Mae’n bosib cael cipolwg arwyddocaol ar brofiadau bywyd plant oed cyn ysgol. Dylid ystyried y canlynol:
- gallai plant gael trafferth rhoi digwyddiadau mewn amserlen. Nid ydynt yn deall bod nawr, wedyn, ar ôl, ers, cyn, pryd, ddoe’n unrhyw beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol;
- Mae deall a defnydd ar iaith yn newid yn sylweddol rhwng 2-5 oed. Dylid osgoi defnyddio iaith gymhleth, brawddegau hirion;
- Gwiriwch yr hyn maen nhw’n ei feddwl, er enghraifft bydd rhai plant yn galw sawl dyn yn dadi;
- Mae plant ifanc dros ben yn ei chael yn anodd gwybod beth mae eraill yn ei wybod neu ei eisiau ganddynt ac felly ag angen help i ddeall yr hyn nad yw eraill yn ei wybod. Er enghraifft, maen nhw’n disgwyl i oedolion gymryd rheolaeth a gwybod yr atebion yn hytrach na bod y plentyn yn arbenigwr. Felly, bydd plant ifanc angen help i ddeall pam fod rhywun yn holi cwestiynau wrthynt;
- Peidiwch â gwirio dealltwriaeth drwy holi a yw’r plentyn yn deall ond gofyn iddyn nhw ei egluro nôl i chi;
- Mae plant yn tueddu i ymateb yn llythrennol. Felly gallai, ‘elli di ddweud beth ddigwyddodd yn y feithrinfa?’ ennyn yr ymateb ‘gallaf’.
- Mae plant yn dechrau cofio eu profiadau yn 2 oed gyda’r gallu i gofio am gyfnodau hwy yn cynyddu gydag oed;
- Gall plant 3-4 oed roi gwell cyfrif pan ofynnir cwestiynau fel beth, pryd a ble;
- Mae cyfyngau sylw yn fyr a gallan yn rhwydd golli trywydd eu meddyliau;
- Defnyddio adnoddau gweledol
- Gallant awgrymu bod pethau yn anodd gyda chymalau fel: ‘Nai ddweud mewn munud’, ‘Bydd yn dawel nawr’;
- Erbyn eu bod yn 4 oed mae plant yn tueddu gwybod y gwahaniaeth rhwng dweud celwydd a’r gwirionedd;
- Maen nhw angen teimlo’n ddiogel os nad ydynt gartref ac felly angen amgylchedd cyfarwydd a chroesawgar i blant. Er enghraifft, deunyddiau chwarae sy’n tawelu plant, celfi o’r maint iawn, toiled hygyrch;
Gall plant ifanc dros ben yn aml gyfathrebu drwy ddangos yn ogystal ag adrodd; mae hyn yn cynnwys:
- Nodio ac ysgwyd eu pennau;
- Pwyntio ac amneidio;
- Tynnu llun neu ddefnyddio lluniau;
- Dangos ac arddangos â’u dwylo a’u cegau;
- Arddangos gyda’u cyrff cyfan;
- Arddangos gyda phrop (e.e. doliau a chelfi).
Rhagor o wybodaeth:
Marchant, R. (2013). How Young Is Too Young? The Evidence of Children under Five in the English Criminal Justice System. Child Abuse Review, Volume 22, Issue 6: pp.432-44.
Marchant, R. (2016). ‘Age is not determinative: The Evidence of Very Young Children in the English Justice System. Criminal Law and Justice Weekly Volume 180: 12 & 13.
Marchant R (2019) Opening Doors: Best practice when a child might be showing or telling that they are at risk of harm in Horwath, j. and Platt, D The Child’s World The Essential Guide to Assessing Vulnerable Children and their Families; London, JKP.