Mae 2 wahanol fath o gam-drin plant yn rhywiol. Fe’u gelwir yn gamdriniaeth cyswllt a chamdriniaeth heb gyswllt.
Camdriniaeth cyswllt yw gweithgareddau cyffwrdd lle mae cam-driniwr yn gwneud cysylltiad corfforol gyda phlentyn, gan gynnwys treiddio. Mae’n cynnwys: cyffwrdd yn rhywiol unrhyw ran o’r corff boed y plentyn yn gwisgo dillad neu beidio
Camdriniaeth heb gyswllt yw: gweithgareddau heb olygu cyffwrdd, megis meithrin perthynas, cam-fanteisio, perswadio plant i gyflawni gweithredoedd rhywiol dros y rhyngrwyd, a dinoethi. Mae’n cynnwys:
Ymddygiad o natur rywiol yn peri amheuaeth o gam-drin plant, a chamdriniaeth rywiol, os :
bydd plentyn cyn llencyndod yn arddangos neu y dywedir ei fod yn arddangos ymddygiad rhywiol cyson neu orfodol (er enghraifft, siarad rhywiol cysylltiedig â gwybodaeth, tynnu lluniau organau rhywiol, dynwared gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn arall).
bydd ymddygiad rhywiol plentyn neu berson ifanc yn anwahaniaethol, rhagaeddfed neu orfodol.
bydd plentyn cyn llencyndod yn arddangos ymddygiad rhywiol anarferol neu y dywedir ei fod. Ymhlith enghreifftiau mae:
Symptomau yn yr organau rhywiol neu’r anws yn peri amheuaeth o gamdriniaeth rywiol os :
oes gan ferch neu fachgen anaf ar yr organau rhywiol, yr anws neu’r perinëwm (tystiolaeth fyddai cleisio, rhwygiad, chwyddo neu sgriffiad) ac nad oes esboniad neu fod yr esboniad yn anaddas.
oes gan ferch neu fachgen symptomau cyson neu gylchol ar yr organau rhywiol neu’r anws (er enghraifft, gwaedu neu arllwysiad) sy’n gysylltiedig â newid ymddygiad neu emosiwn ac nad oes esboniad meddygol amdano.
oes gan ferch neu fachgen hollt yn yr anws, ac nad yw rhwymedd, clefyd Crohn a phasio carthion caled wedi ei dderbyn fel achos.
gwelir anws agored mewn merch neu fachgen yn ystod archwiliad ac nad oes esboniad meddygol (er enghraifft, anhwylder niwrolegol neu rwymedd difrifol).
oes gan ferch neu fachgen symptom ar yr organau rhywiol neu’r anws (er enghraifft, gwaedu neu arllwysiad) heb esboniad meddygol.
oes gan ferch neu fachgen dysuria (anghysur wrth wneud dŵr) neu anghysur yn yr organau rhywiol sy’n gyson neu yn gylchol ac nad oes esboniad meddygol (er enghraifft, llyngyr, haint ar y dŵr, cyflyrau’r croen, hylendid gwael neu alergeddau hysbys).
oes tystiolaeth o un neu fwy o gorffynau estronol yn y fagina neu’r anws.
Gall arllwysiad annifyr o’r fagina fod yn arwydd o gorffynau estronol yn y fagina.
Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol : ystyriwch gamdriniaeth rywiol os :
oes gan blentyn iau na 13 hepatitis B onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, trosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd neu halogiad gwaed.
oes gan blentyn iau na 13 ddefaid ar yr organau rhywiol neu’r anws onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, trosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd
oes gan blentyn iau na 13 gonorea, clamydia, siffilis, herpes ar yr organau rhywiol, hepatitis C, heintiad HIV neu trichomonas onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, neu halogiad gwaed.
oes gan berson ifanc 13 i 15 oed hepatitis B onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, trosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd neu halogiad gwaed, neu y cafwyd yr heintiad o weithgaredd rhywiol cydsyniol gyda chyfoed.
oes gan berson ifanc 13 i 15 oed ddefaid ar yr organau rhywiol neu’r anws onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, trosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd neu halogiad gwaed, neu y cafwyd yr heintiad o weithgaredd rhywiol cydsyniol gyda chyfoed.
oes gan berson ifanc 13 i 15 oed gonorea, clamydia, siffilis, herpes ar yr organau rhywiol, hepatitis C, heintiad HIV neu trichomonas onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, trosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd neu halogiad gwaed, neu y cafwyd yr heintiad a drosglwyddwyd yn rhywiol(STI) o weithgaredd rhywiol cydsyniol gyda chyfoed.†
oes gan berson ifanc 16 neu 17 oed hepatitis B anws ac nad oes tystiolaeth glir o drosglwyddo o’r fam i’r plentyn yn ystod genedigaeth, trosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd neu halogiad gwaed, neu y cafwyd yr heintiad o weithgaredd rhywiol a bod gwahaniaeth clir mewn grym neu alluedd meddyliol rhwng y person ifanc a’i gymar rhywiol, yn enwedig os yw’r berthynas yn un llosgachol neu gyda rhywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth (er enghraifft, athro/athrawes, hyfforddwr chwaraeon, gweinidog yr efengyl) neu bryder fod y person ifanc yn dioddef cam-fanteisio.
oes gan berson ifanc 16 neu 17 oed ddefaid ar yr organau rhywiol neu’r anws onid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo heb fod yn rhywiol gan aelod o’r aelwyd neu y cafwyd yr heintiad o weithgaredd rhywiol a bod gwahaniaeth clir mewn grym neu alluedd meddyliol rhwng y person ifanc a’i gymar rhywiol, yn enwedig os yw’r berthynas yn un llosgachol neu gyda rhywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth (er enghraifft, athro/athrawes, hyfforddwr chwaraeon, gweinidog yr efengyl) neu bryder fod y person ifanc yn dioddef camfanteisio.
oes gan berson ifanc 16 neu 17 oed gonorea, clamydia, siffilis, herpes ar yr organau rhywiol, hepatitis C, heintiad HIV neu trichomonas ac nad oes:
tystiolaeth glir o halogiad gwaed neu y cafwyd yr STI o weithgaredd rhywiol cydsyniol a bod gwahaniaeth clir mewn grym neu alluedd meddyliol rhwng y person ifanc a’i gymar rhywiol, yn enwedig os yw’r berthynas yn un llosgachol neu gyda rhywun mewn sefyllfa o ymddiredaeth (er enghraifft, athro/athrawes, hyfforddwr chwaraeon, gweinidog yr efengyl) neu bryder fod y person ifanc yn dioddef camfanteisio.
Beichiogrwydd ystyriwch gamdriniaeth rywiol os :
yw menyw ifanc 13 i 15 oed yn feichiog.
yw menyw ifanc 16 neu 17 oed yn feichiog a bod: bod gwahaniaeth clir mewn grym neu alluedd meddyliol rhwng y person ifanc a’i gymar rhywiol, yn enwedig os yw’r berthynas yn un llosgachol neu gyda rhywun mewn sefyllfa o ymddiredaeth (er enghraifft, athro/athrawes, hyfforddwr chwaraeon, gweinidog yr efengyl) neu bryder fod y fenyw ifanc yn dioddef camfanteisio neu fod pryder nad oedd y gweithgaredd rhywiol yn gydsyniol.
Gwybodaeth bellach:
Radford, L., Richardson Foster, H., Barter, C., and Stanley, N. (2017). Rapid Evidence Assessment: What Can Be Learnt from Other Jurisdictions About Preventing and Responding to Child Sexual Abuse. . Independent Inquiry into Child Sexual Abuse, Llundain
Thomas, M., and Speyer, E. (2016). I Never Spoke About It’... Supporting sexually exploited boys and young men in Wales http://www.barnardos.org.uk/17595_bs_i_never_spoke_about_it_cse_report_e.pdf (Cyrchwyd 29/7/2019) (copïwch a gludiwch yr URL hwn i borwr)
Clutton, S., and Coles, J. (2008). "Child Sexual Exploitation in Wales: 3 years on. Policy and Practice Briefing No.3. "(eds.). City: Barnardo's.
Fisher, C., A, G., Hurcombe, R., and Soares, C. (2017). The Impacts of Child Sexual Abuse: A Rapid Evidence Assessment. Independent Inquiry into Child Sexual Abuse, Llundain
Hallett, S. (2015). Child Sexual Exploitation: Problems and Solutions from the perspectives of young people and professionals. Cascade Research Briefing No 3., Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant - Prifysgol Caerdydd,
Hughes, C., and Thomas, M. (2016). 'You Can Trust Me': Young people going missing and at risk of, or abused through, child sexual exploitation in North Wales. Barnardo's, http://www.barnardos.org.uk/17312_cse_you_can_trust_me_report_lr.pdf. (Cyrchwyd 29/7/2019) (copïwch a gludiwch yr URL hwn i borwr)
NSPCC Signs Indicators and Effects of Child Sexual Abuse, (Cyrchwyd 29/7/2019)
NHS Spotting signs of child sexual abuse and child sexual exploitation, (Cyrchwyd 29/7/2019)