Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cofnodi yn ystod Ymholiadau a47

Mae’n bosib y gall ymarferwyr prysur sy’n ymwneud ag ymholiadau adran s47 oedi cofnodi gweithgaredd wrth iddo ddigwydd.

Gall oedi wrth gofnodi arwain at:

  • wybodaeth arwyddocaol yn cael ei cholli;
  • canfyddiadau wedi eu llurgunio o ran pam i benderfyniadau a chamau penodol gael eu cymryd ar y pryd;
  • digwyddiadau a chamau yn cael eu drysu a/ neu eu llurgunio;
  • anghofio manylion

Mae canfyddiadau adolygiadau ymarfer plant yng Nghymru yn dangos y gall oedi wrth gofnodi arwain at fethiant ar ran yr ymarferwyr i nodi gweithgaredd sydd wedi profi’n arwyddocaol yn ddiweddarach, er enghraifft yn ystod achosion llys.

Mae’n bwysig nodi mai cofnodion achosion yw’r cofnod swyddogol o’r hyn a ddigwyddodd a dylent fod yn gynhwysfawr.


Am wybodaeth ychwanegol gweler:

Hardy R (2017) Tips for social workers on case recording and record keeping. Community Care, (Cafwyd ar 15/7/2019)