Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Sefydlu profiad byw dyddiol aelodau’r teulu

Mae manteision sylweddol i sefydlu profiad byw y plentyn a’i riant: fel y dengys yr enghraifft yma:

Dyletswydd i adrodd gan Feddyg Teulu

Pryderon fod Marc sy’n 11 oed yn dioddef o hylendid deintyddol gwael, pydredd dannedd a heintiau cyson oherwydd methiant ar ran ei fam i fynd ag e i’r deintydd neu gwblhau cyrsiau meddyginiaeth.

Tra’n nodi pryder nad yw’r adroddiad hwn yn cynnig darlun clir o effaith yr esgeulustod deintyddol ar Marc na lefel y brys i roi gofal deintyddol iddo. O ganlyniad, gall yr adroddiad arwain at beidio cymryd camau pellach na chynllun gofal a chymorth. Fodd bynnag, drwy ystyried diwrnod ym mywyd plentyn a defnyddio arbenigedd proffesiynol i nodi’r effaith, caiff rhywun ddarlun tipyn mwy eglur, gyda thystiolaeth o’r modd penodol y mae’r cam-drin neu esgeulustod yn effeithio ar y plentyn. Mae hyn yn gwneud asesu lawer yn fwy manwl gywir ac y canolbwyntio ar y plentyn.

Yn achos Marc, er enghraifft, wrth i ymarferwyr holi Marc am ei ddiwrnod, fel rhan o’r asesiad, fe ddysgant am ei brofiad o’r ddannodd.

Mae'n disgrifio nosweithiau di-gwsg oherwydd ei fod mewn poen. Prin y mae’n bwyta am ei fod yn brifo felly mae’n tueddu byw gartref ar ddiodydd llawn siwgr ac os yw’n yr ysgol nid yw’n gallu bwyta ei ginio ysgol. Yn aml nid yw’n mynd i’r ysgol oherwydd ei fod yn aml yn cael heintiau ac yn teimlo’n sâl neu mae ei ddannodd yn golygu ei fod yn syrthio i gysgu maes o law yn yr oriau mân ac felly nid yw’n deffro mewn pryd i fynd i’r ysgol. Os yw’n aros adref, mae’n ceisio cysgu ar y soffa. Gan ei fod yn bigog mae’n mynd ar nerfau ei fam sy’n arwain at ddadlau. Pan fydd hynny yn digwydd, bydd yn mynd i’r parc i eistedd am ychydig. Os yw yn mynd i’r ysgol mae fel arfer yn hwyr, yn hynod flinedig oherwydd diffyg cwsg ac felly’n methu canolbwyntio, yn teimlo’n ddiflas, yn bigog ac yn ymladd yn aml. Hefyd, mae sawr drwg ar ei anadl ac mae plant eraill yn ei herian neu ei fwlio. Mae’n teimlo bod y boen yn waeth gyda’r nos ac yn gynyddol helpu ei hun i fodca ei fam am ei fod wedi dysgu fod hyn yn pylu’r boen am ychydig ac yn ei helpu i gysgu.

Gan dynnu ar yr uchod daw yn amlwg fod y rhan fwyaf o iechyd a datblygiad Marc wedi eu heffeithio gan esgeulustod deintyddol.

  • Mae ei iechyd cyffredinol yn amlwg wedi ei effeithio.
  • Yn yr un modd ei anghenion addysgol am fod ei lefel presenoldeb yn wael a’i allu i ddysgu pan fydd yn yr ysgol yn syrthio tu ôl i’r lleill.
  • Mae ei ymddangosiad cymdeithasol wedi ei effeithio am fod ei ddannedd yn edrych yn ddrwg a’i fod yn gwynto.
  • Mae ei hunan-barch yn isel yn enwedig am fod eraill yn ei herian neu’n ei fwlio.
  • Mae ei ymddygiad yn ysbeidiol; mae’n ymosodol oherwydd y boen mae’n ei dioddef. Mae yfed fodca hefyd yn debygol o effeithio ar ei ymddygiad.
  • Mae ei berthnasoedd wedi eu heffeithio hefyd oherwydd ei fod yn bigog.

Fodd bynnag, er mwyn dechrau nodi pam nad yw anghenion y plentyn yn cael eu diwallu mae hefyd yn angenrheidiol deall diwrnod ym mywyd y rhiant/rhieni gan fod perthynas rhwng y ddeubeth na ellir eu gwahanu. Gall ymarferwyr ddim ond dechrau gwerthfawrogi’r modd y mae rhianta dyddiol yn effeithio ar y plentyn os ydynt yn gwybod am ddiwrnod y rhiant/rhieni a’u hagwedd at ateb anghenion y plentyn yn ystod y dydd.

Wrth ei holi am ei diwrnod mae mam Marc, Megan, sy’n rhiant sengl yn dweud:

Mae Megan yn gwybod fod y fflat yn flêr ac nad yw hi’n ei lanhau na’n golchi ayb. Mae’n cael trafferth codi yn y bore am ei bod ar wrthiselyddion ac yn aml wedi bod ar ei thraed yn y nos i edrych ar ôl ei babi 4 mis oed. Erbyn iddi godi mae'n ganol bore, felly dyw hi ddim yn gwybod a yw Marc wedi mynd i'r ysgol ai peidio, na'r hyn mae'n ei wisgo ac a yw wedi golchi neu fwyta unrhyw beth. Os nad yw wedi mynd i’r ysgol, does dim egni ganddi i ddadlau ag ef ac mae’n gadael llonydd iddo. Erbyn iddi godi a sortio’r babi mae fel arfer tua un y pnawn ac mae wedi ymlâdd. Prin y bydd yn trafferthu gwisgo a does dim archwaeth bwyd ganddi. Os oes arian ganddi mae’n rhoi peth i Marc i gael fodca iddi hi a bwyd iddo yntau, ond ychydig iawn o syniad sydd ganddi beth mae’n ei brynu. Mae’n treulio’r prynhawn o flaen y teledu ac fel rheol wedi cael un neu ddau fodca ef mwyn mynd i gysgu. Mae’n teimlo bod Marc o hyd yn cwyno ac yn bigog ac yn gwylltio os yw hi’n gofyn iddo warchod y babi. Mae’n gwybod bod y ddannodd arno ac y dylai forol am hynny, ond mae’r dyddiau i’w gweld yn gwibio heibio a dyw hi fyth yn llwyddo i wneud apwyntiad yn y deintydd iddo.

Dim ond drwy ddeall bywydau'r rhiant/rhieni a phob plentyn unigol mewn teulu y gall rhywun ddechrau deall pam nad yw anghenion y plentyn yn cael eu diwallu a’r hyn fyddai yn gorfod newid er mwyn eu diwallu. Er enghraifft, yn achos Marc fyddai ddim llawer o bwynt dweud wrth Megan yn syml fod angen iddi fynd â Marc i’r deintydd a sicrhau ei fod yn brwsio ei ddannedd.

Er mwyn casglu gwybodaeth am brofiad dyddiol aelodau’r teulu ystyriwch y canlynol:

  1. Creu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer y sgwrs drwy ystyried lleoliad, amser y diwrnod, hyd y sesiwn a phwy sydd angen bod yno.
  2. Gall aelodau’r teulu fod yn ochelgar felly, mae’n bwysig egluro wrth y plentyn neu’r gofalwr yr hyn sy’n digwydd, pam eich bod yno a’r hyn yw eich swyddogaeth chi.
  3. Ceisio creu perthynas agored, gonest a pharchus o’r dechrau’n deg.
  4. Meddwl am nodweddion unigol yr aelod teulu: ei oed, gallu, ethnigrwydd a’r lefelau pwysedd presennol.
  5. Bod yn ofalgar o ddylanwadau pwysig eraill ar fywyd y teulu yn ogystal a rhwydweithiau cymorth.
  6. Ceisio cofnodi'r union eiriau a ddefnyddiwyd.
  7. Defnyddio dulliau priodol i’r oed; clociau, cartwnau stribed.
  8. Peidiwch â gadael i blant ddiflasu: efallai y bydd rhaid i chi gymryd hoe ac i wneud hyn dros sawl sesiwn.
  9. Mae bywydau rhai teuluoedd mor afreolus nad oes y fath beth â diwrnod nodweddiadol. Gall holi ynghylch y diwrnod blaenorol weithio.
  10. Ceisiwch ganfod sut mae bywyd yn amrywio ar benwythnosau, gwyliau ysgol, gyda gofalwyr a phobl wahanol yn y tŷ.
  11. Holwch gwestiynau agored; peidiwch a chymryd dim byd yn ganiataol.
  12. Peidiwch ragdybio canlyniadau, er enghraifft, rhagdybio fod plant wedi cael brecwast.
  13. Ceisiwch gael gwybodaeth am fywydau plant ifanc trwy arsylwi a chanfod hanes eu diwrnod gan eu gofalwyr.

Mae’n allweddol nad yw ymarferwyr yn rhoi pwysau ar blant a phobl ifanc i drafod eu bywydau dyddiol. Mae’n bwysig cadw mewn cof:

  • Os yw’r plentyn yn cadw’n ‘ddiogel’ drwy beidio dweud pethau wrth y gweithiwr proffesiynol
  • Os yw’r plentyn wedi dysgu i leihau’r sefyllfa a'i effaith
  • Mae’r plentyn yn beio’i hun am y problemau ac/neu ddim am i’w rieni gael eu hunain i drwbwl.

(Horwath 2019)

Rhagor o wybodaeth:

Horwath, J. (2016) Making a Difference to the Neglected Child’s Experience in Gardiner, R. Working with Child Neglect. London: Jessica Kingsley. tud.70-93.

Horwath, J. and Platt D (2019) The Child’s World. The Essential Guide to Assessing Vulnerable Children, Young People and their Families London: Jessica Kingsley