Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cronolegau ac ymwneud asiantaethau yn y gorffennol

Gall cronoleg fod yn ddefnyddiol i dynnu ar wybodaeth asiantaeth a gwybodaeth am y teulu er mwyn nodi digwyddiadau arwyddocaol ym mywyd y plentyn a’r gofalwyr. Ond:

  • Yn aml nid yw’r rhain wedi eu cwblhau;
  • Nid ydynt yn cael eu diweddaru’n rheolaidd;
  • Mae bylchau a gwallau sylweddol;
  • Maent yn rhestr o ddyddiadau digwyddiadau heb eglurhad am ystyr digwyddiad wedi ei gofnodi;
  • Diffyg manylion ynghylch gwasanaethau a roddwyd ac ymateb y teulu iddynt.

Er mwyn helpu asiantau i baratoi cronolegau ystyriol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, mae Arolygiaeth Gofal yr Alban wedi paratoi canllawiau cynhwysfawr (Arolygiaeth Gofal 2017 tud.6) sy’n nodi’r hyn y dylid ei gynnwys mewn cronoleg:

  • Dyddiadau allweddol megis dyddiad geni, digwyddiadau bywyd, symud cartref.
  • Ffeithiau, megis rhoi enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant, cyfarfodydd trefniadau diogelu’r cyhoedd aml-asiantaeth (MAPPA), oedolyn sy’n destun gweithdrefnau diogelu oedolyn.
  • Pontio, newidiadau bywyd.
  • Ymyriadau proffesiynol allweddol megis adolygiadau, gwrandawiadau, tribiwnlysoedd, gweinyddiad llysoedd.
  • Nodyn cryno iawn ar ddigwyddiad, er enghraifft syrthio i lawr y grisiau, dod i’r ysgol â chlais, troseddwr rhyw cofrestredig y mae ie gar ‘o hyd yn torri’ y tu allan i ysgol gynradd.
  • Ar yr un pryd, mae angen i’r sgwennwr roi digon o wybodaeth fel bo’r cofnod yn gwneud synnwyr.
  • Does dim digon o fanylion i ddatganiadau fel: “roedd ymddygiad [yr unigolyn] yn amhriodol...” <0}
  • Y camau oedd wedi’u cymryd. Mae nifer o gronolegau’n rhestru digwyddiadau a dyddiadau, ond nid oes ganddynt golofn y gellir cofnodi’r camau gweithredu ynddi, neu os na weithredwyd, i egluro pam.
  • Dim barn. Gallai’r rhain fod ar gyfer y cofnod achos, ond mae cryfder y cronolegau yn seiliedig ar y ffeithiau, amseroedd, dyddiadau ac ati.

Ar ddechrau’r asesiad, mae’n ddefnyddiol bod pob asiantaeth yn paratoi cronoleg sy’n benodol i’r asiantaeth honno. Yn hwyrach, wrth i weithwyr proffesiynol ddechrau gwneud synnwyr o’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gellir datblygu cronoleg amlaisiantaeth drwy dynnu a chydlynu cyfraniadau’r asiantaethau unigol. Gellir defnyddio’r rhain i greu llinell amser i blentyn a helpu i ddeall ei batrymau ymddygiad blaenorol, digwyddiadau arwyddocaol ac ymyriadau’r gwasanaeth.


Am wybodaeth ychwanegol gweler:

Arolygaeth Gofal yr Alban (2016) Practice Guide to Chronologies. (Cafwyd ar 15/7/2019)

Hardy R (2018) Why a chronology should be the first thing you do in an assessment Community Care. (Cafwyd ar 15/7/2019)