Dylai gwasanaethau sy’n canoli ar deuluoedd gymryd agwedd teulu cyfan at wella deilliannau a chael eu teilwrio i amgylchiadau teuluoedd unigol, gan ymateb i newidiadau yn anghenion y teulu. Dylid ystyried y canlynol wrth ddatblygu ymyriadau:
Dylai gwasanaethau geisio grymuso teuluoedd i reoli eu bywydau, i roi gwell ymdeimlad iddynt o berchenogaeth a buddsoddiad yn eu deilliannau.
Dylid cael llwybrau tuag at annibyniaeth i’r teulu, ond gyda mecanwaith gwirio, i hyrwyddo gwytnwch, ac ymdopi. Dylai cynlluniau ac ymyriadau gael eu cyd-gynhyrchu a dylai gwasanaethau yn wastad geisio darparu atebion tymor-hir cynaliadwy. Dylent geisio mynd at wraidd problemau ac nid dim ond y symptomau er mwyn galluogi teuluoedd i barhau i wneud cynnydd wedi i’r ymyriad ddod i ben. Dylid sicrhau ymateb cyfun ac amlasiantaethol.
Dylai gwasanaethau gael eu cydgordio a’u cynllunio yn effeithiol er mwyn sicrhau cynnydd diwnïad i deuluoedd rhwng gwahanol ymyriadau a rhaglenni.
Rhaid parhau i ganolbwyntio yn ddygn, fel bod modd ymaddasu i newid yn amgylchiadau teuluoedd.
Dylai gwasanaethau ymdrin ag anghenion cymunedau lleol, a lle bo modd, ceisio cyfle i gysylltu â rhaglenni lleol eraill gan gynnwys Dechrau’n Deg a Chefnogi Pobl.
Ceisio adnabod anghenion yn gynnar a sicrhau’r ymyriadau priodol yn amserol.
(O Ganllawiau Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017 https://gweddill.gov.wales/docs/dsjlg/publications/cyp/170419-families-first-programme-guidance-en.pdf (Cyrchwyd 29/07/2019)
Mae darparu cefnogaeth effeithiol ac amserol i rieni yn dibynnu ar gael amred o bartneriaid allweddol yn gweithio gyda’i gilydd i adnabod pa deuluoedd sydd angen help.
Gall partneriaid allweddol gynnwys y rhain, ond nid y rhain yn unig:
Ysgolion/cwnselwyr ysgol/unedau cyfeirio disgyblion/gweithwyr proffesiynol addysg eraill.
Gall y rhain chwarae rhan allweddol i adnabod angen yn gynnar, a gallant weithio gyda theuluoedd i atal problemau rhag gwaethygu. Mae ysgolion cynradd yn dueddol o gael cyswllt rheolaidd â rhieni a phlant ac y maent yn aml mewn lle da i sylwi ar y newidiadau bychain yn ymddygiad plentyn, ei wedd neu ei bresenoldeb, a all fod yn arwydd o broblemau gartref.
Gwasanaethau bydwreigiaeth
Bydwragedd fel arfer yw’r cyswllt cyntaf a’r prif un i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd, adeg esgor a’r cyfnod cynnar wedi geni’r baban, ac y maent mewn sefyllfa allweddol i adnabod a gweithio gyda theuluoedd a all fod yn dangos arwyddion o angen. Gallant fod yn gyswllt hanfodol rhwng rhieni a gwasanaethau a gallant sicrhau bod modd cyfeirio at wasanaethau sy’n rhoi help cynnar mor fuan ag sydd modd.
Ymwelwyr iechyd
Mae ymwelwyr iechyd yn chwarae rhan allweddol yn y rheng flaen o ran annog a chefnogi rhieni yn eu cartrefi eu hunain ac y mae ganddynt ran werthfawr hefyd mewn dwyn teuluoedd i mewn, a’u cyfeirio at fwy o gefnogaeth.
Cyrff iechyd eraill
Gall gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, meddygon teulu, GIMPPhI a gwasanaethau eraill fod a rhan ganolog i helpu i adnabod a chefnogi teuluoedd a all fod ag anghenion mwy cymhleth. Hefyd, efallai y bydd ar rai teuluoedd angen ymyriadau mwy arbenigol gan y darparwyr iechyd hyn.
Gwasanaethau tai
Mae gan wasanaethau, bod yn rhai’r awdurdod lleol, cymdeithasau tai neu landlordiaid cymdeithasol, rôl werthfawr i’w chwarae wrth gefnogi teuluoedd. Mae gweithwyr tai rheng-flaen mewn sefyllfa dda i adnabod teuluoedd a all fod angen cefnogaeth a gallant gyfrannu at becynnau cefnogaeth effeithiol i rieni.
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD)
Gall GGD fod â rhan allweddol wrth roi cyngor a chymorth diduedd, am ddim, safonol a chyfoes i deuluoedd a gallant adnabod teuluoedd sydd angen mwy o gefnogaeth.
Heddlu
Mae gwasanaethau cymunedol yr Heddlu yn gallu helpu i adnabod teuluoedd a all fod angen cefnogaeth a gallant hefyd roi cyngor gwerthfawr am ffactorau dylanwadol a all fod yn effeithio ar sefyllfa benodol teulu, er enghraifft, carchariad, tensiynau yn y gymuned.
Gwasanaethau ieuenctid cymunedol y trydydd sector
Mae grwpiau cymunedol y trydydd sector yn chwarae rhan werthfawr i gefnogi pobl ifanc ac y maent mewn lle da i adnabod pobl ifanc mewn teuluoedd a all fod angen mwy o gefnogaeth.
Mudiadau eraill sy’n darparu gwasanaethau arbenigol. Gall y rhain gynnwys gwasanaethau megis cefnogaeth i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, neu wasanaethau cefnogi arbenigol eraill. Gall y gwasanaethau hyn helpu i adnabod teuluoedd a all fod angen mathau eraill o gefnogaeth a gallant hefyd gefnogi teuluoedd i geisio’r help ychwanegol maent ei angen.
Am fwy o wybodaeth gweler:
Canllawiau Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017, (Cyrchwyd 29/07/2019)
Local Government Association: The key enablers to establish an effective partnership-based early help offer, (Cyrchwyd 29/07/2019)