Awgrymiadau Ymarfer: Sut i Gymhwyso’r Broses Ddiogelu i Arfer
Boed yn adnabod pryderon neu wneud asesiadau i ganfod anghenion gofal, cefnogaeth a diogelwch, dylai ymarferwyr ddilyn proses debyg. Fodd bynnag, bydd tasgau yn amrywio. Er enghraifft, bydd y nodau a’r amcanion yn wahanol i ymarferydd mewn canolfan deulu sydd yn nodi pryderon, i nodau ac amcanion asesiad ac ymyriad amlasiantaethol i ddiogelu plentyn mewn perygl.
Mae’r broses gyffredinol i’w weld yn Nhabl 3. Ystyrir pob cyfnod yn gyffredinol isod.
Damcaniaethu a Chasglu Gwybodaeth
Yn ymwybodol neu ddim, boed yn adrodd am gamdriniaeth neu yn rhoi ymholiadau ar waith mewn ymateb i adroddiad, bydd ymarferwyr yn dechrau trwy ddamcaniaethu ynghylch a yw’r plentyn neu’r oedolyn mewn perygl of niwed. Beth sy’n peri i mi feddwl bod yr unigolyn mewn perygl o niwed?_ I gadarnhau neu wrthod y ddamcaniaeth, mae angen i ymarferwyr gael gwybodaeth. Mae casglu gwybodaeth yn cychwyn trwy ystyried: beth ydw i yn wybod?
- Dylai casglu gwybodaeth ganolbwyntio ar yr arwyddion o gamdriniaeth a/ neu esgeulustod posib. Er enghraifft, i’r rhai sydd yn ystyried adrodd am achos o blentyn neu oedolyn mewn perygl mae’n golygu cael digon o wybodaeth i benderfynu a ddylid gwneud adroddiad wrth y gwasanaethau cymdeithasol. I ymarferwyr sy’n ymateb i adroddiad, pwrpas casglu gwybodaeth yw cael mewnwelediad i fyd y plentyn i ddeall a yw angen diogelu a/neu a oes ganddo anghenion gofal a chefnogaeth.
- Bydd swyddogaeth a chyfrifoldebau’r gweithiwr yn effeithio ar y wybodaeth sydd ganddi/i wrth law.
- Dylai gwybodaeth a gesglir fod yn ‘gymesur’. Dylai fod yn ddigonol i fod yn sail i wneud penderfyniad. Er enghraifft, wrth wneud ymholiadau cychwynnol am blentyn fu’n dioddef esgeulustod ers amser maith, gallai hanes y teulu fod yn arwyddocaol.
- Wrth gasglu gwybodaeth, dylid cael manylion a thystiolaeth o bryderon am niwed. Er enghraifft, nid yw ‘mae’r plentyn wedi ei gwisgo’n amhriodol ar gyfer yr ysgol’ yn dweud fawr ddim. ‘Cyrhaeddodd y plentyn yn yr ysgol mewn sandalau a thyllau yn y gwadnau. Yr oedd ganddi got wau denau, ffrog gotwm, dim dillad isaf a dim cot er mai mis Chwefror ydoedd’ yn fwy penodol o lawer. Os mai achlust neu farn broffesiynol yw’r wybodaeth a gesglir, dylid gwneud hyn yn glir.
- Dylai’r defnyddiwr gwasanaeth a’i gofalwyr gael cyfle i roi gwybodaeth am eu sefyllfa a’u dymuniadau a theimladau. Dylid defnyddio dulliau cyfathrebu sy’n hyrwyddo ymwneud a rhannu gwybodaeth. Er enghraifft, gofyn pa iaith maent am ddefnyddio; tynnu ar gyfieithwyr ac eiriolwyr.
- Dylid casglu a rhannu gwybodaeth yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE
- Dylai fod yn amlwg i’r defnyddiwr gwasanaeth a’i wneud gyda chydsyniad rhiant y plentyn mewn perygl. Fodd bynnag, gellir rhannu gwybodaeth heb gydsyniad petai gwneud hynny yn rhoi’r unigolyn neu eraill mewn mwy o risg o niwed.
- Ni ddylai casglu gwybodaeth ganolbwyntio yn unig ar gasglu tystiolaeth i gadarnhau damcaniaeth. Mae’n bwysig casglu gwybodaeth am agweddau cadarnhaol a negyddol y sefyllfa.
- Cofnodwch y wybodaeth a gasglwyd.
Gwneud synnwyr o’r wybodaeth
Wedi casglu’r wybodaeth, cam nesaf y broses yw penderfynu beth mae’r wybodaeth hon yn ddweud wrtha’i am y plentyn rwyf yn ystyried sydd mewn perygl o niwed? A yw yn cadarnhau neu wrthod y ddamcaniaeth? Oes arna’i angen rhoi prawf pellach, ymgynghori, a /neu ystyried damcaniaethau eraill?
Ar y cyfnod hwn, waeth beth fo’r rheswm dros yr asesiad, mae cwestiynau y dylai’r ymarferydd holi ei hun:
- Oes gen i ddigon o wybodaeth i ddadansoddi a dod i farn broffesiynol? Os na, beth mwy sydd arna’i angen? Sut mae ei gael?
- A wyf wedi gweld yr unigolyn a siarad ag ef/hi? A wyf wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddo/i i’w ddweud a chymryd ei d/ddymuniadau, barn a theimladau o ddifrif?
- Oes gen i ddealltwriaeth glir o’r deilliannau personol y mae’r plentyn, y teulu neu’r oedolyn mewn perygl eisiau gyflawni?
- Pa bwysau alla’i roi i’r wybodaeth a gasglwyd? Er enghraifft, a yw’r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, achlust neu farn broffesiynol?
- Oes angen i mi adolygu fy namcaniaeth yn wyneb y wybodaeth a gafwyd ac a ddadansoddwyd?
- Oes arna’i angen cyngor a chyfarwyddyd proffesiynol? Â phwy y galla’i gysylltu? (gweler yr adran am gael cyngor)
Diagram 1 Y broses adnabod, asesu, cynllunio, ymyrryd ac adolygu
Gwneud penderfyniadau a chynllunio
Ar y pwynt hwn, dylai ymarferwyr fod yn holi: beth mae angen i mi wneud, gan ystyried fy swyddogaeth a’m cyfrifoldebau i amddiffyn, gofalu am a chefnogi’r plentyn? A oes angen gweithredu ar unwaith?
Fel y dylai gwybodaeth a gasglwyd fod yn gymesur, felly hefyd y dylai’r ymateb fod.
Dylid ystyried y cwestiynau canlynol:
- Beth mae’r wybodaeth a gasglwyd yn ddweud wrthyf am y risg o niwed a ffactorau amddiffyn?
- Oes gen i ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus am y camau nesaf neu a ddylwn i gasglu mwy? Os felly, beth mae angen i mi wybod? Â phwy y dylwn i ymgynghori?
- Beth yw dymuniadau’r plentyn mewn perygl, ei rieni?
- Beth sydd ei angen gan y teulu a’r ymarferwyr i amddiffyn y plentyn rhag niwed lle bo modd heb dorri ar yr hawl i fywyd teuluol? Os oes llawer o ddewisiadau, ystyriwch fanteision ac anfanteision pob un. Er enghraifft, rhestri aros hir, lleoliad, priodoldeb y gwasanaethau sydd ar gael.
Camau/Ymyriad
Dylai gweithredoedd gael eu cynllunio i sicrhau nad yw’r plentyn bellach mewn perygl o niwed a bod ei anghenion am ofal a chefnogaeth yn cael eu hateb. Dylai ymarferwyr fod yn holi eu hunain: sut bydd y camau a nodwyd - yn syth ac yn y tymor hir - yn cyfrannu at gadw’r plentyn yn ddiogel a gwella ei brofiad o fyw?
Yn y cyfnod hwn, dylid ystyried y 5 ‘P’ (ystyrir cymhwyso’r gwahanol ymatebion i risg niwed yn yr adrannau perthnasol). Rhaid i ymarferwyr a’r oedolyn neu’r plentyn mewn perygl a’i deulu a gofalwyr ddod i gyd-ddealltwriaeth am y canlynol:
- Pam fod yr ymyriadau yn digwydd a sut y’u bwriadwyd i gyrraedd y deilliannau sy’n canoli ar y person
- Pa ymyriadau a wneir i gyrraedd y deiliannau a ddymunir a’r rhesymeg dros yr ymyriadau hyn. Er enghraifft, pam y dylai’r rhiant fynd ar raglen magu plant
- Pwy a ddisgwylir i wneud beth? Mae hyn yn hanfodol fel bod yr ymarferwyr a’r teulu yn deall yn union beth a ddisgwylir ohonynt fel rhan o’r ymyriad a sut y bydd y camau hyn yn cyrraedd y deilliannau a ddymunir.
- Pryd y bydd hyn yn digwydd? Mae’n ddefnyddiol cytuno ar amserlenni gyda mesuriadau cynnydd.
- Pa le y bydd ymyriadau yn digwydd.
Gwerthuso
- Mae gwerthuso ac adolygu yn angenrheidiol er mwyn gweld a gyrhaeddwyd y deilliannau. Os cyrhaeddwyd y deilliannau, yna gall yr achos gael ei gau. Fodd bynnag, rhaid gofyn a yw’r plentyn a’i deulu neu’r oedolyn mewn perygl yn credu fod ansawdd eu bywydau a’u lles wedi gwella?
- Pa dystiolaeth sydd gennym gan y defnyddiwr gwasanaeth a’r ymarferwyr y cyrhaeddwyd y deilliannau y cytunwyd arnynt?
- Pa ymyriadau a weithiodd?
- Pa gamau na wnaeth gyfrannu at well deilliannau?
- Oes angen i ni adolygu ymyriadau ar gyfer yr unigolyn hwn?
Beth na lwyddwyd i’w wneud? Os felly, bydd angen adolygu neu ddechrau o’r dechrau.
A gyrhaeddwyd y deilliannau sy’n sy’n canoli ar y person? Pa dystiolaeth sydd gennym? Os na chyrhaeddwyd y deilliannau, beth ddylai ddigwydd?
Mae’r cwestiynau hyn yn bwysig er mwyn sicrhau na wneir rhagdybiaethau fod y risg o niwed wedi lleihau heb dystiolaeth i gefnogi hyn. Dylai ymarferwyr ystyried y canlynol:
- Y wybodaeth y mae arnom ei angen i’n helpu i wneud y penderfyniad hwn.
- Os cyrhaeddwyd y deilliannau, a ddylid cau’r achos? A oes angen ffynonellau eraill o gefnogaeth i gynnal y lefelau presennol diogelwch a lles?
- A yw’r plentyn mewn perygl, ei deulu neu’r oedolyn mewn perygl ac ymarferwyr yn rhannu dealltwriaeth o gasgliadau’r adolygiad ac unrhyw asesiadau ychwanegol etc. a gwblheir oherwydd y gwerthuso?