiniad

Mae Masnachu mewn Plant yn cynnwys 3 cydran:

Cam Gweithredu
Recriwtio, cludo, trosglwyddo, llochesu neu dderbyn, plentyn sy’n cynnwys elfen o symud o un lle i’r llall

Cam-fanteisio
Mae tystiolaeth neu achos rhesymol i gredu bod plentyn yn dioddef camdriniaeth drwy gam-fanteisio rhywiol, cam-fanteisio troseddol, llafur dan orfod neu gaethiwed domestig, caethwasiaeth, cam-fanteisio ariannol, mabwysiadu anghyfreithlon, tynnu organau’r plentyn (gweler yr atodiadau)

Ac yn cynnwys plentyn
Mae’n digwydd i’r rheiny hyd at 18 mlwydd oed.

Cyflwyniad a sail y dystiolaeth

Arwyddion y gall plentyn fod wedi’i fasnachu

Mae llawer o wahanol ddangosyddion bod masnachu a cham-fanteisio’n digwydd a dylai’r rheiny arwain at adrodd bod plentyn mewn perygl a sbarduno ymchwiliad amddiffyn plant. Gellir nodi un dangosydd yn unig neu gall fod llawer ohonynt. Mae amrywiaeth o wahanol bobl ym mywyd y plentyn a all fod yn amau neu yn meddu ar wybodaeth am un dangosydd ond yn wahanol i bob un. Felly mae’n bwysig yr adroddir ar unrhyw bryderon fel mater diogelu ar unwaith er mwyn ceisio rhagor o wybodaeth gan yr holl asiantaethau sy’n berthnasol i fywyd y plentyn.

Dylai’r arwyddion helpu ymatebwyr cyntaf i wneud asesiad sylfaenol o ran p’un ai a allai’r unigolyn dan sylw fod yn blentyn sydd o bosib yn agored i gaethwasiaeth fodern / masnachu mewn pobl; a ph’un ai a ddylid cwblhau atgyfeiriad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC).

Anogir gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sydd mewn cysylltiad â phlant ymgyfarwyddo eu hunain ag arwyddion posibl masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth fodern sydd wedi’u nodi mewn Ffurflen MAC Plant.

Arwyddion

Pethau y gall plentyn ddweud a’r ffordd y gall ymddwyn:

Arwyddion corfforol cam-fanteisio:

Arwyddion sy’n ymwneud â symud plentyn o un lle i le arall:

Arwyddion o gam-fanteisio a bod dan reolaeth unigolyn arall:

Arwyddion yn ymwneud â dogfennaeth a manylion personol:

Arwyddion risg pellach:

Arwyddion i’w nodi mewn lleoliadau iechyd

Bydd gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd yn aml yn dod i gysylltiad â phobl am gyfnod byr drwy glinig, ymweliad ag adran Damweiniau ac Achosion brys neu apwyntiad meddygol byr. Dylai’r fath weithwyr fod yn ymwybodol o’r arwyddion canlynol sy’n gysylltiedig ag iechyd pan fo’r plentyn:

Cofrestru yn yr ysgol

Mae’n bosib y caiff plant sy’n cael eu masnachu i’r wlad eu cofrestru mewn ysgol am dymor neu fwy, cyn cael eu symud i ran arall o’r DU neu dramor. Gall y patrwm o gofrestru a dadgofrestru hwn fod yn arwydd bod plentyn wedi’i fasnachu. Nodwyd bod hon yn broblem benodol mewn ysgolion sydd wrth ymyl pyrth mynediad, ond mae’n rhaid i chi fod yn wyliadwrus o’r posibilrwydd yma ym mhob ysgol. Fodd bynnag, mae’n bwysig cadw mewn cof nad yw pob plentyn sydd ar goll o’r system addysg wedi cael ei fasnachu. Er enghraifft, mae’n bosib bod rhai plant yn dod o gymunedau sy’n symud o gwmpas – teuluoedd sy’n Sipsiwn, Roma, teithwyr neu deuluoedd mudol – sy’n mynd ar goll o’r ysgol gyda’i gilydd.

Plant sy’n ddioddefwyr sy’n ceisio lloches

Gall rhai plant sydd dan reolaeth masnachwr ddweud eu bod nhw ar eu pen eu hunain wrth geisio lloches. Mae’n bosib eu bod nhw wedi dod i mewn i’r DU gyda masnachwr a all fod yn aelod o’r teulu neu fel arall. Yn y fath achosion, mae’n bosib y bydd y masnachwr wedi dweud wrth y plentyn y byddai gwneud hynny’n golygu y caiff ganiatâd i aros yn y DU. Mae plant sy’n wladolion y DU yn cael eu masnachu hefyd.

Mae’n bosib y bydd plant a fasnachwyd yn ei chael yn anodd dweud wrth rywun beth sydd wedi digwydd iddyn nhw.4

Mae’n bosib y byddant yn dweud eu hanes gyda chamgymeriadau amlwg, diffyg cysondeb neu realiti. Nid yw llawer iawn o blant gaiff eu masnachu yn siarad Saesneg. Mae plant yn aml iawn yn ofni dweud dim. Mae’n bosib y byddant yn ofni:

Gallant hefyd deimlo euogrwydd neu gywilydd mawr am y cam-drin y maent wedi’i ddioddef Mae rhai masnachwyr yn creu storïau i’w dioddefwyr eu dysgu rhag ofn iddynt gael eu holi gan yr awdurdodau. Os yw plentyn yn dioddef trawma, mae’n bosib y bydd yn ei chael yn anodd cofio’r manylion neu bydd ganddynt fylchau yn eu cof.

Cydsyniad plant sy’n ddioddefwyr

Ymatebwyr cyntaf plant

Dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 dylid cyfeirio dioddefwyr masnachu neu gaethwasiaeth at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol

O ran egwyddor mae gan bob asiantaeth a sefydliad sy’n pryderu y gall plentyn fod yn ddioddefwr masnachu pobl gyfrifoldeb statudol i nodi bod y person yn ddioddefwr posibl a’i gyfeirio at yr awdurdodau cyfrifol a darparwyr cymorth. Nid oes rhaid i blant sy’n ddioddefwyr posib gydsynio i’r atgyfeiriad i’r MAC.

Nid yw hyn yn disodli dyletswyddau diogelu. Os oes gan unrhyw un amheuon y gall plentyn fod wedi’i fasnachu mae’n rhaid cyfeirio’r plentyn at y Gwasanaethau Cymdeithasol fel plentyn mewn perygl dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.

O ran plant, gwneir atgyfeiriad ffurfiol i’r MAC gan yr ymatebwr cyntaf. Yng Nghymru, y rhain yw:

Gweithwyr proffesiynol sy’n helpu plant sydd wedi’i masnachu o bosib yw Eiriolwyr Annibynnol Masnachu Plant.

Cyfeirio plentyn at y Gwasanaeth Eiriolwyr Annibynnol Masnachu Plant

0800 043 4303: Ffoniwch y Llinell Atgyfeiriadau 24/7 a byddwch yn cael cymorth i wneud yr atgyfeiriad dros y ffôn.

trafficking.referrals@bypmk.cjsm.net : Neu anfonwch ffurflen atgyfeirio i’r blwch post diogel.

Ymateb cymesur

Pan fo plentyn wedi’i adrodd dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried p’un a oes seiliau dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989.

Ôl-ofal a chynlluniau diogelwch ar gyfer plant sydd wedi’u masnachu

Cynllunio ar gyfer plentyn wrth iddo droi’n 18 oed

Atodiadau

DDIFFINIADAU

Plentyn ar ei ben ei hun sy’n ceisio lloches

Diffinnir Plentyn ar ei ben ei hun sy’n ceisio lloches gan baragraff 352ZD y Rheolau Mewnfudo fel plentyn sydd:

Nid yw bod ar ei ben ei hyn yn statws parhaol a gall newid, yn enwedig os oes gan y plentyn deulu yn y DU.

Plentyn wedi’i wahanu

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn diffinio plentyn ar wahân fel “plentyn sydd wedi’i wahanu oddi wrth ei ddau riant, neu oddi wrth ei ofalwr cyfreithiol neu arferol blaenorol, ond nid o anghenraid oddi wrth ei berthnasau eraill. Gallai hyn, felly, gynnwys plentyn gydag aelodau eraill o’r teulu sy’n oedolion”.

Ceir diffiniad rhyngwladol ar fasnachu pobl yn Erthygl 3 Protocol Palermo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Droseddau Trawswladol a Chyfundrefnol 2000 ac a fabwysiadwyd yn llawn gan Erthygl 4 Confensiwn Ewrop ar Weithredu yn Erbyn Masnachu Pobl, a gadarnhawyd gan y DU yn 2009. Dyma’r diffiniad:

Gweithio dan orfod

Nid yw gweithio dan orfod wedi’i gyfyngu i sector penodol o’r farchnad lafur ond mae achosion wedi’u nodi yn y sectorau canlynol:

Caethwasanaeth domestig

Mae caethwasanaeth domestig yn aml yn cynnwys pobl sy’n gweithio ar aelwyd lle maent yn cael eu:

Tynnu organau (medi organau)

Mae’r math yma o fasnachu yn cynnwys cam-fanteisio ar bobl yn sgil eu horganau mewnol, a gaiff eu defnyddio at ddibenion trawsblannu. Gall masnachwyr orfodi neu dwyllo eu dioddefwyr i roi un o’u horganau. Yr organau a fasnechir fwyaf yw arennau a iau, ond gall unrhyw organ na all adfywhau ac y gellir ei dynnu a’i ailddefnyddio fod yn agored i’r fasnach anghyfreithlon hon.

Elw ariannol yn cynnwys dioddefwyr sy’n blant

Caiff y rhan fwyaf o blant eu masnachu at ddibenion creu elw ariannol. Gall hyn gynnwys taliad gan neu i rieni’r plentyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r masnachwr hefyd yn cael ei dalu gan y rheiny sydd am gam-fanteisio ar y plentyn wedi iddo gyrraedd y DU.

Mae masnachwyr yn benodol yn targedu cymunedau tlawd i gam-fanteisio ar eu bregusrwydd. Gall teuluoedd tlawd a digartref roi eu plant yng ngofal masnachwyr sy’n addo rhoi incwm, addysg neu hyfforddiant sgiliau iddynt, ond sy’n cam-fanteisio arnynt yn pen draw.

Gall rhieni a pherthnasau hefyd fod ynghlwm wrth gam-fanteisio ar y plentyn. Mae’r plant yn debygol iawn o fod yn driw i’w rhieni neu ofalwyr felly ni ddylech ddisgwyl y byddant, ar eu liwt eu hunain, yn ceisio cael ei hamddiffyn rhag y fath bobl.

Mabwysiadu anghyfreithlon

Ni fyddai pob achos o fabwysiadu anghyfreithlon yn cael ei ystyried yn gam-fanteisio. Gall plentyn, er enghraifft, fod wedi’i werthu neu fabwysiadu yn anghyfreithlon heb gam-fanteisio arno. Nid yw dibenion gwerthu babanod a masnachu pobl / caethwasiaeth fodern o anghenraid yr un fath. Mae rhai pobl yn ystyried bod gwerthu babanod i’w mabwysiadu yn ffurf ar fasnachu mewn pobl gan ei fod yn arwain at greu elw drwy werthu i berson arall. Fodd bynnag, ni fyddai gwerthu plentyn i’w fabwysiadu yn anghyfreithlon yn cael ei ystyried yn fasnachu os nad cam-fanteisio ar y plentyn ei hun yw’r diben. Mae gwerthu babanod fel arfer yn arwain at sefyllfa lle nad yw’r plentyn yn destun cam-fanteisio. Pan fo’r ‘rhieni’ yn awyddus i fabwysiadu’r plentyn a rhoi cartref cariadus iddo dylid ystyried hynny’n achos o fabwysiadu anghyfreithlon ond nid yn achos o fasnachu neu gaethwasiaeth fodern.

Mae masnachu / caethwasiaeth fodern, ar y llaw arall, yn awgrymu cam-fanteisio ar y dioddefwyr. Os yw plentyn mabwysiedig yn destun llafur dan orfod neu gam-fanteisio rhywiol, yna gall hynny fodloni’r elfen cam-fanteisio o fasnachu mewn pobl / caethwasiaeth fodern. Pan fo plentyn yn cael ei roi i ‘rieni’ drwy fabwysiadu anghyfreithlon i gam-fanteisio ar y plentyn yna gall hynny ddod o dan y diben o gam-fanteisio a fyddai’n cael ei ystyried yn elfen o fasnachu neu gaethwasiaeth fodern.

Mewn rhai achosion pan fo’r baban yn cael ei dynnu oddi wrth ei fam dan orfod, neu pan fo’r fam yn cael ei gorfodi i roi genedigaeth neu yn destun cam-fanteisio at yr un diben, gall y fam fod yn ddioddefwr masnachu neu gaethwasiaeth fodern.

Nid masnachu pobl yw smyglo pobl

Ni ddylai’r Awdurdod Cymwys gymysgu masnachu pobl â smyglo pobl.

Mae smyglo pobl yn digwydd pan fo unigolyn yn gofyn am help hwylusydd i ddod i’r DU yn anghyfreithlon, ac mae’r berthynas rhwng y ddau barti yn dod i ben ar ôl cyflawni’r weithred. Mae llawer o’r rheiny sy’n dod i’r DU yn anghyfreithlon yn gwneud hynny drwy ddilyn y llwybr hwn. Nid yw smyglo pobl yn ffurf ar gaethwasiaeth fodern.

Diben smyglo pobl yw helpu person i groesi ffin yn anghyfreithlon, ac fe’i hystyrir yn drosedd yn erbyn sofraniaeth y wlad. Diben caethwasiaeth fodern yw cam-fanteisio ar y dioddefwyr gyda golwg ar sicrhau elw neu fudd arall a chaiff ei ystyried yn ymyriad ar ryddid ac integriti yr unigolyn hwnnw.

Mae sawl ffactor sy’n helpu i wahaniaethu rhwng smyglo a chaethwasiaeth fodern (masnachu):

Gall yr afreoleidd-dra dan sylw fod yr unig arwydd y gall y plentyn fod yn ddioddefwr masnachu a/neu gaethwasiaeth fodern. Mae plant sydd yn y fath sefyllfa yn aml yn amharod iawn i roi gwybodaeth, ac maent yn aml yn sôn am eu profiadau mewn ffordd anghyson neu gyda chamgymeriadau amlwg. Gan mwyaf mae hyn oherwydd bod eu storïau wedi’u creu gan eu masnachwr neu hwylusydd caethwasiaeth fodern.

Ni ddylid ystyried bod plant dan 18 oed sy’n teithio ar eu pen eu hunain heb neu gyda oedolyn yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn seiliedig ar y ffactor hwn yn unig, oherwydd mae’n bosib y gall eu sefyllfa fod un ddilys neu heb unrhyw gysylltiad o gwbl â chaethwasiaeth fodern. Os caiff plentyn ei atgyfeirio pan nad oes unrhyw arwyddion yn bresennol dylai’r Awdurdod Cymwys ofyn i staff rheng-flaen wneud ymholiadau ychwanegol fel y bo’n berthnasol, a all gadarnhau p’un ai a oes unrhyw arwyddion o gaethwasiaeth fodern yn bresennol.

Cydsyniad plant sy’n ddioddefwyr

Ystyrir bod unrhyw blentyn a gaiff ei recriwtio, cludo, trosglwyddo, dal neu ei dderbyn at y diben o gam-fanteisio arno, neu a gaiff ei gyfarwyddo i weithio ei ystyried yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern posibl, hyd yn oed os yw wedi’i orfodi neu ei gam-arwain neu beidio. Mae hyn oherwydd yr ystyriaeth nad yw’n bosibl i blant roi cydsyniad ar sail gwybodaeth.

Mae’n rhaid i staff yn yr Awdurdod Cymwys ystyried bod unrhyw blentyn a gaiff ei recriwtio, cludo, trosglwyddo, dal neu ei dderbyn at y diben o gam-fanteisio arno, neu a gaiff ei gyfarwyddo i weithio ei ystyried yn ddioddefwr masnachu a/neu gaethwasiaeth fodern, p’un ai ydyw wedi’i orfodi neu ei gam-arwain neu beidio.

Adnoddau

Mae’r sefydliadau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut mae cysylltu â nhw.

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio gyda sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Ni fyddant yn eich beirniadu a byddant yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i newid. Gallwch:

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio ac Eirioli Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae ar gael yn ffynhonnell o help a chymorth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:

Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:

Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar gefnogi plentyn sydd mewn perygl o gael ei fasnachu

Mae plant a phobl ifanc sydd wedi’u masnachu neu sydd mewn perygl o gael eu masnachu angen cefnogaeth oedolion diogel o’u cwmpas i’w hatal rhag niwed pellach.

Mae masnachu plant yn digwydd pan fo rhywun yn symud plentyn o un man i fan arall fel y gallant gam-fanteisio arnynt er budd personol. Mae masnachu plant yn ffurf ar gam-drin plant.

Caiff rhai plant eu masnachu i’r DU o wlad arall ac yna gallant gael eu masnachu o gwmpas gwahanol leoedd yn y DU. Mae rhai plant sydd wedi’u geni a’u magu yn y DU hefyd yn cael eu masnachu rhwng lleoedd yn y DU. Gall hyn gynnwys symud plant o fewn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r bobl sy’n masnachu plant yn gwneud hynny er mwyn eu budd personol a gall plant fod wedi’u masnachu er mwyn cam-fanteisio arnynt drwy Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant, Cam-fanteisio’n Droseddol ar Blant, Gweithio dan Orfod.

Mae plentyn sydd wedi cael ei fasnachu fwy na thebyg wedi cael ei fygwth gan y bobl sydd wedi’i symud, mae’n bosib na fydd yn meddu ar y geiriau i esbonio beth sydd wedi digwydd iddo a gall gymryd llawer o amser iddo deimlo’n ddigon diogel i siarad am yr hyn a ddigwyddodd.

Mae’n bwysig bod plant yn teimlo’n gyfforddus yn gorfforol ac yn ddiogel yn emosiynol.

Bydd y plentyn yn cael cymorth gan y Gwasanaeth Eiriol Masnachu Plant a gallan nhw gynnig cymorth i chi ar gadw’r plentyn yn ddiogel. Byddant yn dod i gwrdd â’r plentyn a siarad gydag ef am y cymorth y gallant ei gynnig.

Camau i’w dilyn pan fydd plentyn neu berson ifanc wedi cael ei fasnachu neu mewn perygl o gael ei fasnachu

  1. Bydd gan y plentyn gynllun diogelwch y cytunwyd arno gan weithwyr proffesiynol. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dilyn y cynllun diogelwch. Ar y dechrau gall hyn gynnwys cyfyngu mynediad y plentyn â’r rhyngrwyd a pheidio â gadael y plentyn ar ei ben ei hun. Pwrpas hyn yw lleihau’r perygl y gall masnachwyr plant gysylltu ag ef ac achosi niwed pellach iddo.
  2. Os yw’r plentyn yn mynd ar goll dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu ar unwaith.
  3. Dylech roi’r holl wybodaeth y gallwch ei rhoi am y plentyn, ei hanes ac unrhyw beth a ddigwyddodd cyn iddo fynd ar goll.

Gofal a Chymorth

Gweithwyr proffesiynol sy’n helpu plant sydd wedi’i masnachu o bosib yw Eiriolwyr Annibynnol Masnachu Plant. Maen nhw yn:

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn sicrhau y caiff y plentyn ei gyfeirio at y Gwasanaeth Eiriolwyr Annibynnol Masnachu Plant.

Mae gan yr NSPCC ac ECPAT UK daflenni da i blant mewn gwahanol ieithoedd i blant a fasnachwyd:

www.nspcc.org.uk

www.ecpat.org.uk

Mae ar staff rheng-flaen penodol sy’n dod ar draws ddioddefwr posibl caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl ddyletswydd i roi gwybod i’r Swyddfa Gartref dan Adran 52 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Gangmasters Labour and Abuse Authority. Mae canllawiau ac adnoddau atodol wedi’u cyhoeddi mewn perthynas â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 : dogfennau a deunydd hyrwyddol yn ymwneud â gwaith i roi pen ar gaethwasiaeth fodern.


1 K. Shavev Greene and F. Toscano, 2016, Summit report: best practices and key challenges on interagency cooperation to safeguard unaccompanied children from going missing

2 House of Commons, Home Affairs Committee (2009) The Trade in Human Beings: Human Trafficking in the UK Sixth Report of Session 2008–09, Volume 1 London: House of Commons

3 CEOP (2010) Strategic Threat Assessment: Child Trafficking in the UK London: CEOP

4www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/child-abuse-and-neglect/child-trafficking/signs-symptoms-effects/

5www.barnardos.org.uk/barnardos-sa-project-evaluation-executive-summary.pdf

Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF