Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Sut mae ymarferwyr yn ymateb i wrthwynebiad ac ymosodiad

Gallai rhieni a gofalwyr ymateb mewn ffyrdd gwahanol pan gânt wybod yn gychwynnol am wiriadau a gwerthusiadau. Gall yr ymatebion cychwynnol yna barhau drwy gydol yr asesiad. Dylai ymarferwyr sydd yn dod ar draws ymddygiad elyniaethus a bygythiol ystyried sut y maent yn ymateb i hyn oherwydd y gall eu hymateb lurgunio’r ymholiadau ac yn tynnu sylw oddi ar y plentyn a’i anghenion.

Ceir sawl ymateb gwahanol gan ymarferwyr pan ddônt ar draws gwrthwynebiad a gwrthdaro sy’n cynnwys:

Cydgynllwynio â’r gofalwr, sy’n cam-drin, drwy osgoi gwrthdaro.

  • Osgoi cyswllt personol (ymweliadau cartref);
  • defnyddio dulliau cyswllt pell (e.e. cyswllt ffôn neu e-bost yn hytrach nag ymweliadau i weld y plentyn yn yr ysgol yn lle yn y cartref);
  • Derbyn fersiwn y rhiant o ddigwyddiadau’n ddi-gwestiwn yn absenoldeb tystiolaeth wrthrychol;
  • Canolbwyntio ar faterion llai dadleuol megis budd-daliadau / tai;
  • Canolbwyntio ar anghenion y rhiant, nid y plentyn sydd mewn perygl;
  • Peidio gofyn i gael gweld y plentyn ar ei ben ei hun;

Newid ymddygiad er mwyn osgoi gwrthdaro;

  • Hidlo neu leihau pwysigrwydd gwybodaeth negyddol;
  • Rhoi gormod o bwys ar wybodaeth gadarnhaol (y ‘rheol optimistiaeth’) a dim ond chwilio am wybodaeth gadarnhaol;
  • Peidio herio aelodau teulu ynghylch eu pryderon;
  • Cadw’n dawel am bryderon a pheidio rhannu gwybodaeth am risgiau ac asesu gydag eraill neu â rheolwyr.

Dylai pob ymarferydd yn y mathau hyn o asesiadau holi eu hunain a ydynt:

  • Yn teimlo rhyddhad pan nad oes ateb wrth y drws;
  • Yn teimlo rhyddhad pan ânt nôl allan drwy’r drws;
  • Yn oedi ymweliad;
  • cadw ymweliad mor gryno â phosibl a/neu ddod o hyd i esgus i’w dorri’n fyr.
  • Yn dweud, gofyn a gwneud yr hyn fyddent fel rheol yn ei wneud, gofyn a gwneud wrth ymweld neu wneud asesiad;
  • Wedi nodi a gweld y bobl allweddol;
  • Wedi gweld tystiolaeth o eraill a allai fod yn byw yn y tŷ

Dylai ymarferwyr a’u goruchwylwyr barhau i ofyn i’w hunain: sut fyddai’r oedolyn mewn perygl wedi teimlo wrth i’r drws gau ar ôl i’r ymarferydd adael cartref y teulu?


Rhagor o wybodaeth:

Littlechild B et al., (2016) The Effects of Violence and Aggression from Parents on Child Protection Workers’ Personal, Family, and Professional Lives, (Cafwyd ar 8/8/2019)