Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Ymateb Cyntaf Rhieni i Adroddiad

Gallai ymateb syth rhieni i ymholiadau, yn dilyn adroddiad i’r gwasanaethau cymdeithasol fod yn negyddol, yn benodol os yw’r heddlu’n ymwneud â’r achos. I ofalwyr, mae’r profiad yn peri straen, ofn ac yn codi lefelau gorbryder. Hefyd, gallai teuluoedd gael trafferth yn emosiynol dderbyn y sefyllfa a’r canlyniadau posibl. O ganlyniad, gallai ymarferwyr brofi anghred, bychanu, dryswch, sioc a gwrthsafiad gan fod teuluoedd yn debygol o wylio rhag ymarferwyr a’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn iddynt. Pan ddigwydd hyn, gallent ymateb drwy un o’r ymagweddau canlynol:

Modd Ymladdgar. Yr ymateb yw gwrthwynebu’r hyn sydd yn digwydd drwy fod yn eiriol neu gorfforol fygythiol a gelyniaethus i ymholiadau, er enghraifft drwy atal yr ymarferydd yn gorfforol rhag mynd i mewn i’r cartref neu’n ei gam-drin yn eiriol.

Modd Dihangar. Eu hymateb yw gwadu'r hyn sy’n digwydd drwy ymbellhau eu hunain er enghraifft, celwydd - ‘Wnes i ddim gwneud hyn’; osgoi ymarferwyr drwy redeg i ffwrdd yn gorfforol, osgoi apwyntiadau a thrwy ddiffyg ymgysylltiad.

Modd Rhewi. Golyga’r ymateb hwn flocio allan yr hyn sy’n digwydd oherwydd bod ymwybyddiaeth nad yw un yn ddigon grymus i ymladd yn ei erbyn a bod y rhiant â gormod o ofn i redeg i ffwrdd. Gall hyn arwain at ‘flancio allan’ – ‘Dwi ddim yn gwybod/methu cofio’ neu gau’n glep a dweud dim.

Fel arall, gall y rhiant fod:

  • Yn teimlo rhyddhad am fod eu problemau’n cael eu cydnabod;
  • Wedi ymdynghedu neu dderbyn y broses oherwydd, er enghraifft, eu bod wedi ei brofi ganwaith o’r blaen.

Gall derbynnydd yr adroddiad leihau lefelau gorbryder drwy:

  • dalu sylw i sut yr hysbysir y rhiant/rhieni, ymhle a chan bwy;
  • bod yn onest a sensitif i sefyllfa’r rhiant/rhieni;
  • eu cydnabod nhw fel pobl nid ‘problemau’;
  • cydnabod y deinameg grym;
  • gwrando ar yr hyn sydd gan y rhieni i’w ddweud;
  • cydnabod eu hemosiynau a’u pryderon;
  • ceisio gwahaniaethu rhwng ofnau realistig ac afrealistig.

Mae’r modd y rheolir yr ymgysylltiad cychwynnol yn cael effaith ar ansawdd y berthynas wedi hynny rhwng y gweithiwr a’r teulu.


Rhagor o wybodaeth:

Laird, S. E. (2013) Child Protection: Managing conflict, hostility and aggression. Bristol: Policy Press.

Ruch, G., Turney, D. and Ward, A. (eds) (2018) 2nd ed Relationship-based Social Work: Getting to the Heart of Practice London: Jessica Kingsley

Taylor, B. (Ed.) (2011) Working with Aggression and Resistance in Social Work. London: Sage.

Tuck, V. (2013) Resistant parents and child protection: Knowledge base, pointers for practice and implications for policy Child Abuse Review, 22(1), pp. 5–19.