Does dim esgusodion i ymarferwyr fethu â chyflawni eu dyletswyddau, o ran eu dyletswydd i adrodd am blentyn mewn perygl o niwed. Fodd bynnag, gall ffactorau goddrychol ddylanwadu ar wneud penderfyniadau yn y cyfnod hwn.
Y mae’r rhain yn cynnwys:
- ofn bygythiadau gwirioneddol neu bosib o du’r teulu a/neu y gymuned;
- pryder fod yr adroddiad yn torri ymddiriedaeth;
- awydd i gadw ymreolaeth broffesiynol a rheoli’r sefyllfa;
- gor-uniaethu â’r teulu/gofalwyr a gwneud esgusodion a/neu gyfiawnhau ymddygiad a all fod yn gamdriniaeth;
- pryderon na fydd yr adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif;
- pryderon y bydd yr adroddiad yn arwain at darfu sylweddol ar y teulu, ond na ddarperir help na chefnogaeth ystyrlon oherwydd diffyg adnoddau;
- normaleiddio ffurf ar gamdriniaeth neu esgeulustod oherwydd cyffredinedd sefyllfa arbennig megis esgeuluso gofal corfforol neu ddillad amhriodol ar gyfer y tywydd mewn cymunedau difreintiedig;
- cred y gall fod yr ymddygiad yn dderbyniol mewn diwylliant neu grefydd;
- gor-optimistiaeth ynghylch sefyllfa: ei weld fel digwyddiad unwaith-am-byth neu ddamwain;
- amharodrwydd i dderbyn y gall pobl broffesiynol neu bobl mewn grwpiau cymdeithasol-economaidd uwch gam-drin neu esgeuluso;
- derbyn sicrwydd gan gamdrinwyr eu bod neu y gallant newid neu y byddant yn ymwneud â gwasanaethau ac ymddangos fel petaent am gydymffurfio. Mae’n hanfodol felly bod ymarferwyr yn adfyfyrio am y ffordd y gall y ffactorau goddrychol hyn ddylanwadu ar wneud penderfyniadau, yn enwedig unrhyw benderfyniadau i beidio ag adrodd.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r Person Diogelu Dynodedig neu eich rheolwr.
Dylai rheolwyr ac arweinwyr dynodedig yn wastad ymchwilio i unrhyw ffactorau goddrychol a all fod yn dylanwadu ar benderfyniadau ymarferwyr.
Mwy o Wybodaeth:
Walsh W and Jones L Factors that Influence Child Abuse Reporting: A Survey of Child-Serving Professionals (Cyrchwyd 19/7/2019)
You Gov Barriers to Reporting Child Abuse (Cyrchwyd 19/7/2019)