Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Dadansoddi a gwneud penderfyniadau

Mar gwneud penderfyniadau’n rhan o broses sy’n dilyn dadansoddiad cadarn o’r wybodaeth a gafwyd. Mae Brandon et al., (2008) yn dadlau, ar sail y canfyddiadau o adolygiadau ymarfer plant Saesneg cyfatebol, y dylai ymarferwyr wneud y canlynol er mwyn dadansoddi gwybodaeth:

  • Bod yn chwilfrydig – Pam mae’r tad yn ymddwyn yn y ffordd hon?
  • Meddwl yn feirniadol – ai sgil-effaith ei feddyginiaeth sydd y rheswm?
  • Dadansoddi gwybodaeth yn systematig - Nid yw’r meddyg teulu yn meddwl bod hyn yn debygol, oni bai yr oedd yn yfed tra’n cymryd ei feddyginiaeth. Mae’r meddyg teulu wedi’i rybuddio o’r risg o wneud hyn.
  • Meddwl yn ôl y cyd-destun – ystyried y ffordd y gall ffactorau ar wahân ryngweithio i greu sefyllfa sy’n niweidiol i blentyn. Rwyf wedi sylwi ar ganiau a photeli fodca a fyddai’n dangos bod y tad wedi anwybyddu cyngor meddygol ac wedi bod yn yfed gan wybod y gallai effeithio ar ei ymddygiad.
  • I wneud synnwyr o’r wybodaeth rhaid i ymarferwyr ddefnyddio eu barn broffesiynol. Hynny yw, dylent ddefnyddio:
  • Gwybodaeth ffurfiol megis deddfau, gweithdrefnau, ymchwil

e.e. Beth yw diffiniad cyfreithiol niwed sylweddol? Sut mae ymchwil i effaith camdriniaeth ac esgeulustod yn llywio fy nealltwriaeth am y niwed sylweddol y mae’r plentyn yn, neu’n debygol o, ei brofi?

  • Arfer doethineb – y sgiliau a’r doethineb sydd wedi dod o hyfforddiant a phrofiad arfer

e.e. rwyf wedi dysgu, o hyfforddiant a fy mhrofiad fy hun, ei bod yn bwysig rhoi llais i’r plentyn ond er mwyn gwneud hyn rhaid i ni gael iddo ymddiried ynof fi’n fwy

  • Gwerthoedd trwy gydbwyso hawliau, anghenion ac ymwybyddiaeth o wahaniaethu

e.e. Rhaid gweld pob plentyn yn y teulu yn unigolyn gyda’i anghenion a’i hunaniaeth ei hun, mae’n bwysig nad ydw i’n gwahaniaethu plentyn neu berson ifanc yn y teulu neu’n ei yrru i’r cyrion.

  • Gwybodaeth emosiynol i ddeall sefyllfa’r plentyn a’r teulu

e.e. Mae’r rhieni hyn wedi bod yn cam-drin eu plant yn emosiynol. Eto, mae bodau dynol sy’n cael trafferth go iawn gyda’r holl bwysau sy’n cael eu gosod arnynt o ran cyflogaeth, tai, tensiynau teuluol. (Munro, 2002, in Calder 2016)

Dylai hyn, yn ei dro, arwain at benderfyniadau cytbwys ar y ffordd fwyaf priodol o ddiogelu’r plentyn rhag niwed.

Dulliau Asesu Risg

Mae ystod amrywiol o adnoddau asesu risg ar gael i helpu ymarferwyr i ddadansoddi a gwneud synnwyr o wybodaeth. Mae gan ddulliau asesu risg, neu dulliau penderfynu strwythuredig fel y’u gelwir weithiau, eu lle. Yn anffodus, nid yw eu defnyddio ar eu pennau eu hunain yn cynnig ‘yr ateb’ i lefel y perygl o niwed i blentyn unigol a’r camau nesaf.

Mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol bod yr offer hyn yn aml yn cael eu datblygu trwy ddefnyddio dadansoddiad ystadegol o ddata ymchwil, ac felly, nid fyddant yn berthnasol i bob plentyn o reidrwydd. Mae’n bwysig felly bod y dulliau hyn yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â barn broffesiynol dda, yn lle dewis arall ar gyfer barn o’r fath. Mae hefyd yn bwysig eu bod yn cael eu defnyddio yn ôl y bwriad.

Cwblhaodd Barlow et al (2012) adolygiad o ddulliau asesu risg wedi eu creu i asesu’r niwed i blant. Maent wedi dod i’r casgliad bod dulliau effeithiol yn ddelfrydol:

  • Yn safoni ond hefyd yn pwysleisio defnydd barn broffesiynol
  • Yn cefnogi cymhwysedd a hyder proffesiynol
  • Yn sicrhau bod y cymhlethdod yn cael ei gynnal
  • Yn cynorthwyo wrth nodi niwed a p’un a yw’n debygol iddo ddigwydd
  • Yn cymryd agwedd ecolegol
  • Yn adnabod y gwahanol gamau sydd yn rhan o’r broses asesu
  • Yn darparu arweiniad ar y defnydd o’r dull mewn gwahanol leoliadau sefydliadol
  • Yn pwysleisio gwaith mewn partneriaeth
  • Yn defnyddio tystiolaeth orau

Canfuont na fodlonodd unrhyw o’r dulliau’r meini prawf, ond gallai rhai fod yn ddefnyddiol yn rhan o asesiad. Ymhlith y rhain mae:

  • Proffil Gofal 2 Graddedig

(I gael mwy o wybodaeth gweler learning.nspcc.org.uk, (Cafwyd ar 21/7/2019)

Dull eraill y gellir ei ddefnyddio i wella’r broses o wneud penderfyniadau yw:

Gan ystyried yr uchod, mae Dendy a Turney (2019) yn cynnig fframwaith cydsyniol defnyddiol ar gyfer dadansoddi a phenderfynu. Gellir defnyddio hyn yn rhan o ymholiadau a47 neu yn ystod y gynhadledd.

Y pryderon:

  • Pa broblemau neu niwed sydd wedi digwydd a/neu a allai ddigwydd yn y dyfodol?
  • Beth yw anghenion datblygiadol y plentyn sydd wedi’u bodloni neu nad ydynt wedi’u bodloni?
  • Beth yw’r blaenoriaethau i’w rhoi ar waith?

Archwilio cyd-destun ac achos problemau a nodwyd:

  • Sut mae ffactorau rhianta ac economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar y plentyn?
  • Beth sy’n achosi’r problemau neu’r niwed i’r plentyn?
  • Oes amgylchiadau penodol neu ymddygiadau rhiant penodol sydd wedi achosi’r anawsterau neu sy’n cynnal yr anawsterau?

Asesu’r posibilrwydd i newid y sefyllfa:

  • Pa amgylchiadau neu ymddygiadau penodol y gellir mynd i’r afael â nhw er mwyn gwella bywyd y plentyn?
  • Beth yw cryfderau aelodau teulu, a pha adnoddau sydd ar gael yn rhwydwaith y teulu?
  • Pa wasanaethau/cyfleoedd sydd ar gael? Ydynt yn briodol i anghenion y plentyn, ac allant ymateb yn gyflym?
  • Ydy gallu’r rhiant i newid a’u hymgysylltu ag ymyriadau gwasanaeth perthnasol yn awgrymu y gellir mynd i’r afael â’r perygl o niwed i’r plentyn a’i leihau o fewn amserlen sy’n rhesymol ar gyfer y plentyn?

Argymhellion a phenderfyniadau:

  • gwneud argymhellion a gosod amcanion
  • pwyso a mesur dewisiadau
  • cytuno ar gynllun gweithredu, ar sail y dadansoddiad uchod.

Rhagor o wybodaeth:

Barlow, J et al, (2012) A systematic review of models of analysing significant harm (DoE), (Cafwyd ar 21/7/2019)

Platt D and Turney D (2019) The Assessment Process: Making Sense of the Information in Horwath J and Platt D The Child’s World. The Essential Guide to Assessing Vulnerable Children, Young People and their Families. JKP.