Rhannu Cymraeg English

Diogelu plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt

CANLLAW ARFER CYMRU GYFAN

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021

I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Ar gyfer pwy mae’r canllaw arfer hwn?

Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).

Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddwyr ifanc a phobl ifanc, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.

Beth yw diben y canllaw hwn?

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cynorthwyo unigolion ac asiantaethau trwy Gymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau er mwyn cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi dull gweithredu cyson o ran arfer a gweithdrefnau diogelu.

Mae’r canllaw arfer hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu pan fo esgeuluso plant yn effeithio ar blentyn. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Dylai’r ddwy egwyddor ganlynol fod yn sail i drefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol:

Mae rhai materion yn gyffredin trwy ganllawiau arfer diogelu ac mae rhai’n benodol i’r mater diogelu dan ystyriaeth:

Mae’r Ddeddf yn ymwneud â phob math o drais ar sail rhywedd er mwyn cydnabod bod

dynion yn ogystal â menywod yn gallu dioddef trais; bygythiadau o drais neu aflonyddu

sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd

neu gyfeiriadedd rhywiol; a hefyd briodi dan orfod. Mae atal yn agwedd hanfodol ar y gwaith hwn; mae angen i wasanaethau cyhoeddus gydweithio i amddiffyn y rheiny sydd ar hyn o bryd yn profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rhag dioddef rhagor o niwed a diogelu unrhyw blant yn lleoliad y teulu. Argymhellir ymagwedd systemau cyfan at reoli amlasiantaeth er mwyn lleihau mesurau rheoli argyfwng lle bo’n bosibl ac yn berthnasol.

Beth yw ystyr Cam-Drin Domestig i ni?

Dyma’r diffiniad yn ôl Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015:

ystyr “cam-drin” yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol;

Ystyr “cam-drin domestig” yw cam-drin lle mae’r sawl sy’n ei ddioddef mewn perthynas neu wedi bod mewn perthynas â’r camdriniwr;

Ystyr “trais ar sail rhywedd" yw (a) trais, bygwth trais neu aflonyddu sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol; (b) anffurfio organau cenhedlu benywod; (c) gorfodi rhywun (boed hynny trwy rym corfforol neu orfodi trwy fygythiadau neu ddulliau seicolegol eraill) i ymgymryd â seremoni briodi grefyddol neu sifil (p’un a yw honno’n gyfreithiol rwymol ai peidio);

Dylid dehongli “trais yn erbyn menywod” fel petai hefyd yn cynnwys dioddefwyr gwrywaidd o drais ar sail rhywedd oni bai bod y cyd-destun yn awgrymu fel arall.

Cam-drin perthynas cyfoed

Mae cam-drin perthynas cyfoed yn batrwm o weithredoedd corfforol, rhywiol a/neu emosiynol gwirioneddol neu sy’n cael eu bygwth a gyflawnir gan berson ifanc (rhwng 13 a 18 oed) yn erbyn partner presennol neu gyn-bartner. Gall y cam-drin gynnwys sarhad, gorfodi, achosi embaras neu fychanu rhywun mewn sefyllfa gymdeithasol, aflonyddu rhywiol, bygythiadau a/neu weithredoedd cam-drin corfforol neu rywiol.

Dylid trin plant sy’n cael eu niweidio a phlant sy’n gwneud y niweidio yn yr un modd - fel plant y gallai fod anghenion gofal a chymorth arnynt, a dylai gweithwyr proffesiynol gofio y gall plentyn fod yn droseddwr a hefyd yn ddioddefwr trais.

Beth yw rheolaeth orfodol?

Mae’n drosedd yng Nghymru a Lloegr i rywun ddefnyddio rheolaeth orfodol ar rywun arall. Rhaid adrodd am y math hwn o gam-drin i’r heddlu. Rheolaeth orfodol3 yw pan fo unigolyn y mae gan rywun gyswllt ag ef/â hi yn ymddwyn mewn ffordd gyson sy’n peri i’r dioddefwr deimlo ei fod/bod yn cael ei r(h)eoli neu ei fod/bod yn ddibynnol, yn ynysig neu’n ofnus. Mae’r mathau canlynol o ymddygiad yn enghreifftiau cyffredin o reolaeth orfodol:

Anghydfod rhwng rhieni

Sail dystiolaeth

10 Egwyddor “Gofyn a Gweithredu”

Mae “Gofyn a Gweithredu” yn broses o ymchwilio penodol i’w harfer ar draws yr awdurdodau perthnasol (fel a enwir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) i nodi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Awdurdodau perthnasol yw awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau tân ac achub ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Y rheswm am hyn yw bod rhaglen hyfforddi “Gofyn a Gweithredu” Llywodraeth Cymru’n cael ei chyflwyno i’r sefydliadau hyn. Fodd bynnag, os dymunai sefydliadau eraill fabwysiadu “Gofyn a Gweithredu”, mae arweiniad ar gael i’w cynorthwyo i ddeall beth yw arfer da a sut dylai’r rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol â phobl ymddwyn wrth ryngweithio â phobl.

  1. Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn galw am ymateb gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyder proffesiynol i nodi’r materion hyn, gofyn amdanynt ac ymateb yn effeithiol yn hanfodol i arfer da ar draws yr awdurdodau perthnasol.
  2. Dylai’r rheiny sy’n datgelu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth yr ardal.
  3. Mae gan wasanaethau cyhoeddus rôl bwysig wrth ymdrin â’r materion hyn, trwy gynorthwyo cleientiaid ac atgyfnerthu’r gwasanaethau maent yn eu derbyn. Mae angen ymagwedd fwy cyson ar draws Cymru i nodi’r rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
  4. Ni fydd cleientiaid bob amser yn dweud wrth weithwyr proffesiynol am eu profiad heb gael eu hannog. Rôl y gweithiwr proffesiynol yw ystyried a fyddai’n briodol holi cwestiynau uniongyrchol a sensitif mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol.
  5. Mae angen eglurder ar gleientiaid ynghylch sut caiff eu cyfrinachedd ei drin.
  6. Er nad yw byth yn groesholiad, nid yw “holi a gweithredu” yn ymyriad unigol. Mae pob cwestiwn yn gyfle i gynnig cymorth. Dylai proses o ymholi penodol gynnwys sesiynau dilynol gyda dioddefwyr y tu hwnt i nodi a chwestiynau ailadroddus.
  7. Mae cael sgwrs â chleient yn well na defnyddio offeryn gwirio. Gall cwestiwn cyffredinol am brofiad rhywun o gam-drin arwain at ddatgeliad o sawl math o gam-drin.
  8. Dylid atgyfnerthu partneriaethau rhwng darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr arbenigol lleol er mwyn darparu polisi ac arfer mewn ffordd dwy cynhwysfawr.
  9. Rhaid i broses o “holi a gweithredu” gael ei hategu gan hyfforddiant ac arweinyddiaeth.
  10. Mae cyfleoedd coll i nodi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyfleoedd coll i atal cam-drin ymhellach, nodi’r risg i blant ac arbed bywydau.

Dylai ymarferwyr sy’n dod i gysylltiad â rhiant neu blentyn lle maent yn credu bod cam-drin domestig yn digwydd a lle, ar ôl trafod yr achos â rheolwr a/neu arweinydd diogelu, teimlir nad achos o blentyn mewn risg ydyw, gymryd camau gweithredu o hyd.

Mae siarad â’r rhiant nad yw’n cam-drin am wasanaethau cymorth i deuluoedd ataliol a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn bwysig a chyda chydsyniad y rhiant hwnnw, dylid gwneud atgyfeiriad i’r gwasanaethau lleol. Gallai atal ac ymyrryd yn gynnar gael effaith sylweddol ar leihau goblygiadau negyddol hirdymor cam-drin domestig ar blant.21

Ymateb cymesur

Pan adroddir am blentyn dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.

Atodiadau

Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw. Mae’r sefydliadau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn fodlon. Ni fyddant yn eich beirniadu a byddant yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch i newid. Gallwch:

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru am ddim ac yn gyfrinachol. Mae’n ffynhonnell o help a chymorth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:

Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:

Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/

Dylai ymarferwyr roi gwybod i rieni nad ydynt yn cam-drin am y cymorth sydd ar gael iddynt.

Mae gwybodaeth am gymorth ar gael yn Byw Heb Ofn.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800.

Gwasanaeth testun: 078600 77333

Ebost: info@livefearfreehelpline.wales


*Cisgender is a term for people whose gender identity matches the sex that they were assigned at birth.

1 UNICEF, 2006, Behind Closed Doors: The Impact of Domestic Violence on Children, https://www.unicef.org/media/files/BehindClosedDoors.pdf

2https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/175391/Munro-Review.pdf

3http://rightsofwomen.org.uk/wp-content/uploads/2016/03/ROW-­-Legal-Guide-Coercive-control-final.pdf

4Harold,G; Acquah,D; H Chowdry,H; and Sellers,R (2016) What works to enhance interparental relationships and improve outcomes for children? EIF (Summary: pp 5) https://www.eif.org.uk/report/what-works-to-enhance-interparental-relationships-and-improve-outcomes-for-children/

5https://tavistockrelationships.ac.uk/policy-research/policy-briefings/969-impact-couple-conflict-children

6http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/88524

7http://www.equation.org.uk/wp-content/uploads/2012/12/Every-Child-Matters-Domestic-Violence-and-Child-Abuse.pdf

8https://www.barnsley.gov.uk/media/4345/domesticviolencesignpostsresearchinpractice-july2012.pdf

9 Hallett,,S; Deerfield,K; and Hudson,K. (Forthcoming) The same but different? Exploring the links between trauma, sexual exploitation and harmful sexual behaviours, Awaiting publication.

10http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/PRIDDocs.nsf/7c21215d6d0c613e80256f490030c05a/d488a3852491bc1d80257f370038919e/$FILE/ACE%20Report%20FINAL%20(E).pdf

11https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/articles/peoplewhowereabusedaschildrenaremorelikelytobeabusedasanadult/2017-09-27

12http://www.domesticviolencelondon.nhs.uk/1-what-is-domestic-violence-/23-domestic-abuse-during-pregnancy.html

13https://gov.wales/docs/dhss/publications/160926healthy-childrenen.pdf

14https://www.contextualsafeguarding.org.uk/assets/documents/Learning-Project-1-Briefing.pdf

15https://contextualsafeguarding.org.uk/about/what-is-contextual-safeguarding

16NSPCC PartnerExploitationViolenceTeenageIntimateRelationshipsSummary.pdf

17https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/420963/APVA.pdf

18http://sure.sunderland.ac.uk/6896/1/CPV%201st%20impressions.pdf

19https://gov.wales/statistics-and-research/barriers-faced-lesbian-gay-bisexual-transgender-people-accessing-domestic-abuse-sexual-violence-services/?lang=en

20https://innovationcsc.co.uk/wp-content/uploads/2017/10/2.22_Domestic-Violence-1.pdf

21https://www.eif.org.uk/report/early-intervention-in-domestic-violence-and-abuse

22https://www.app.college.police.uk/app-content/major-investigation-and-public-protection/domestic-abuse/first-response/#children

Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF