Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Adnabod Pryderon Proffesiynol

Adroddodd y Truth Project, sy’n rhan o’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA), dan arweiniad yr Athro Alexis Jay, fod:

  • 23% o ymatebwyr wedi dweud iddynt gael eu cam-drin fel plant gan staff dysgu neu addysg
  • 12% wedi dweud iddynt gael eu cam-drin gan weithwyr proffesiynol eraill, megis ymarferwyr meddygol, gweithwyr cymdeithasol a’r heddlu.

Dylai ymarferwyr gadw mewn cof felly ei bod yn bosib i’r sawl sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth dros y plant fod yn eu cam-drin.

Methu sylwi neu adrodd: esgeulustod proffesiynol

Mae plant mewn lleoliadau y tu allan i’w cartrefi nid yn unig mewn perygl o du camdrinwyr ond hefyd oedolion sy’n methu a sylwi ar gamdriniaeth neu, os ydynt yn sylwi arno, yn methu ag adrodd amdano. Esgeulustod proffesiynol yw hyn.

Mewn asesiad thematig a wnaed gan yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) ac Awdurdod Cam-fanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP), dangosodd canfyddiadau:

  • nad yw rhai ymarferwyr yn sylwi ar a/neu yn methu ag adrodd am gamdriniaeth gan gydweithwyr ac eraill mewn sefyllfa o ymddiriedaeth
  • strwythurau rheoli a all droi staff iau ymaith rhag adrodd am amheuon;
  • strwythurau sefydliadol sy’n caniatáu i droseddwyr ennill ymddiriedaeth eu dioddefwyr a’r sawl a ddylai fod yn eu hamddiffyn;
  • i rai aelodau o staff, gall gwarchod enw da’r sefydliad gymryd blaenoriaeth dros adrodd am gamdriniaeth;
  • fe all ymarferwyr fod dan "ffug ganfyddiad" nad yw camdriniaeth sefydliadol yn digwydd bellach, oherwydd natur hanesyddol achosion a datblygiadau diweddar mewn diogelu.

Dylid rhoi ystyriaeth benodol i blant ag anableddau corfforol neu ddysgu difrifol sydd yn arbennig o agored i gamdriniaeth ac esgeulustod. Gall peth o ymddygiad ymarferwyr fod â bwriadau da, ond few all fod yn gamdriniaeth. Mae astudiaeth a gwblhawyd gan Featherstone a Northcott, er ei fod yn canoli ar gleifion gyda dementia, yn darlunio hyn. Canfu’r ymchwilwyr o Gymru enghreifftiau o’u hastudiaeth o nyrsys a chymhorthwyr gofal iechyd:

  • codi rheiliau ochr ar welyau,
  • cau dillad gwely i mewn yn dynn o gwmpas cleifion fel na allant symud;
  • atal cleifion rhag codi o’r gwely trwy symud eu cymhorthion cerdded ymaith;
  • mewn rhai achosion, rhoi cyffuriau tawelu i gleifion.

Y rhesymeg y tu ôl i’r gweithredoedd hyn oedd ofnau am ddiogelwch y cleifion petaent yn cael symud o gwmpas yn rhydd. Yn y sefyllfaoedd hyn, yr oedd y cleifion yn cael eu cam-drin yn gorfforol a seicolegol am eu bod yn colli eu rhyddid, eu hawliau a’u rhyddid i symud.

Ymysg esiamplau eraill o berygl niwed gan ymarferwyr i unigolion gydag anghenion cymhleth a nodwyd o adolygiadau o arferion ar draws y DU, mae:

  • difenwi, gweiddi, bychanu;
  • methu â gofalu bod unigolyn dan eu gofal yn derbyn yr help angenrheidiol i yfed, bwyta, mynd i’r toiled;
  • diffyg sylw i newid padiau ymataled neu gynlluniau rheoli doluriau gwasgu;
  • defnydd amhriodol o feddyginiaeth nad yw’n cwrdd ag anghenion yr unigolyn;
  • symud a thrin sy’n debyg o achosi anaf neu niwed;
  • cam-fanteisio cysylltiedig â budd-daliadau, incwm, eiddo, etc.

Mwy o wybodaeth:

Independent Inquiry into Child Sexual Abuse (IICSA). (Cyrchwyd 5/8/2019)

Featherstone a Northcott Stories of Dementia. (Cyrchwyd 6/7/2019)