Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
I bwy mae’r canllaw ymarfer hwn?
Yn bennaf mae’r canllaw hwn ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio gyda’r blynyddoedd cynnar, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddu ieuenctid a'r ieuenctid, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a gofal preswyl.
Ar gyfer beth mae’r canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru er mwyn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi ymagwedd gyson at ymarfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw ymarfer hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am ymagweddau diogelu at blant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ar-lein neu sy'n cael eu cam-drin ar-lein. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob ardal awdurdod lleol gael eu tanategu gan ddwy egwyddor allweddol:
- mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol, mae’n rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran lawn yn unigol ac mewn cydweithrediad; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn: i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull a dylai ei les gorau bob amser fod o’r pwys mwyaf.
Mae sawl mater sy’n gyffredin ym mhob un o’r canllawiau arfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu sy’n cael ei ystyried:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu bod hawl gan bob plentyn i dyfu’n iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gefnogi’n briodol i wella wedi camdriniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Hawliau Plant yn unol â dyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i roi ymateb ar y cyd i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n wynebu risg dan Adran 130, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Crynodeb Diogelu
- Mae rhannu gwybodaeth wrth wraidd arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth ddiogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r rhesymau dros rannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth a niwed difrifol i bobl eraill. Pan na rennir gwybodaeth mewn ffordd brydlon ac effeithiol, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ar sut i ymateb yn anwybodus a gallai hyn arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, yn canolbwyntio ar y plentyn ac ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol y plentyn. Mae angen i blant gael eu cynnwys yn ystyrlon yn y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth.
- Rydym yn gwybod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes nam ar eu synhwyrau/nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael eu hamddiffyn a’u cefnogi fel sydd ei angen pan fônt wedi’u cam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gydnabod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl yn benodol yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu a dylent roi ar waith unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sydd eu hangen i’w diogelu.
- Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ddod yn gyfarwydd â diwylliant a chredau’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent erioed anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod y plentyn yn agored i niwed ni waeth y lleoliad mae’n byw ynddo, p’un ai a yw’n derbyn gofal maeth, mewn lleoliadau mabwysiadol neu mewn cartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu sydd wedi’u mabwysiadu berthnasau a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr neu chwiorydd neu berthnasau biolegol eraill. Gallai’r perthnasau hyn ac unrhyw gysylltiad fod yn gadarnhaol ac wedi’u croesawu neu’n rhai nad oes eu heisiau ac y’u hystyrir yn berygl. Gallai profiad plentyn o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol yn eu gadael mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl, ymddygiadol neu emosiynol a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylai plant gael eu gweld a dylai eu barn gael ei chlywed. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Arfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd y plentyn neu nas ofynnwyd iddo am ei farn na’i deimladau, neu le na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando’n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo arfer diogelu da.1
- Cam-drin ar-lein yw unrhyw fath o gam-drin a hwylusir trwy dechnoleg megis cyfrifiaduron, llechi, ffonau symudol, consolau a dyfeisiau electronig eraill.
- Gall natur technoleg a natur gyfnewidiol platfformau ar-lein ac ymddygiad tramgwyddwyr olygu bod gwybodaeth am gam-drin ar-lein yn dyddio'n gyflym. Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn gwybod i ble i fynd er mwyn cael gwybodaeth a chyngor cyfoes. Mae gan www.thinkuknow.co.uk/ wybodaeth gyfoes i ymarferwyr.
- Nid ydym yn gwybod faint o blant a phobl ifanc yr effeithir gan gam-drin ar-lein. Yn aml ni fydd plant yn dweud wrth neb oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd neu’n euog; efallai na fyddant yn gwybod wrth bwy i ddweud neu'n sylweddoli eu bod yn cael eu cam-drin.
- Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gall cysylltiad ar-lein sy’n gysylltiedig i ymddygiad ymosodol achosi trawma sylweddol i blant hyd yn oed pan fydd y cysylltiad/cynnwys o bosibl yn cael ei ystyried fel lefel is yn nhermau niwed.
Mae cam-drin ar-lein ar nifer o ffurfiau2:
- Seiberfwlio – mae amcangyfrifon o nifer y blant yr effeithir arnynt gan seiberfwlio yn amrywio rhwng 6 a 25%, yn dibynnau ar fesurau, ac mae’r rhesymau am erlid yn amrywio.
- Anfon negeseuon testun rhywiol ac aflonyddu rhywiol – yn aml mae’r fath ffurfiau ar gam-drin rhywiol ar-lein yn gysylltiedig â datblygu perthnasoedd agos fel plant yn eu harddegau. Mae materion y cyd-destun ehangach – mynychtra anghydraddoldebau rhyw, stereoteipiau a gorfodaeth rhywiol, a diffyg dealltwriaeth o gydsyniad i gyd yn cael yr effaith o bylu'r ffiniau rhwng anfon negeseuon testun rhywiol ac aflonyddu rhywiol. Mae merched mewn mwy o berygl, er bod seiliau pryder ynglŷn â bechgyn hefyd, a all hefyd gael eu haflonyddu'n rhywiol ac a gaiff eu cam-drin ar-lein.
- Pornograffi ar-lein – mae mynychtra a amcangyfrifir yn amrywio, eto yn ôl oedran a rhyw, ond mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod y mwyafrif llethol o blant yn eu harddegau wedi edrych ar bornograffi ar-lein; mae tystiolaeth amodol o effeithiau niweidiol, gan gynnwys y gall plant fod yn dysgu am ryw o bornograffi, ac felly pwysigrwydd y berthynas rhwng addysg am berthnasoedd a rhywedd.
- Cam-drin rhywiol ar-lein - mae ymchwil yn awgrymu y bydd hwn o bosibl yn effeithio ar un plentyn allan o ddeg. Mae hyn yn golygu ymbaratoi ar-lein er mwyn hwyluso cam-drin rhywiol ar-lein gan gynnwys sicrhau delweddau neu gynnwys fideo a/neu gam-drin rhywiol all-lein. Gall hyn gynnwys annog neu ofyn i blentyn dynnu a rhannu delweddau cignoeth o'i hun; annog neu ofyn i blentyn ffilmio ei hun neu ffilmio ei hun neu gymryd rhan mewn ffrydio byw ohono ef ei hun yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Nododd ymchwil yr ymgymerwyd ag ef gan yr IWF3 (Internet Watch Foundation) 2,082 o ddelweddau a fideos o gam-drin rhywiol wedi’i ffrydio’n fyw dros gyfnod o dri mis. Dangosodd fod 98% o ddelweddu y daethpwyd o hyd iddynt o blant 13 oed ac yn iau, roedd 28% yn 10 oed neu'n iau, ac roedd y dioddefwr ifancaf yn dair oed.
- Radicaleiddio Ar-lein – Hefyd defnyddir y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol gan eithafwyr a therfysgwyr er mwyn hyrwyddo eu hideoleg a recriwtio neu radicaleiddio pobl, gan gynnwys pobl ifanc.
Sut mae meithrin perthnasau amhriodol ar-lein yn gweithio?
- Mae ‘meithrin perthnasau amhriodol ar-lein’ yn disgrifio’r broses gyfathrebu y mae oedolion sy’n cam-drin yn ei defnyddio i dwyllo plentyn neu berson ifanc i gredu y gallant ymddiried ynddynt fel y gallant eu cam-drin ar-lein ac all-lein.
- Gellir meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant ar-lein ar gyfer cam-drin rhywiol ar-lein; ar gyfer Ecsploetio Plant yn Rhywiol (CSE), sydd ffurf ar gam-drin plant yn rhywiol, ar gyfer Ecsbloetio Plant yn Droseddol (CCE) ac ar gyfer radicaleiddio.
- Mae ymchwil i feithrin perthynas amhriodol gyda plant ar-lein at ddibenion rhywiol yn nodi pedair proses –neu fwriadau'r un sy’n meithrin y berthynas – sy’n digwydd o’r pwynt cysylltu gyda’r plentyn, sef (i) ‘datblygu ymddiriedaeth dwyllodrus’, sy’n cynnwys ymddygiad megis canmol y plentyn a thrafod hobïau a pherthnasoedd; (ii) ‘profi cydymffurfiaeth’, sy’n cynnwys mesur i ba raddau mae’r plentyn yn debygol o gyd-fynd â’r gweithgaredd rhywiol sy’n cael ei gynnig a chyflawnir hyn trwy strategaethau megis defnyddio seicoleg wrthdroadol; (iii) ynysu, sy’n cuddio ymdrechion yr un sy’n meithrin y berthynas wrth ymbellhau’r plentyn, yn ffisegol a/neu affeithiol, o’i rwydwaith cefnogaeth, yn nodweddiadol teulu a ffrindiau; a (iv) phleser rhywiol, sy’n cynnwys yr un sy’n meithrin y berthynas yn cael pleser rhywiol o gyflwyno cynnwys rhywiol ar-lein (dadsensiteiddio) a chyflwyno’r berthynas o gam-drin fel un sy’n fuddiol i’r plentyn (ailfframio). Mae ymchwilwyr yn pwysleisio bod y prosesau hyn yn aml ar yr un pryd, yn hytrach nag un ar ôl y llall, sef dyma un o'r rhesymau pam gall plant fynd yn ddioddefwyr perthnasau rhywiol amhriodol o fewn llai na 20 munud o sgwrs.4
Gall meithrin perthnasau amhriodol ar-lein fod yn haws o lawer nag all-lein ar gyfer tramgwyddwyr oherwydd:
- Gall gemau, y cyfryngau cymdeithasol, platfformau ffrydio byw ac ystafelloedd sgwrsio hwyluso ymdrechion yr un sy’n meithrin y berthynas amhriodol ar-lein i gysylltu â phlant.
- Gall yr un sy’n meithrin y berthynas greu nifer o hunaniaethau ar-lein a byddant hyd yn oed yn esgus bod yn blant ac yn bobl ifanc er mwyn twyllo plant i sgwrsio a rhannu manylion personol, a all yn ei dro alluogi un neu fwy o brosesau meithrin perthnasau amhriodol ar-lein (e.e. datblygu ymddiriedaeth, profi cydymffurfiaeth).
- Gallant gael gwybod llawer am blant cyn eu bod yn dod i gysylltiad trwy edrych ar y pethau mae'r plentyn wedi'u postio ar-lein.
- Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon gallant dargedu plant sy’n arbennig o agored i niwed a chynllunio'n ofalus sut i feithrin perthynas amhriodol â nhw: beth fyddant yn ei ddweud er mwyn dangos diddordeb ynddynt.
- Hefyd gallant gysylltu â llawer o blant yn gyflym iawn yn y gobaith y bydd un neu fwy ohonynt yn ymateb ac yn ymuno mewn sgwrs â nhw.
Sail tystiolaeth
- Dangosodd ffigyrau o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2017-2018 fod 95% o blant rhwng 7 a 15 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref a’r ddyfais a ddefnyddir fwyaf cyffredin gan y plant hyn yw llechen neu'n debyg (71%).
- Yn aml, mae'r rhyngrwyd yn rhan gadarnhaol o fywydau dyddiol plant, gan ddarparu cyfleoedd dysgu, creadigol a chymdeithasol. Mae angen i blant ddeall sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru eisiau i blant elwa ar dechnoleg a’r rhyngrwyd mewn ffordd ddiogel ac mae wedi cyhoeddi Cynllun gweithredu diogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc
- Gwelodd ymchwil a gomisiynwyd gan OfCom5 fod hanner o’r holl blant (o 8 hyd at 18 oed) a gymerodd ran yn cydnabod bod rhywfaint o risg yn gysylltiedig â mynd ar-lein. Gwelodd hefyd fod cymryd rhan mewn ymddygiad peryglus ar-lein yn dod i'r amlwg yn ddiweddarach yn ystod plentyndod a llencyndod. Roedd rhai o’r plant yn dechrau arbrofi gyda rhywfaint o ymddygiad peryglus yn y byd ar-lein ac ar gyfer llanciau, cafodd ymddygiad o gymryd risgiau o wahanol raddau ei normaleiddio. Fodd bynnag, mae’n nodedig bod plant yn dangos ychydig o ddealltwriaeth yn unig o ganlyniadau hirdymor o risgiau a gymerir ar-lein.
- Mae gan addysg rôl bwysig i'w chwarae o ran paratoi plant i aros yn ddiogel ar-lein. Mae gwybodaeth i ysgolion am gefnogi plant i fod yn ddiogel ar-lein ar gael. Mae adnoddau ar gael (dilynwch y cyfeiriad).6
- Gwelodd adroddiad ymgynghori Net Aware NSPCC, a gyhoeddwyd yn 2017, fod un plentyn o bump wedi adrodd am weld cynnwys rhywiol gan gynnwys dod o hyd iddo ar gam, derbyn negeseuon rhywiol, neu gael ei annog i rannu cynnwys rhywiol ei hun. Adrodd un o dri am weld trais a chasineb, ac adroddodd un o bump gynnwys rhywiol a bwlio.
- Nid yw cam-drin rhywiol ar-lein bob amser yn arwain at gamdriniaeth gyswllt (efallai na fydd y plentyn byth yn cyfarfod â’r person sy’n ei gam-drin) ond mae’n achosi niwed mawr i’r plentyn. Mae natur ymbaratoi a cham-drin ar-lein yn golygu y gellir achosi niwed sylweddol yn ystod un cysylltiad ar-lein a gall cam-drin ddigwydd yn gyflym iawn ar ôl y cysylltiad cyntaf.
- Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall cam-drin rhywiol digyswllt ddigwydd trwy ffrydio byw neu gall delweddau llonydd gynnwys gweithredoedd niwed rhywiol difrifol. Ar ochr fwy difrifol y sbectrwm gall gynnwys plant yn cael eu gorfodi i wthio gwrthrychau i mewn iddynt eu hunain neu berfformio ystod o weithredoedd rhywiol niweidiol o flaen y camera. Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol y gall hyn fod yn drawmatig iawn i blant, a fydd yn aml yn cael trafferth gydag ymdeimlad cryf o gywilydd a dinoethiad a gaiff ei waethygu gan fodolaeth delweddau neu ddeunydd fideo ar-lein.
- Mae’n bosibl hefyd y bydd tramgwyddwyr yn gorfodi plant i rannu delweddau anweddus gyda nhw ac wedyn defnyddio bygythiadau sy'n gysylltiedig â rhannu’r delweddau hyn i reoli’r plentyn a’i gam-drin ymhellach all-lein.
- Dylai plant sy’n cam-drin eu cyfoedion, trwy ymddygiad rhywiol niweidiol a ffurfiau eraill ar ymddygiad ymosodol ar-lein, gael eu hystyried fel plant yn gyntaf a dylid rhoi cymorth priodol iddynt. Dylai fod ymateb cymesur i’r ymddygiad a dylid rhoi ystyriaeth i a roddir unrhyw ofal a chymorth iddynt.
- Hefyd gall technoleg hwyluso cam-drin rhywiol ar blant all-lein. Gall tramgwyddwyr hefyd ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i nodi pobl ifanc y gallant meithrin perthynas amhriodol â nhw i’w cam-drin, gallant ddefnyddio bygythiadau i rannu cynnwys neu ddelweddau’r plentyn y maent wedi’u cael ar-lein yn ffordd o arfer rheolaeth dros blentyn a gallant ddefnyddio technoleg i gyfathrebu gyda’r plentyn er mwyn hwyluso camdriniaeth ar-lein.
- Gall CRhB ar-lein ddigwydd trwy rwydweithio cymdeithasol, ystafelloedd sgwrsio, negeseuo sydyn, gwefannau cariadon a llawer mwy o blatfformau. Yn aml mae camfanteisio’n digwydd heb y plentyn y sylweddoli. Gall tramgwyddwyr hefyd ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i nodi pobl ifanc y gallant feithrin perthynas amhriodol â nhw ar gyfer CRhB, gallant ddefnyddio bygythiadau i rannu cynnwys neu ddelweddau’r plentyn y maent wedi’u cael ar-lein yn ffordd o arfer rheolaeth dros blentyn a gallent ddefnyddio technoleg i gyfathrebu gyda’r plentyn er mwyn hwyluso camdriniaeth ar-lein trwy CSE. Mae’n bosibl hefyd y bydd tramgwyddwyr yn gorfodi plant i rannu delweddau gyda nhw ac wedyn defnyddio bygythiadau sy'n gysylltiedig â rhannu’r delweddau hyn i reoli’r plentyn a’i gam-drin ymhellach. Hefyd dylai ymarferwyr gyfeirio at Ganllaw Arfer Cymru Gyfan- Diogelu plant gan Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant.
- Hefyd mae tystiolaeth gref bod gangau a threfnir yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo diwylliant gangiau; i wawdio ei gilydd, i annog trais, i hyrwyddo gweithgarwch gwerthu cyffuriau ac i recriwtio plant fel y gellir eu cam-drin trwy Gamfanteisio Troseddol ar Blant.7 Hefyd dylai ymarferwyr gyfeirio at Ganllaw Arfer Cymru Gyfan- Diogelu plant gan Gamfanteisio Troseddol ar Blant.
- Gwelodd ymchwil a gynhaliwyd ar ran yr NSPCC8
- Gall technoleg roi mynediad haws at blant i dramgwyddwyr cam-driniaeth nag y byddai ganddynt mewn amgylcheddau all-lein.
- Gall yr amgylchedd all-lein guddio dynameg cam-drin a fyddai’n fwy amlwg mewn perthnasoedd wyneb yn wyneb.
- Gall methu dianc rhag person ymosodol oherwydd eu bod mewn cysylltiad yn aml trwy dechnoleg beri i blant deimlo'n ddiymadferth.
- Mae dyfeisiadau ar-lein yn galluogi tramgwyddwyr cam-driniaeth i gyfathrebu gyda phlant gyda'r nos, pan fyddant gartref, ac felly i reoli eu "gofod gyda'r nos".
- Nodwedd allweddol cam-drin plant yn rhywiol yw bygwth rhannu delweddau rhywiol o'r plant gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae hwn yn arf pwerus a ddefnyddir gan dramgwyddwyr er mwyn atal pobl ifanc rhag siarad am y cam-drin. Hefyd, mae’n bosibl y bydd tramgwyddwyr yn rhoi pwysau ar bobl ifanc i gymryd rhan mewn ceisiadau rhywiol ar-lein.
- Gall y dimensiwn technolegol atal rhai plant rhag cydnabod eu profiadau fel cam-drin.
Gwelodd yr un ymchwil fod cam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn cael cymaint o effaith ar blant â cham-drin all-lein. Roedd y plant y cyfwelwyd â nhw ar gyfer yr ymchwil yn cael profiad o: hunan-fai; ôl-fflachiadau neu feddyliau ymwthiol; iselder a hunan-barch; hunllefau a thrafferth cysgu; gor-bryder a phylau o banig; hunan-niweidio; problemau yn yr ysgol, megis trafferth o ran cadw i fyny gyda'r gwaith neu broblemau ymddygiad. Hefyd cafodd rhai plant brofiad o: Ofni delweddau rhywiol yn cael eu rhannu ar-lein neu'n cael eu gweld yn y dyfodol. Roedd cael eu ffilmio yn arwain i rai o blant deimlo’n anghyfforddus o gwmpas camerâu. Hefyd, gallai plant a fu mewn cysylltiad cyson gyda’r person a’u cam-driniodd drwy dechnoleg ddigidol fynd yn flinedig iawn – roedd hyn yn wir yn enwedig os buont mewn cysylltiad gyda’r nos. Teimlai rhai o'r bobl ifanc y cyfwelwyd â nhw fod y cam-drin cychwynnol wedi peri iddynt fod yn fwy agored i ragor o gam-drin trwy eu rhywioli, gan arwain iddynt yfed yn drwm neu gymryd risgiau neu leihau eu hymdeimlad o hunanwerth a hyder. Roedd cyfran uchel o bobl ifanc yn beio eu hunain am y cam-drin. Roedd hyn yn ymddangos ei fod wedi‘i sbarduno neu ei waethygu gan ymagweddau anghefnogol gan yr ysgol, cyfoedion a theulu.
Plant mewn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu
Gall y rhyngrwyd - a rhwydweithiau cymdeithasol yn benodol - hwyluso cysylltu â theulu genedigol plentyn Mae’n bosibl y bydd rhai plant yn gweld y rhyngrwyd a rhwydweithiau cymdeithasol yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu a gall hyn fod yn fuddiol iawn. Fodd bynnag, bydd sefyllfaoedd pan na fydd cysylltu ag aelodau’r teulu yn fuddiol. Er hyn, bydd gan lawer o blant sydd wedi'u maethu neu eu mabwysiadu frwdfrydedd naturiol am eu teulu genedigol, yn enwedig yn ystod eu harddegau. Mae’n bosibl y byddant yn troi at y rhyngrwyd i archwilio unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu gallai eu teulu gysylltu â nhw yn uniongyrchol. Dylid rhoi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr maeth a rhieni mabwysiadu am baratoi at y sefyllfa hon a’i rheoli, a gwybodaeth fwy cyffredinol am gadw plant yn ddiogel ar-lein. Mae www.saferinternet.org.uk yn rhoi gwybodaeth.
Ymddygiad ymosodol ar-lein rhwng plant
Mae ymchwil yn awgrymu9 bod ystod eang o broblemau, yn amrywio o ymddygiad sy’n peri loes (er enghraifft, galw enwau ar y cyfryngau cymdeithasol) i ymddygiad cymhleth a niweidiol (er enghraifft, bygwth dosbarthu delweddau anweddus er mwyn gorfodi gweithredoedd rhywiol), ac ni ellir ymdrin â’r holl rai hyn yn yr un ffordd.
Dylid trin plant a gaiff eu niweidio a phlant sy’n niweidio ill dau fel dioddefwyr posibl, agored i niwed, a dylai ymarferwyr gofio y gallai plentyn fod yn dramgwyddwr a hefyd yn ddioddefwr cam-drin neu gamfanteisio. Mae'n rhaid i'r ymateb i blant fod yn gymesur a dylai gael ei ddarparu ar y lefel lleiaf ymwthiol, fel sy'n briodol i bob achos.
Ymddygiad Rhywiol Niweidiol Ar-lein
Mae hyn yn perthyn i bryderon mewn perthynas â phlant sy'n dangos ymddygiad rhywiol ar-lein neu drwy ddefnyddio technoleg, lle y gellir o bosibl fod niwed iddynt eu hunain neu i eraill. Gallem ystyried bod niwed yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
- Tynnu, gwneud, cadw a/neu ddosbarthu delweddau rhywiol anghyfreithlon, gan gynnwys delweddu anweddus o blant
- Gwylio pornograffi eithafol/anghyfreithlon, gan gynnwys yr hyn sy’n cynnwys anifeiliaid neu drais
- Anfon delweddau/negeseuon yn barhaus er mwyn aflonyddu, gan gynnwys negeseuon bygythiol
- Dangos deunydd rhywiol cignoeth ar-lein i blant iau yn fwriadol neu’n barhaus
- Dangos deunydd rhywiol cignoeth yn ormodol i laslanciau, sy’n effeithio ar lesiant/lles emosiynol y person ifanc
- Dyma ffactorau pwysig i’w hystyried wrth benderfynu a yw ymddygiad rhywiol ar-lein yn niweidiol i blentyn:
- A yw’r ymddygiad yn anarferol ar gyfer y plentyn/ person ifanc, gan ystyried ei oedran a’i gam datblygol?
- A yw’r ymddygiad yn achosi niwed neu a yw’n debygol o achosi niwed i’r plentyn/ person ifanc sy’n cymryd rhan yn yr ymddygiad?
- A yw’r ymddygiad yn achosi niwed neu a yw’n debygol o achosi niwed i blentyn/ person ifanc/ oedolyn?
- Mae’n bwysig y cynigir ymateb cymesur i blant a phobl ifanc yn unol â'r contiwwm o ymddygiad rhywiol. Mae Hackett (2010)10 wedi cynnig model continwwm i ddangos yr ystod o ymddygiad rhywiol a gyflwynwyd gan blant a phobl ifanc, o'r rhai sy'n arferol, i'r rhai sy'n hynod o wyrdroëdig. Mae enghreifftiau wedi’u cynnwys yn yr Atodiadau. Hefyd dylai ymarferwyr gyfeirio at Ganllaw Ymarfer Cymru Gyfan - Diogelu Plant, lle y bo pryderon am Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
- Mae Stop it Now yn cynnig gwybodaeth, cyngor, a chymorth mewn perthynas â cham-drin yn rhywiol ar blant gan gynnwys llinell gymorth i unrhyw un sy’n bryderus am ymddygiad rhywiol plentyn stopitnow.org.uk
Radicaleiddio ar-lein
- Hefyd defnyddir y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol gan eithafwyr a therfysgwyr er mwyn hyrwyddo eu hideoleg a recriwtio neu radicaleiddio pobl, gan gynnwys pobl ifanc. Nid oes un gyrrwr unigol o ran radicaleiddio, nac ychwaith daith unigol i gael eich radicaleiddio. Mae'r rhyngrwyd yn creu mwy o gyfleoedd i gael eich radicaleiddio, gan ei bod yn gyfrwng 24/7 byd-eang sy’n eich galluogi i ddod o hyd i bobl sy’n rhannu ac y byddant yn gadarnhau eich barn ac i gyfarfod â nhw. Mae ymchwil yn dweud wrthym bod y rhyngrwyd a chyfathrebiadau wyneb yn wyneb yn gweithio gyda’i gilydd yn y broses radicaleiddio, ac mae gweithgarwch ar-lein yn galluogi deialog parhaus i ddigwydd.11 Mae adnoddau a gwybodaeth ar gael ar www.ltai.info/downloads/
- Gall grwpiau gwleidyddol a chrefyddol roi ymdeimlad o berthyn y bydd rhai plant o bosibl yn teimlo sydd ar goll yn eu bywydau. Hefyd gallai’r dyhead am sicrwydd fod oherwydd ynysu cymdeithasol neu deimladau o gael eu gwrthod gan eu ffydd, teulu, neu eu cylch cymdeithasol eu hunain. Mewn rhai achosion efallai mai digwyddiad, naill ai byd-eang neu bersonol yw’r sbardun, megis bod yn ddioddefwr neu'n dyst i drosedd casineb hil neu grefydd. Hefyd mae’n bosibl y bydd pobl ifanc yn ymuno â grwpiau eithafol a therfysgol o ganlyniad i bwysau gan gyfoedion a’r dyhead i ‘ffitio i mewn' gyda’u cylch cymdeithasol. Fodd bynnag, dylid cofio hefyd nad yw pob person ifanc sy’n cael profiad o’r ffactorau hyn mabwysiadu barn radical.
- Mae cyfoeth o ddeunydd Asgell Dde eithafol, eithafol Islamaidd a deunydd eithafol arall ar gael ar-lein, gan gynnwys; erthyglau, fideos sy'n annog casineb neu drais, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau a grëir neu a gynhelir gan sefydliadau terfysgol. Hefyd mae deunyddiau a fideos hyfforddi terfysgol yn gogoneddu rhyfel a thrais sy’n chwarae ar thema gemau fideo poblogaidd. Mae’r rhain yn defnyddio iaith a delweddau cynhyrfiol iawn er mwyn chwarae ar y materion y mae pobl ifanc yn brwydro yn eu herbyn, megis hunaniaeth, ffydd a pherthyn.12
- Ymhellach i Ddeddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 sy’n cynnwys dyletswydd newydd ar ysgolion a cholegau i “ystyried yn briodol, wrth ymarfer eu swyddogaethau, i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth”, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Canllaw Dyletswydd Atal: ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer cyrff cyhoeddus a benodir, gan gynnwys darparwyr addysg.13
- Mae Channel, sy’n elfen allweddol o strategaeth Prevent, yn ymagwedd amlasiantaeth sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio. Mae Channel ynglŷn â diogelu plant ac oedolion rhag cael eu tynnu i mewn i gyflawni gweithgarwch sy'n perthyn i derfysgaeth. Mae Channel yn defnyddio cydweithredu presennol rhwng partneriaid diogelu statudol (megis awdurdodau lleol, yr heddlu, y GIG a gwasanaethau rheoli'r ieuenctid a throseddwyr) i:
- adnabod unigolion sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i eithafiaeth a therfysgaeth
- asesu natur a graddau’r perygl hwnnw
- datblygu’r cynllun cymorth mwyaf priodol ar gyfer yr unigolion dan sylw.
Dylai arweinwyr ar ddiogelu ymgyfarwyddo â’r llwybr cyfeirio neu â’r Pwynt Cyswllt Unigol (SPOC) a ddarperir gan yr heddlu yn benodol ar gyfer achosion Prevent a Channel.
Pryd a sut i adrodd am gynnwys ar-lein i’r Heddlu
- Os oes unrhyw wybodaeth i awgrymu bod plentyn mewn perygl ar hyn o bryd neu berygl sydd ar ddod – er enghraifft gwybodaeth ei fod yn bwriadu neu wedi mynd i gwrdd â thramgwyddwr posibl - cysylltwch â'r Heddlu ar 999.
- Mae’n bwysig nad ydych yn gofyn i unrhyw un anfon unrhyw ddelweddau neu fideos i chi ac nad ydych yn anfon unrhyw ddelweddau neu fideos trwy dechnoleg eich hun - hyd yn oed at yr heddlu.
- Os byddwch yn amau bod delweddau/ logiau sgwrsio/ hanes gwefannau ar unrhyw ddyfais sy'n perthyn i'r plentyn, peidiwch â dileu unrhyw beth ar y ddyfais. Mae angen i’r ddyfais gael ei chipio a’i chadw yn y cyflwr y daethpwyd o hyd iddi ynddo. Mynnwch unrhyw fanylion PIN/ mynediad at y ddyfais fel y gall yr heddlu archwilio'r ddyfais mewn unrhyw ymchwiliad.
Ymateb cymesur
- Os yw plentyn yn wynebu risg uniongyrchol, cysylltwch â’r heddlu ar 999
- Os bydd plentyn yn cael profiad o niwed ar-lein neu’n niweidio eraill ar-lein ond os gwneir penderfyniad nad oes achos rhesymol i amau bod hyn yn niwed sylweddol, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth i gefnogaeth ar gyfer y plentyn gan wasanaethau ataliol ac y darperir gwybodaeth a chyngor perthnasol i rieni/gofalwyr y plentyn er mwyn lleihau risgiau niwed yn y dyfodol.
- Mae gwybodaeth a chefnogaeth i blant a rhieni/gofalwyr ar gael o nifer o ffynonellau gan gynnwys:
- Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu diwallu heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol er mwyn asesu ei anghenion.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Ran 7, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn sy’n wynebu risg” yn blentyn:
- a) sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a
- b) y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).
Pan fo plentyn wedi’i adrodd dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried p’un a oes seiliau dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad wedi’i dderbyn yn ymwneud â phlentyn sy’n wynebu risg byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymeg dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth ar a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth.
- Pan fydd pryderon am ymddygiad rhywiol niweidiol ar-lein gan blentyn, mae’n rhaid i hyn gynnwys trafodaeth am gadw unrhyw blant eraill sy'n bys gyda'r plentyn yn ddiogel ac mae'n rhaid cynnwys y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid yn nhrafodaeth y strategaeth amlasiantaeth. Dylid cyfeirio at Ganllaw Ymarfer Cymru Gyfan - Diogelu Plant, lle y bo pryderon am Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth yn nodi nad oes seiliau dros symud ymlaen at Gyfarfod Strategaeth neu at Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio ar gyfer gwaith ataliol i leihau tebygrwydd risg o niwed yn y dyfodol.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Pan fo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion a gaiff eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y broblem.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol ddarllen Canllawiau Arfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol megis Mynd ar goll o’r cartref neu leoliad gofal, Masnachu Plant, Camfanteisio’n Droseddol ar Blant (CDB) neu Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (YRhN).
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Pan fo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn yn benodol o ran cael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys eglurhad am rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys beth gall a beth na all ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail ei ddymuniadau a theimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n unig dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – eglura hawl statudol plant a phobl ifanc ar gymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Yn seiliedig ar gontinwwm Hackett o ymddygiad rhywiol plant a phobl ifanc (Hackett, 2010)
Normal – Ymddygiad ar-lein a ddisgwylir yn ôl datblygiad/ sy’n gymdeithasol dderbyniol, yn gydsyniol, rhwng y naill a'r llall, yn ddwyochrog.
Enghreifftiau: Mae dau laslanc sydd mewn perthynas ramantaidd gydsyniol yn anfon negeseuon at ei gilydd, sydd â chynnwys rhywiol
Mae plentyn/person ifanc yn chwilio am wybodaeth am newidiadau i’r corff/ blaenaeddfedrwydd
Yn amhriodol – Enghreifftiau unigol o ymddygiad rhywiol amhriodol/ ymddygiad cymdeithasol dderbyniol o fewn grŵp o gyfoedion
Enghreifftiau: Mae dau laslanc sydd mewn perthynas ramantaidd gydsyniol yn anfon delweddau noeth a gynhyrchwyd ganddynt eu hunain i'w gilydd
Mae person ifanc yn edrych ar bornograffi yn achlysurol
Mae plentyn yn chwilio’n fwriadol am gynnwys sy’n rhywiol neu’n amhriodol i’w oedran, ond ni ailadroddir hyn yn dilyn sancsiynau.
Problematig – Ymddygiad problematig sy’n peri pryder, yn annisgwyl yn anarferol o ran datblygiad ac yn gymdeithasol, dim elfennau amlwg o fictimeiddio
Enghreifftiau: Mae person ifanc yn anfon neges rywiol at berson ifanc arall, sy’n ddigroeso
Mae person ifanc yn anfon llun rhywiol at berson ifanc arall, sy’n ddigroeso
Mae plentyn yn chwilio yn barhaus ac yn fwriadol am gynnwys rhywiol/ amhriodol i'r oedran
Mae person ifanc yn edrych yn barhaus ar bornograffi, i sut raddau sydd yn cael effaith ar ei lesiant/llesiant a'i les/lles emosiynol
Ymosodol – Fictimeiddio bwriad neu ganlyniad, yn cynnwys camddefnyddio pŵer, ymwthiol, diffyg cydsyniad deallus neu sydd heb ei roi’n rhydd gan y dioddefwr
Enghreifftiau: Mae’r person ifanc yn edrych ar/ yn lawrlwytho delweddau anweddus o blant yn fwriadol
Mae person ifanc yn creu delweddau anweddus o blentyn/ person ifanc arall yn fwriadol, gyda’r bwriad o rannu hyn gydag eraill
Mae person ifanc yn dangos cynnwys rhywiol amlwg i blentyn sy'n iau neu'n fwy agored i niwed
Mae person ifanc yn anfon delweddau rhywiol/ negeseuon rhywiol yn barhaus at bobl eraill, heb eu caniatâd ac mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys elfennau o fygythiad neu godi arswyd
Mae’r plentyn yn edrych ar gynnwys rhywiol amlwg yn rheolaidd ac ni all roi’r gorau i hyn
Treisgar –
Enghreifftiau: Mae plentyn neu berson ifanc yn edrych ar gynnwys treisgar/ rhywiol amlwg ac yn dweud ei fod yn cael ei gynhyrfu ganddo
Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr
Mae gwybodaeth a chefnogaeth i blant a rhieni/gofalwyr ar gael o nifer o ffynonellau gan gynnwys: www.thinkuknow.co.uk stopitnow.org.uk a Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein yr NSPCC 0808 800 5002
Mae’r NSPCC wedi cynhyrchu yr awgrymiadau defnyddiol canlynol er mwyn eich helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel:
- Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein
- Gofynnwch iddo ddangos rhai o’i hoff wefannau i chi
- Dangoswch ddiddordeb mewn pwy yw ei ffrindiau ar-lein
- Gofynnwch iddo sut mae’n penderfynu â phwy i fod yn ffrindiau
- Ceisiwch ei berswadio i fod yn ffrind ar-lein i chi hefyd
- Cytunwch ar faint o amser mae'n ei dreulio ar-lein a'r gwefannau mae'n ymweld â nhw
- Meddyliwch am osod rheolaeth rhieni ar ei ddyfeisiau
- Codwch y mater o gynnwys amhriodol. A ydynt wedi gweld peth?
- Sicrhewch eu bod yn gwybod sut i adrodd am gam-drin ar-lein
Nid yw plant yn meddwl am bobl maent wedi cwrdd â nhw drwy rwydweithio cymdeithasol a gemau ar-lein fel pobl ddieithr - dim ond ffrindiau ar-lein ydynt. Esboniwch ei fod yn llawer haws i bobl ddweud celwydd nag y mae mewn bywyd go iawn. Yn ddelfrydol, byddwch yn ffrindiau gyda’ch plentyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ond os bydd yn gwrthod, gofynnwch i ffrind neu aelod o’r teulu y mae’r ddau ohonoch yn ymddiried ynddo i roi cynnig arno.
Cymerwch ddiddordeb yng gweithgareddau ar-lein eich plentyn yn yr un ffordd ag yr ydych yn ei wneud gyda’i weithgareddau all-lein. Beth yw ei feini prawf wrth ddewis ffrindiau? Pam mae ganddo gymaint? Peidiwch ofni gofyn, oherwydd ei bod yn bwysig trafod diogelwch ar-lein gydag ef.
Cytunwch ar reolau sylfaenol gyda’ch gilydd. Ystyriwch faint o amser y caniateir iddo dreulio ar-lein, y gwefannau mae'n ymweld â nhw a'r gweithgareddau mae'n cymryd rhan ynddynt.
Mae darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd (ISPs) megis Virgin Media, TalkTalk, Sky neu BT, yn darparu rheolaeth rhieni ar gyfer gliniaduron, ffonau, llechi, consolau gemau a dyfeisiau eraill sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd. Mae rheolaeth rhieni yn eich helpu i ffiltro neu i gyfyngu ar yr hyn y gall eich plentyn ei weld ar-lein.
Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich plentyn er mwyn cadw gwybodaeth bersonol yn breifat. Siaradwch ag ef am beth i'w wneud os bydd yn gweld cynnwys sy'n peri pryder neu ofid neu os bydd rhywun yn cysylltu ag ef ac yn peri iddo deimlo’n bryderus neu’n anghyfforddus.
Mae gan lawer o wefannau offer ar gyfer adrodd am gam-drin – sicrhewch ei fod yn gwybod am y rhain hefyd.
Mae gwefannau gwych i’ch helpu i ddysgu rhagor am ddiogelwch ar-lein i blant, megis Internet Matters, Safer Internet a Childnet. Os ydych yn bryderus am rywbeth, gallwch ffonio llinell gymorth diogelwch ar-lein yr NSPCC ar 0808 800 5002.
Cam-drin ar-lein a’r gyfraith
Communications Act 2003 - Ledled y DU, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd ddefnyddio rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus yn amhriodol. Mae Adran 127 yn benodol wrth ei gwneud yn drosedd i anfon neges electronig sy’n ddifrifol dramgwyddus neu o natur anweddus, anllad neu fygythiol.
Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 - Yng Nghymru ac yn Lloegr, mae’r Deddf Cyfathrebu Maleisus yn ei gwneud yn drosedd anfon cyfathrebiad gyda’r bwriad o beri trallod neu bryder.
Ledled y DU, mae’r ddeddfwriaeth sy’n rhestru troseddau rhywiol hefyd yn berthnasol i gam-drin plant yn rhywiol ar-lein, gan gynnwys:
- cyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn;
- peri neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol
- peri i blentyn wylio gweithred rywiol
- talu am wasanaethau rhywiol plentyn
- achosi neu annog camfanteisio’n rhywiol ar blentyn
- cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn.
Mae deddfwriaeth ar fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern ledled y DU yn ei gwneud yn drosedd masnachu a/neu gaethiwo plant er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol ac yn gwneud darpariaethau ar gyfer dedfrydu troseddwyr. Gall y rhain hefyd fod yn berthnasol i fasnachu plant ar gyfer camfanteisio rhywiol ar-lein.
Cydsyniad Deddf Troseddau Rhywiol 2003: Yr oedran cydsyniad (oedran cyfreithiol i gael rhyw) yn y DU yw 16 oed. Mae’r cyfreithiau yn bodoli i amddiffyn plant. Nid ydynt ar gael i erlyn y rhain dan 16 oed sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol yn gydsyniol ar y ddwy ochr ond cânt eu defnyddio os yw’r gweithgareddau hyn yn cynnwys camdriniaeth neu gamfanteisio. I helpu i amddiffyn plant iau mae’r gyfraith yn dweud na all unrhyw un dan 13 oed roi cydsyniad yn gyfreithiol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn sy’n 12 oed neu’n iau yn destun cosbau a nodir yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003. Mae’r gyfraith hefyd yn amddiffyn pobl ifanc sy’n 16 i 17 oed. Mae’n anghyfreithlon dynnu, dangos neu ddosbarthu ffotograffau anweddus.
Deddf Trosedd Ddifrifol 2015 – Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn drosedd i gymryd rhan mewn ymddygiad lle y mae oedolyn yn cyfathrebu'n fwriadol (er enghraifft, trwy e-bost, nodyn ysgrifenedig neu ar lafar) â phlentyn o dan 16 oed (nad yw'r oedolyn yn credu'n rhesymol ei fod yn 16 oed neu'n hŷn) at ddiben cael pleser rhywiol os yw'r cyfathrebiad yn rhywiol neu wedi'i fwriadu i annog y plentyn i wneud cyfathrebiad rhywiol (adran newydd 15A (1) a (2)).
Mae Ddeddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 – yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau penodol, gan gynnwys yr heddlu, i ystyried yn briodol yr angen i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Adwaenir hyn hefyd fel y 'Ddyletswydd atal'. Mae’n rhoi nifer o gyfrifoldebau ar yr awdurdodau hynny a’u partneriaid.
1https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/175391/Munro-Review.pdf
2https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/650933/Literature_Review_Final_October_2017.pdf
3https://www.iwf.org.uk/news/iwf-research-on-child-sex-abuse-live-streaming-reveals-98-of-victims-are-13-or-under
4 Lorenzo-Dus, N et al (2016) Understanding grooming discourse in computer-mediated environments. Discourse, Context and Media. 12. 40-50
https://www.britishscienceassociation.org/news/children-at-risk-of-grooming-in-as-little-as-18-minutes
5https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0028/95068/Childrens-online-behaviour-issues-of-risk-and-trust.pdf
6Hwb On-line Safety Site is the Welsh Government education resources site for educators. SchoolBeat.org is a bilingual site from the All-Wales School Liaison Core Programme, providing information and resources for teachers, pupils and parents to follow up on the lessons provided to primary and secondary school children by School Community Police Officers.
7https://www.gov.uk/government/publications/serious-violence-strategy
8https://learning.nspcc.org.uk/research-resources/2017/impact-online-offline-child-sexual-abuse/
9https://www.mariecollinsfoundation.org.uk/assets/news_entry_featured_image/MCF-Peer-on-peer-Abuse-Research-Report-sunday-final-version.pdf
10 Hackett, S (2010). Children, young people and sexual violence. In Barter, C and Berridge, D (eds) Children behaving badly? Exploring peer violence between children and young people. London: Blackwell Wiley.
11https://www.internetmatters.org/issues/radicalisation/
12https://www.internetmatters.org/hub/expert-opinion/radicalisation-of-young-people-through-social-media/
13https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/445977/3799_Revised_Prevent_Duty_Guidance__England_Wales_V2-Interactive.pdf
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF