Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cael Cydsyniad gan Blant a Phobl Ifanc

Mae gan ymarferwyr ddyletswydd i adroddiad am amheuaeth o gamdriniaeth ac esgeulustod – gyda chydsyniad y plentyn neu hebddo. Nid yw hyn yn golygu na ddylent geisio cydsyniad i adrodd gan y plentyn oni fyddai gwneud hynny yn rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed. Mae adroddiadau i farwolaethau ac anafiadau difrifol, oherwydd camdriniaeth ac esgeulustod, wedi tynnu sylw at y ffaith fod llais y plentyn yn aml yn cael ei wthio i’r ymylon. Mae ymarferwyr yn ‘gwneud pethau’ i blant heb esbonio nac ymgynghori. Mae ceisio cydsyniad i adrodd yn un enghraifft o hyn.

Cyfiawnheir y diffyg ymgynghori hwn yn aml gan ymarferwyr sy’n dadlau nad oes gan y plentyn y galluedd meddyliol, oherwydd ei oedran neu anabledd, i roi cydsyniad deallus na mynegi ei deimladau a’i ddymuniadau ar y mater. Fodd bynnag, gall trafod cydsynio fod yn gam cyntaf i ennyn ymddiriedaeth y plentyn a dechrau sefydlu perthynas waith onest ac effeithiol. Os bydd y plentyn yn gwrthwynebu i’r adrodd dylai’r ymarferydd o leiaf esbonio iddo, er ei b/fod yn parchu ei ddymuniadau, fod yn rhaid adrodd er mwyn amddiffyn y plentyn rhag niwed posib.

Dylai ymarferwyr hefyd wrando ar bryderon y plentyn am y canlyniadau i’r plentyn o adrodd a rhoi ateb gonest.

Dylent ystyried:

  • Beth mae’r plentyn yn ofni fydd yn digwydd?
  • Yr ofannu mwyaf cyffredin yw: Y caiff ei symud o’r teulu a’i roi mewn gofal; yr aiff i drwbl gartref; y gwireddir bygythiadau’r camdriniwr o’r hyn fydd yn digwydd iddo a’r teulu.
  • A yw adrodd yn rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed yn syth?
  • Pa gamau sydd eu hagen i amddiffyn y plentyn?

Mae’n bwysig peidio â rhoi sicrwydd afrealistig neu roi addewidion ffug, ond gofalu bod y plentyn yn cael gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.

Esiampl: ‘Galla’i ddeall dy fod yn poeni y byddi’n mynd i drwbl gartref ac y gelli gael dy gymryd i ofal. Dwyf i ddim yn siwr beth fydd yn digwydd nesaf, ond beth wna’i fydd gwneud yn siwr fod y rhai y bydda’i yn siarad efo nhw yn y gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am beth rwyt ti’n poeni.’