Yn ol Rhannu Cymraeg English

Camdriniaeth Gorfforol

Mathau o gamdriniaeth gorfforol

Mae camdriniaeth gorfforol yn golygu brifo plentyn neu berson ifanc yn fwriadol. Mae’n cynnwys:

  • cyfyngu corfforol; megis clymu wrth wely
  • cloi mewn ystafell
  • llosgi
  • torri
  • slapio
  • dyrnu
  • cicio
  • barthu neu dagu
  • trywanu neu saethu. Dal bwyd neu sylw meddygol yn ôl
  • rhoi cyffuriau
  • atal rhag cysgu
  • achosi poen. Ysgwyd neu daro babanod
  • ffugio neu gymell salwch (FII) (RCPCH, 2009). Mae’n digwydd pan fo gofalwr yn fwriadol yn hyrwyddo’r plentyn fel un sâl trwy or-ddweud, peidio â thrin problemau go-iawn, ffugio (dweud celwydd) neu ffugio arwyddion a/neu gymell salwch.

Mewn achosion difrifol, gall peth ymddygiad gan ofalwr a all arwain at niwed gynnwys:

  • Achosi symptomau yn fwriadol trwy roi meddyginiaeth neu sylweddau eraill (mae hyn yn cynnwys gwenwyno bwriadol), neu trwy fygu bwriadol
  • Ymyrryd â thriniaethau trwy or-ddosio, peidio â rhoi meddyginiaeth, neu ymyrryd a chyfarpar meddygol megis llinellau arllwysiadau;
  • Honni fod gan y plentyn symptomau na ellir ei dilysu onis gwelir yn uniongyrchol, megis poen, pasio dŵr yn aml, chwydu, neu ffitiau, sy’n arwain at ymchwiliadau a thriniaethau diangen;
  • Gor-wneud symptomau, eto gan arwain at ymchwiliadau a thriniaethau diangen;
  • Ffugio canlyniadau profion a siartiau arsylwi;
  • Cael triniaethau neu gyfarpar arbenigol i blant nad oes mo’u hangen;
  • Honni bod salwch seicolegol di-sail ar blentyn.

Arwyddion posib

Cleisiau yn peri amheuaeth o gam-drin plentyn os:

bydd gan blentyn neu berson ifanc glais ar ffurf llaw, rhwymyn, ffon, ôl dannedd, cydio neu erfyn.

oes cleisio neu petechiae (smotiau bychain coch neu biws) nas achoswyd gan gyflwr meddygol (er enghraifft, anhwylder ceulo) ac os nad oes esboniad addas am y cleisio, er enghraifft, ar blentyn nad oedd yn symud

Brathiadau, torri croen, sgriffiadau a chreithiau yn peri amheuaeth o gam-drin plentyn os:

ceir adroddiad neu ymddangosiad marc brathiad dynol nad yw’n debygol o fod wedi ei achosi gan blentyn ifanc.

oes gan y plentyn doriadau croen, sgriffiadau neu greithiau ac nad yw’r esboniad yn addas. Gall fod ar fannau a warchodir fel arfer gan ddillad (er enghraifft, y cefn, brest, abdomen, y gesail, mannau cenhedlol)

Anafiadau gwres ac oerfel yn peri amheuaeth o gam-drin plentyn os:

oes gan blentyn anafiadau llosgi neu sgaldian:

bod yr esboniad am yr anaf yn absennol neu’n anaddas neu na all y plentyn symud yn annibynnol neu ar unrhyw fan o feinwe meddal na ellid disgwyl iddo ddod i gysylltiad â gwrthrych poeth mewn damwain (er enghraifft, cefn y dwylo, gwadnau’r traed, ffolennau, cefn) neu ar ffurf erfyn (er enghraifft, sigarét, haearn smwddio) neu* sy’n arwydd o drochi gorfodol, er enghraifft: sgaldio’r ffolennau, perinëwm a’r aelodau isaf, sgaldio’r aelodau mewn maneg neu hosan

os oes gan y plentyn anafiadau oerfel (er enghraifft, dwylo neu draed yn goch ac wedi chwyddo) heb esboniad meddygol amlwg.

os gwelir plentyn â hypothermia a bod yr esboniad yn anaddas.

Toresgyrn yn peri amheuaeth o gam-drin plentyn os:

yw plentyn wedi torri un neu fwy o esgyrn yn niffyg cyflwr meddygol sy’n gwneud yr esgyrn yn frau (er enghraifft, osteogenesis imperfecta, osteopenia oherwydd geni cynamserol) neu os nad oes esboniad neu fod yr esboniad yn anaddas. Gall hyn gynnwys:

  • esgyrn wedi torri ar wahanol gyfnodau
  • Tystiolaeth pelydr-x o doresgyrn cudd (toresgyrn a welwyd ar belydr-x nad oedd yn amlwg yn glinigol). Er enghraifft, asennau babanod wedi torri.

Anafiadau mewngreuanol yn peri amheuaeth o gam-drin plentyn os:

bod gan blentyn anaf mewngreuanol yn niffyg trawma mawr damweiniol a gadarnhawyd neu achos meddygol hysbys, dan un neu fwy o’r amgylchiadau isod:

  • dim esboniad neu esboniad anaddas*
  • y plentyn dan 3 oed
  • bod hefyd:
  • gwaedlif retinol neu
  • dorri asennau neu esgyrn hir neu
  • anafiadau cysylltiedig eraill a achoswyd
  • fod gwaedlin lluosog dan yr wyneb gyda neu heb waedlin agos i’r ymennydd gyda neu heb ddifrod ischaemig hypocsig (difrod oherwydd diffyg cyflenwad gwaed ac ocsigen) i’r ymennydd.

Trawma i’r llygaid yn peri amheuaeth o gam-drin plentyn os:

oes gan blentyn waedlin retinol neu anaf i’r llygad yn niffyg trawma mawr damweiniol a gadarnhawyd neu esboniad meddygol hysbys, gan gynnwys achosion cysylltiedig â’r geni.

Anafiadau i asgwrn y cefn, y perfedd, y geg ac anafiadau cyffredinol yn peri amheuaeth o g amdriniaeth gorfforol os:

gwelir plentyn gydag arwyddion o anaf i asgwrn y cefn (anaf i fertebrau neu yng nghamlas y cefn) yn niffyg trawma mawr damweiniol a gadarnhawyd. Gall anaf i asgwrn y cefn gael ei weld fel:

• canfyddiad ar arolwg o asgwrn y cefn neu ddelweddu cyseinedd magnetig

• anaf i’r serfics cysylltiedig ag anaf a achoswyd i’r pen

• anaf thoraco-feingefnol gyda niwroleg ganolog neu kyphosis heb esboniad yr asgwrn cefn yn grwm neu wedi’i anffurfio).

plentyn ag anaf yn yr abdomen neu’r thoracs yn niffyg trawma mawr damweiniol a gadarnhawyd ac nid oes esboniad neu mae’r esboniad yn anaddas, neu bu oedi cyn cyflwyno. Efallai na fydd cleisio nac anaf allanol arall.

plentyn ag anaf i’r geg ac nid oes esboniad neu mae’r esboniad yn anaddas.

Os nad oes esboniad addas* am anaf difrifol neu anarferol.


Further information:

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2012a). Core Info: Bruises on Children. (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2012b). Core Info: Fractures in Children. (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2012d). Core Info: Oral Injuries and Bites on Children.* (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2012e). Core Info: Thermal Injuries on Children. (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2014a). Core Info: Head and Spinal Injuries in Children. (Cyrchwyd 29/7/2019)

Salwch Gwneud ac a Gymhellwyd – canllaw ymarferol i bediatryddion (Cyrchwyd 29/7/2019)

Llywodraeth Cynulliad Cymru. Diogelu Plant lle mae Salwch yn Salwch Gwneud neu wedi ei Gymell – Canllaw ategol i Ddiogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004. 2008.