Mae ymchwiliadau yn dilyn marwolaeth plentyn ac anafiadau difrifol, wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen sawl adroddiad mewn rhai achosion cyn y bydd gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn gweithredu. Mae ymchwilwyr wedi canfod bod ymatebion i adroddiadau’n cael eu dylanwadu gan ystod o ffactorau sy’n bychanu’r plentyn ac yn dylanwadu ar y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch camau nesaf. Caiff y rhain eu hystyried law yn llaw â chwestiynau y gall y sawl sy’n derbyn adroddiad ei holi ei hun er mwyn sicrhau bod y gwiriadau cychwynnol yn parhau i fynd rhagddynt â’r plentyn yn y canol:
- llwyth achosion y tîm a/neu dderbyniwr yr adroddiad yn teimlo dan bwysau ac wedi ei orweithio
- I ba raddau y mae fy ymateb wedi ei effeithio gan nifer yr adroddiadau sydd angen eu prosesu?
- A oes digon o wybodaeth gennyf i wneud penderfyniad gwybodus am y camau nesaf?
- A yw fy ymrwymiadau personol wedi cael effaith ar fy ymateb i’r adroddiad hwn?
- A wnes i roi digon o amser i’r adroddwr egluro ei bryderon? A wnes i eu hannog i ddwyn manylion i’r amlwg?
- oed y plant
- A ydw i’n rhagdybio gallu person ifanc i amddiffyn ei hun oherwydd ei oed?
- A oes barn gennyf am ddiffyg ymgysylltu â gwasanaethau ar ran plant hŷn a’u teuluoedd sy’n effeithio ar fy ymateb?
- statws anabledd
- A ydw i’n arddel yr un safonau ag y byddwn â phlentyn nad oedd yn anabl?
- A ydw i’n gor-gydymdeimlo â’r rhieni?
- Y ffynhonnell atgyfeirio – mae adroddiadau gan ysgolion yn fwy tebygol o arwain at weithredu tra bod rhai gan aelodau teulu yn llai tebygol o wneud hynny
- A ydw i’n ffurfio barn am ddifrifoldeb adroddiad ar sail statws y sawl sydd yn adrodd?
- A fuaswn yn ymateb yn wahanol pe byddai’r adroddiad hwn yn dod gan rywun arall?
- A ydw i’n diystyru’r adroddiad hwn fel un maleisus am fod yr adroddwr am aros yn ddienw?
- gwybodaeth blaenorol o asiantaeth
- Ym mha fodd mae fy mherthynas blaenorol â’r adroddwr a’i asiantaeth yn effeithio ar fy marn?
- Gwybodaeth flaenorol am y teulu
- A ydw i’n rhagdybio a rhagfarnu'r adroddiad hwn yn seiliedig ar yr hyn y gwn i am y teulu hwn?
- Pa sylwadau a thystiolaeth sydd i gefnogi/wrthbrofi fy marn am y teulu hwn?
- rhagfarn anymwybodol posib er enghraifft credu fod cam-drin yn llawer llai tebygol o ddigwydd mewn teuluoedd o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch.
- Pe byddwn yn derbyn yr adroddiad hwn gan deulu yn byw mewn cymuned ddifreintiedig a fuaswn yn ymateb yn yr un ffordd?
- A yw fy mhrofiadau blaenorol o weithio gyda theuluoedd penodol wedi effeithio ar fy marn?
- Amser yr adroddiad – mae adroddiadau dros benwythnos yn llai tebygol o arwain at weithredu na’r rhai gaiff eu derbyn yn ystod yr wythnos.
- Pe buaswn yn edrych ar yr adroddiad hwn yn ystod oriau swyddfa a fuaswn yn ymateb yn wahanol iddo?
- A ydw i’n ymateb yn wahanol i’r adroddiad hwn am ei bod hi’n 3pm ar ddydd Gwener i’r modd y buaswn yn ymateb os oedd am 9am ar fore dydd Llun?
- ffurf adroddiad – mae adroddiadau a ddaw i mewn ar ffurf e-byst (neu ffurf arall ysgrifenedig) lawer yn llai tebygol o ennyn ymateb na’r rhai a gaiff eu derbyn drwy alwad ffôn neu ymweliadau i weld y teulu
- A ydw i’n rhagdybio nad yw hwn yn fater brys?
- Sut fuaswn yn ymateb i’r wybodaeth yma pe byddai’r adroddwr wedi cysylltu â mi ar y ffôn neu wedi ymweld â’r teulu a chasglu’r wybodaeth gan arwain at yr adroddiad?
- mae adroddiadau yn ymwneud â phlant du, Asiaidd, hil gymysg yn sylweddol fwy tebygol o arwain at gamau pellach, gan gynnwys ymholiadau o dan adran 47 Deddf Plant 1989, na’r rhai ar gyfer plant gwyn
- Pa ragdybiaethau yr ydw i yn eu gwneud?
- Os mai plentyn gwyn oedd hwn a fyddwn yn ymateb mewn modd tebyg?
- adnoddau cyfyngedig.
- A yw fy ymateb wedi ei lywio gan fy ngwybodaeth am restrau aros a/neu ddiffyg adnoddau ayb?
Dylai’r rhai sy’n derbyn adroddiadau ystyried y dylanwadau sydd wedi bwydo’u hymatebion i adroddiad. Os tybiant fod dylanwadau goddrychol wedi bod ar waith dylid trafod hyn gyda’u goruchwylydd.
Rhagor o wybodaeth:
Reder, P. and S. Duncan (2003). Understanding Communication in Child Protection Networks. Child Abuse Review 12: 82-100.
Benbenishtya, R., et al. (2015). Decision making in child protection: An international comparative study on maltreatment substantiation, risk assessment and interventions recommendations, and the role of professionals’ child welfare attitudes. Child Abuse & Neglect.49; 63-75.
Tupper, A., et al. (2016). Decision-making in children's social care. quantitative data analysis. London, Department for Education.