Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Genograms ac Eco-fapiau

Genogram

Coeden teulu sy’n cynnwys dwy i dair cenhedlaeth yw hyn i bob diben. Mae offeryn gweledol effeithiol sy’n helpu ymarferwyr a theuluoedd i ddeall perthnasau teuluol. Trwy ddefnyddio symbolau sefydledig a chysylltu llinellau, mae aelodau teulu’n gweithio gydag ymarferwyr i ddatblygu cynrychiolaeth ar ffurf graff o strwythur rhyng-genedlaethol o’u teulu. Mae’r broses o gwblhau genogram yn ffordd effeithiol i ymarferwyr ddysgu am deinameg teulu ac ansawdd a natur perthnasau. Gall eistedd a thrafod y perthnasau hynny gydag aelodau teulu ddwyn pob math o wybodaeth ychwanegol allan am ddeinameg teulu. I rai unigolion, gall myfyrio ar eu perthnasau teuluol beri gofid felly mae’n bwysig ddwyn gwybodaeth allan ar gyflymder sy’n gyfforddus i’r aelod teulu. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen i’r genogram gael ei ddatblygu ymhellach ar ôl cwblhau ymholiadau a47.

Eco-fap

Mae hyn yn adeiladu ar y genogram trwy ganolbwyntio ar natur perthynas yr aelodau teulu unigol â theulu estynedig, y gymuned a gweithwyr proffesiynol. Gall ymarferwyr greu eu eco-fap eu hunain gyda’r teulu’n dechrau gyda darn gwag o bapur neu drwy ddefnyddio templed. Dylai enwau’r plant a/neu aelod teulu eu rhoi mewn cylch canolog ac wedyn dylai’r ymarferydd ofyn i’r plentyn neu riant nodi’r holl bobl a sefydliadau pwysig yn ei fywyd, megis cymydog, athro, swyddog prawf, aelodau teulu estynedig. Mae pob un yn cael ei roi mewn cylch o gwmpas y cylch plentyn a/neu deulu. Wedyn gofynnir i’r plentyn neu aelod teulu ddisgrifio natur y berthynas â phob person neu sefydliad. Wedyn caiff mathau gwahanol o linellau (e.e. solid, toredig, llinellau o liwiau gwahanol) eu defnyddio i nodi natur y cysylltiad neu berthynas. Caiff y llinellau eu defnyddio’n ffordd o gynrychioli perthnasau cryf, gwag neu straenus. Yn yr un modd â’r genogram, gall cwblhau eco-fam beri gofid i blentyn neu riant sy’n sylweddoli bod ganddynt rwydwaith cymorth gwael iawn. Neu, mae rhai plant a rhieni yn cael y profiad yn gadarnhaol wrth iddynt sylweddoli bod ganddynt rwydwaith cefnogol. O’r rhwydwaith hwn y gallai fod yn bosibl nodi pobl i helpu’r rhiant i fodloni anghenion gofal, cymorth a diogelu heb eu bodloni.


Rhagor o wybodaeth:

www.socialworkerstoolbox.com/ecomap-activity, (cafwyd ar 8/8/2019)

Templedi gwasanaethau cymdeithasol a’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol