Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cymryd Agwedd sy’n Canoli ar y Plentyn

Mae Adolygiadau Arfer Plant weithiau yn tynnu sylw at sefyllfaoedd lle methodd yr ymarferwyr oedd yn rhan o’r achos â chymryd agwedd oedd yn canoli ar y plentyn. Gall methiant i ganolbwyntio ar y plentyn fel unigolyn arwain at ymylu eu profiadau, eu dymuniadau a’u teimladau am eu sefyllfa.

Cafwyd fod yr isod yn gymorth i ymarferwyr gadw agwedd o ganoli ar y plentyn:

1) Gweld a siarad â’r plentyn

Mae hyn yn mynnu bod ymarferwyr yn hwyluso gallu’r plentyn i gymryd rhan. I blentyn ifanc, gall hyn fod trwy chwarae neu weithgareddau. I blentyn hŷn, gall fod trwy gefnogaeth cyfathrebu neu eiriolaeth. Y nod yw ceisio sefydlu ymddiriedaeth fel y gall y plentyn fod yn agored ac yn onest. Dylid talu sylw’n arbennig i unrhyw anghenion penodol fydd gan y plentyn, er enghraifft ei system gyfathrebu.

2) Dod i wybod am eu profiad o fyw bob dydd

I adnabod a chwrdd ag anghenion plentyn mewn perygl o niwed rhaid deall sut beth yw diwrnod yn ei fywyd, ei deimladau am ei ddiwrnod a beth hoffent newid. Mae’n bwysig hefyd gwybod sut mae’r diwrnod yn newid ar benwythnosau, adeg gwyliau a phan fydd gwahanol bobl yn gofalu amdanynt. Dim ond trwy ddeall eu profiad o fyw bob dydd y gall ymarferwyr sylweddoli sut y mae camdriniaeth neu esgeulustod yn effeithio ar yr unigolyn, ei anghenion, meysydd gwytnwch a’r ffactorau risg.

3) Canfod beth hoffai’r plentyn weld yn newid yn ei fywyd beunyddiol

I ddeall pa ddeilliannau mae’r plentyn eisiau, mae’n bwysig gwybod beth mae am gyflawni a beth sy’n bwysig iddo. Mae’n bwysig hefyd canfod sut mae’r plentyn am i’w fywyd beunyddiol newid. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth i ymarferwyr o’r modd mae’r plentyn yn synied am y gamdriniaeth neu’r esgeulustod mae’n ddioddef, ei effaith a’r deilliannau personol y gobeithia gael trwy ymyriad proffesiynol.

4) Sicrhau nad yw dymuniadau yn goresgyn y buddiannau diogelu

Mae’n bwysig cymryd dymuniadau a theimladau’r plentyn o ddifrif. Fodd bynnag, er y dylai hawl y plentyn i gael ei glywed fod yn ganolog i unrhyw agwedd, dylai ei fuddiannau yn wastad fod yn flaenaf hyd yn oed os yw hyn yn groes i’w ddymuniadau. Er enghraifft, gall person ifanc sy’n dioddef cam-fanteisio rhywiol fod eisiau parhau i weld ei gamdriniwr hyd yn oed pan nad yw hyn o les.


Am fwy o wybodaeth gweler:

www.sheffkids.co.uk, (Cyrchwyd 29/7/2019) am daflenni gwaith y gall ymarferwyr eu defnyddio i gael mewnwelediad i ddymuniadau a theimladau plentyn.

www.socialworkerstoolbox.com, (Cyrchwyd 29/7/2019) hefyd yn rhoi adnoddau ac offer am ddim y gall unrhyw ymarferydd ddefnyddio i gyfathrebu gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd.