Mae’r materion hyn yn amharu ar ddull sy’n canolbwyntio ar y person. Felly mae’n bwysig bod ymarferwyr yn ymwybodol o ffyrdd y gallai gwybodaeth ddod yn gamliwedig.
Gwybodaeth yn cael ei drin â disgresiwn.
Gallai’r ffocws fod ar un plentyn ac un digwyddiad. Allwch chi ddweud wrthyf i beth ddigwyddodd pan gasglodd Dad Carys o’r ganolfan deulu? Gallai hyn arwain at resymau penodol iawn sy’n canolbwyntio ar un agwedd ar bryder am blentyn neu’n gyrru plant eraill a allai fod mewn perygl i’r cyrion. Gallai rhywun sy’n rhoi gwybodaeth ddewis yr hyn i’w rannu ai peidio hefyd, oherwydd gallent ofni ymateb y darparwr gwasanaeth neu or-uniaethu â’r darparwr hwnnw, er enghraifft.
Dehongliad dewisol ar wybodaeth fel gwybodaeth berthnasol neu amherthnasol.
Er enghraifft, ‘beth wyddoch chi am Carys? Gall cais cyffredinol am wybodaeth gael ei wneud’. Pan ddigwydd hyn, gadewir yr ymarferydd sy’n rhoi’r wybodaeth i benderfynu beth sy’n berthnasol ai peidio.
Rheol optimistiaeth.
Er enghraifft, ‘Ro’n i’n meddwl y byddai’n syniad gwirio hyn gyda chi ond rwy'n siŵr nad oes dim sy’n gofyn edrych mewn ymhellach i hyn'. Os yw’r ymarferydd sy’n dwyn y ffeithiau i’r golwg mewn trafodaeth strategaeth yn credu nad oes problem mewn gwirionedd ond eu bod yn dilyn y gweithdrefnau, mae’n bosib y byddant yn mabwysiadu ymagwedd ddi-hid – dim angen poeni – sy’n denu ymateb optimistaidd tebyg gan y person sy’n cyflenwi’r wybodaeth.
Syniadau neu gredoau pendant ynghylch y sefyllfa.
Er enghraifft, ‘Beth allwch chi ei ddweud wrthyn ni am Carys? a dydw i ddim wedi synnu bod adroddiad arall wedi dod i law am ei thad yn ei cham-drin yn gorfforol. Mae’n bosib bod yr ymarferydd sydd wedi llunio'r adroddiad eisoes wedi ffurfio barn gychwynnol ynghylch pryderon a’r tramgwyddwr honedig. Gall cywair eu llais neu’r wybodaeth y gofynnir amdani, yn anfwriadol, ddenu gwybodaeth gan eraill sy’n cadarnhau eu barn.
Pan fo’r agweddau goddrychol hyn yn dod ar waith fel y nodwyd gan Robinson et al., (2018)
‘the range of options open to the individual would narrow rather than broaden._ _Cases could become ‘stuck’; tunnel vision reinforces a particular view of the person, which results in a particular set of options being tried. When these do not work it is rarely the case that practitioners’ step outside of the tunnel to re-evaluate their options.’ (t9)
Rhagor o wybodaeth:
Font S and Maguire-Jack K Decision-making in Child Protective Services: Influences at multiple levels of the social ecology, (Cafwyd ar 21/ 7/ 2019)
Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Prifysgol Caerdydd , (Cafwyd ar 21/ 7/ 2019)
Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Rhannu Gwybodaeth i Ddiogelu Plant