Yn ol Rhannu Cymraeg English

Esgeulustod

Mathau o esgeulustod

Esgeuluso plant yw methiant ar ran y gŵr/wraig sy’n darparu gofal neu fam feichiog i gwblhau’r tasgau magu plant sydd eu hangen i sicrhau yr atebir anghenion datblygol y plentyn. Gall y methiant hwn fod yn gysylltiedig â phroblemau magu plant megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Dylid tynnu gwahaniaeth rhwng esgeulustod a thlodi ac y mae’n digwydd er bod adnoddau rhesymol ar gael i alluogi’r gofalwr/wyr i gyflawni’r tasgau magu i safon ddigon da. Er bod esgeulustod yn debyg o fod yn gyson ac yn achosi niwed cronnus, gall digwyddiadau unigol ac esgeulustod ysbeidiol effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn.

Mae amrywiaeth o ymddygiad gan rieni y gellir eu disgrifio fel esgeulustod:

Esgeulustod meddygol: methiant i geisio na darparu gofal meddygol, deintyddol ac optegol priodol

Esgeulustod Maeth: digwydd pan fetha’r gofalwr a thalu sylw digonol i ymborth y plentyn a all fynd yn ordew neu fethu a ffynnu

Esgeulustod Goruchwylio: digwydd pan fetha’r gofalwr a darparu’r lefel o gyfarwyddyd a goruchwyliaeth sy’n sicrhau bod y plentyn yn ddiogel ac yn cael ei amddiffyn rhag niwed

Esgeulustod Addysgol: mae hyn yn fwy na sicrhau bod y plentyn yn mynd i’r ysgol; mae’n cynnwys methiant ar ran y gofalwr i ddarparu amgylchedd fydd yn caniatau i’r plentyn gyrraedd ei botensial gwybyddol

Esgeulustod Corfforol: digwydd pan nad yw’r plentyn yn derbyn y gofal corfforol angenrheidiol i’w oed a’i ddatblygiad a/neu lle mae’r plentyn yn byw mewn amgylchedd ffisegol nad yw’n gydnaws â’i iechyd a’i ddatblygiad a/neu sy’n anniogel

Esgeuluso Hunaniaeth: yn digwydd lle mae rhiant neu ofalwr yn methu â chydnabod neu ymdrin ag anghenion y plentyn neu’r person ifanc o ran, er enghraifft, diwylliant, crefydd, rhywedd a rhywioldeb.

Arwyddion posib

Darpariaeth yn y cartref; ystyriwch esgeulustod os:

oes gan blentyn heigiadau difrifol a chyson, megis clefyd crafu neu lau pen.

yw dillad neu esgidiau plentyn yn gyson amhriodol (er enghraifft, i’r tywydd neu faint y plentyn).

yw plentyn yn gyson ddrewllyd neu frwnt.

Os gwelwch neu clywch yn gyson adroddiadau am amgylchedd y cartref fel a ganlyn sydd dan reolaeth y rhiant neu’r gofalwr:

  • safon isel o hylendid sy’n effeithio ar iechyd plentyn
  • dim digon o fwyd
  • amgylchedd byw nad yw’n ddiogel i gyfnod datblygol y plentyn.

Byddwch yn ymwybodol fod gadael plentyn yn ffurf ar gamdriniaeth.

Diffyg maeth, ystyriwch esgeulustod os:

nad yw plentyn yn ffynnu neu’n tyfu oherwydd nad yw’n cael digon o fwyd neu ddeiet briodol.

Goruchwylio, ystyriwch esgeulustod os:

yw’r esboniad am anaf (er enghraifft, llosg, llosg haul neu lyncu sylwedd niweidiol) yn awgrymu diffyg goruchwyliaeth briodol.

nad yw plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan rywun all ddarparu gofal digonol.

os oes adroddiad am neu frathiad anifail ar blentyn nad oedd dan oruchwyliaeth ddigonol.

Sicrhau mynediad at ofal meddygol priodol, ystyriwch esgeulustod os:

bydd rhieni neu ofalwyr yn methu a rhoi’r driniaeth hanfodol a ragnodwyd i’w plentyn.

bydd rhieni neu ofalwyr yn gyson yn methu â dod i apwyntiadau dilynol hanfodol i iechyd a lles eu plentyn.

bydd rhieni neu ofalwyr yn methu’n gyson ag ymwneud â rhaglenni hybu iechyd perthnasol i blant sydd yn cynnwys:

  • brechu
  • adolygiadau iechyd a datblygiad
  • sgrinio.

bod rhieni neu ofalwyr yn gallu cyrchu triniaeth ar y GIG ond yn methu a gwneud hynny yn gyson ar gyfer pydredd dannedd eu plentyn

bod rhieni neu ofalwyr yn methu â cheisio cyngor meddygol i’w plentyn i’r graddau y peryglir iechyd a lles eu plentyn, gan gynnwys os yw’r plentyn mewn poen cyson.


Gwybodaeth bellach:

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2014b). Core Info: Neglect neu Emotional Abuse in Children Aged 5-14. Llundain: NSPCC. (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2014c). Core Info: Neglect neu Emotional Abuse in Teenagers Aged 13-18. Llundain: NSPCC. (Cyrchwyd 29/7/2019

Pithouse, A., a Crowley, A. (2016). "Tackling child neglect: key developments in Wales." Research, Policy and Planning, 32(1), 25-37.

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. (2017a). Child Protection Evidence Systematic review on Dental Neglect. (Tu ôl i fur gwarchod y wefan, 29/07/2019)

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. (2017b). Child Protection Evidence Systematic review on Early Years Neglect. (Tu ôl i fur gwarchod y wefan, 29/07/2019)

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. (2017c). Child Protection Evidence Systematic review on School Aged Neglect. (Tu ôl i fur gwarchod y wefan, 29/07/2019)

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. (2017d). Child Protection Evidence Systematic review on Teenage Neglect. (ddim ar gael 29/07/2019 – archif?)

Horwath, J (2013) Child Neglect: Planning and Intervention. Llundain: Palgrave McMillan. ISBN978-0-230-20666-3 tt 298.

Horwath, J. (2007) The Neglected Child: Identification and Assessment. Llundain: Palgrave. ISBN 978-1-4039-3346-1 tt 281.