Yn ol Rhannu Cymraeg English

Camdriniaeth Emosiynol ac Esgeulustod

Mathau o gamdriniaeth

Camdriniaeth emosiynol yw trin plentyn yn emosiynol wael yn gyson. Mae weithiau yn cael ei alw yn gamdriniaeth seicolegol a gall wneud difrod difrifol i iechyd a datblygiad emosiynol plentyn.

Gall camdriniaeth emosiynol olygu ceisio dychryn neu sarhau plentyn yn fwriadol neu ei ynysu a’i anwybyddu.

Mae plât sy’n cael eu cam-drin yn emosiynol yn aml yn dioddef math arall o gamdriniaeth neu esgeulustod ar yr un pryd

Gall camdriniaeth emosiynol gynnwys:

  • bychanu neu feirniadu plentyn yn barhaus
  • bygwth neu weiddi ar blentyn neu alw enwau arno
  • gwneud y plentyn yn destun jôcs, neu ddefnyddio coegni i frifo plentyn
  • beio, gweld bai
  • gwneud i blentyn wneud pethau sy’n ei ddiraddio
  • peidio â chydnabod unigolyddiaeth plentyn, ceisio rheoli ei fywyd
  • gwthio plentyn yn rhy galed neu beidio â chydnabod ei gyfyngiadau
  • gadael plentyn yn agored i ddigwyddiadau neu ymwneud a all beri loes, megis camdriniaeth ddomestig neu gymryd cyffuriau
  • methu hyrwyddo datblygiad cymdeithasol plentyn
  • peidio â chaniatáu iddynt gael ffrindiau
  • eu hanwybyddu o hyd
  • bod yn absennol
  • trin plentyn yn annheg
  • byth yn dweud dim byd caredig, mynegi teimladau cadarnhaol na llongyfarch plentyn ar lwyddiant
  • peidio byth â dangos unrhyw emosiwn mewn ymwneud â’r plentyn, a elwir hefyd yn esgeulustod emosiynol.

Arwyddion posib

Cyflwr emosiynol ac ymddygiad; ystyriwch gamdriniaeth plentyn os:

bydd plentyn neu berson ifanc yn dangos neu y dywedir ei fod yn dangos newid mawr yn ei ymddygiad neu gyflwr emosiynol sy’n wahanol i’r hyn y gellid disgwyl o’i oedran a’i gyfnod datblygu, ac nad oes esboniad oherwydd sefyllfa straenllyd hysbys nad yw’n ymwneud â chamdriniaeth (er enghraifft, profedigaeth neu rieni yn gwahanu) neu reswm meddygol. Ymhlith enghreifftiau mae:

  • hunllefau cyson ar yr un themâu
  • loes eithriadol
  • ymddygiad amlwg wrthwynebus
  • tynnu’n ôl o gyfathrebu
  • bod yn ynysig.

Ymddygiad neu gyflwr emosiynol plentyn heb fod yn gyson a’i oedran a’i gyfnod datblygu ac nad oes modd ei esbonio trwy reswm meddygol, anhwylderau niwroddatblygiadol (er enghraifft, anhwylder gorfywiogrwydd diffyg canolbwyntio (ADHD), anhwylderau ar y sbectrwm awtistiaeth) neu sefyllfa straenllyd hysbys arall nad yw’n ymwneud â chamdriniaeth (er enghraifft, profedigaeth neu rieni yn gwahanu). Ymhlith enghreifftiau o ymddygiad neu gyflyrau emosiynol a all ffitio’r disgrifiad hwn mae:

  • Cyflyrau emosiynol:
    • ofnus, ynysig, diffyg hunan-barch
  • Ymddygiad:
    • ymosodol, gwrthwynebus
    • siglo’r corff yn ôl ac ymlaen yn gyson
  • Ymddygiad rhyngbersonol:
    • cyswllt â phawb neu geisio anwyldeb
    • bod yn or-gyfeillgar â dieithriaid gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol
    • glynu’n rhy agos at bobl
    • gwneud rhywbeth yn gyson i ddenu sylw
    • dangos ymddygiad eithriadol o ‘dda’ rhag i rieni neu ofalwyr anghymeradwyo
    • methu ceisio na derbyn cysur neu gariad priodol gan berson priodol pan fydd yn dioddef loes mawr
    • ymddygiad rheolus tuag at rieni neu ofalwyr
    • plant ifanc iawn yn dangos ymddygiad gor-ofalus os gwelant rieni neu ofalwyr yn dangos loes.

plentyn yn dangos ymatebion emosiynol ailadroddus, eithafol neu estynedig sydd yn anghymesur â’r sefyllfa a heb fod yr hyn a ddisgwylir o ystyried oedran neu gyfnod datblygiadol y plentyn na’i esbonio trwy achos meddygol, anhwylder niwroddatblygiadol (er enghraifft, ADHD, anhwylderau ar y spectrwm awtistig) neu anhwylder deubegwn ac yr ymchwiliwyd i effeithiau unrhyw gamdriniaeth hysbys yn y gorffennol. Dyma rai enghreifftiau o’r ymatebion emosiynol hyn:

  • dicter neu rwystredigaeth sy’n cael ei ddangos fel ffit o dymer mewn plentyn oed ysgol
  • gwylltio’n aml gyda’r peth lleiaf
  • loes yn cael ei fynegi fel llefain dilywodraeth.

plentyn yn arddangos datgysylltiad (episodau darfodedig o ddatgysylltiad sydd y tu allan i reolaeth y plentyn ac sy’n wahanol i fod yn freuddwydiol, cael ffitiau neu osgoi ymwneud yn fwriadol) nas esbonnir gan ddigwyddiad trawmatig hysbys heb gysylltiad â chamdriniaeth.

plentyn neu berson ifanc yn rheolaidd yn ysgwyddo cyfrifoldebau sydd yn ymyrryd â gweithgareddau dyddiol hanfodol (er enghraifft, mynd i’r ysgol).

plentyn yn ymateb i archwiliad iechyd neu asesiad mewn ffordd anarferol, annisgwyl neu ddatblygiadol amhriodol (er enghraifft, bod yn eithafol oddefol neu wrthwynebu neu wrthod).

Gall hyn fod yn arwydd y gallai ymwneud rhwng y rhiant neu’r gofalwr a’r plentyn yn niweidiol. Ymhlith enghreifftiau mae:

  • Bod yn negyddol neu ymosodol tuag at blentyn neu berson ifanc.
  • Gwrthod plentyn neu berson ifanc neu ei wneud yn fwch dihangol.
  • Disgwyliadau datblygiadol amhriodol neu ymwneud â phlentyn, gan gynnwys bygythiadau neu ddulliau disgyblu amhriodol.
  • Eu gadael yn agored i brofiadau trawmatig neu rai sy’n codi ofn, gan gynnwys camdriniaeth ddomestig.
  • Defnyddio’r plentyn i gyflawni anghenion yr oedolyn (er enghraifft, defnyddio plant mewn anghydfod priodasol).
  • Methu a chymdeithasu’r plentyn yn briodol (er enghraifft, dwyn plant i mewn i weithgareddau anghyfreithlon, eu hynysu, peidio â darparu symbyliad nac addysg).

Pan welir ymwneud cyson niweidiol rhwng rhiant neu ofalwr a phlentyn, neu yr adroddir amdanynt.

Os gwelir rhieni neu ofalwyr neu y dywedir eu bod yn cosbi plentyn am wlychu er bod cyngor proffesiynol yn dweud nad yw hyn yn fwriadol.

os yw’r rhiant neu’r gofalwr yn gyson yn peidio ag ymateb neu fod ar gael yn emosiynol tuag at blentyn ac yn arbennig tuag at blentyn bach


Gwybodaeth bellach:

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2014b). Core Info: Neglect or Emotional Abuse in Children Aged 5-14. Llundain: NSPCC. (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC ac Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd. (2014c). Core Info: Neglect or Emotional Abuse in Teenagers Aged 13-18. Llundain: NSPCC. (Cyrchwyd 29/7/2019)

NSPCC Camdriniaeth emosiynol: signs, indicators and effects. (Cyrchwyd 29/7/2019)