Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cwestiynau i’w Hystyried yn Rhan o a47 Ymholiadau dan Ddeddf Plant 1989

Cydran hanfodol i asesiad â’r plentyn yn y canol fel rhan o ymholiad s47 yw treulio amser yn cynllunio’r asesiad (unwaith bod y plentyn yn ddiogel). Ar y cam hwn dylai ymarferwyr ofyn i’w hunain:

  • Pwy sy’n adnabod y plentyn/plant a’r teulu ac a ddylai gyfrannu at yr asesiad?
  • Beth sydd angen i ni gael gwybod ganddynt?
  • Sut ydym am gynnwys y plentyn/plant a’r rhiant/rhieni ac unrhyw un arall o bwys yn yr asesiad?
  • Pa ddulliau ddylem eu defnyddio i gasglu gwybodaeth?
  • A oes yna unrhyw ffactorau ieithyddol, diwylliannol, crefyddol neu yn ymwneud ag anabledd y dylwn ni eu hystyried?

Unwaith ei bod yna eglurder ar hyn y cwestiynau canlynol yw’r math o rai a fydd yn denu’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniad o ran a yw’r plentyn/plant yn, neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol

Beth y mae’r rheiny sy’n cyfrannu i’r adroddiad yn ei wybod ynghylch diogelwch, anghenion gofal a chymorth presennol y plentyn/plant?

Ystyriwch:

  • dystiolaeth bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu;
  • pryderon proffesiynol bod y plentyn yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol ac felly yn galw am gynllun amddiffyn plant;
  • pryderon bod rhianta yn cael effaith ar iechyd a datblygiad y plentyn ond nad yw eto yn peri niwed sylweddol.

Beth sy’n wybyddus am hanes presennol a gorffennol y teulu a digwyddiadau arwyddocaol sy’n berthnasol i’r asesiad hwn ar y plentyn/plant sydd mewn peryg posib o niwed sylweddol?

Ystyriwch:

  • perthnasoedd presennol y teulu ac yn y gorffennol ac ansawdd y perthnasoedd hynny;
  • hanes gofalwyr y gorffennol a all fod yn cael effaith ar yr ymddygiadau rhianta presennol;
  • unrhyw faterion yn ymwneud ag oedolion sydd yn cael effaith ar fywyd y teulu.

Beth yw hanes ymwneud yr amrywiol asiantaethau/gwasanaethau/ysgolion gydag aelodau’r teulu? Pa aelodau a pha ymwneud?

Ystyriwch:

  • ers faint o amser y bu’r teulu yn wybyddus i’r gwasanaeth;
  • gwybodaeth yr asiantaeth am anghenion datblygiadol y plentyn/plant, gallu rhianta, ffactorau teuluol ac economaidd-gymdeithasol trwy gyfrwng ymwneud eich asiantaeth;
  • pryderon am anghenion datblygiadol y plentyn/plant, gallu rhianta, ffactorau teuluol ac economaidd-gymdeithasol o’r gorffennol;
  • tystiolaeth o gryfderau teuluol o’r gorffennol.

Pa fewnbwn/gwasanaeth maen nhw wedi ei dderbyn? Pa bryd a pham? A arweiniodd hyn at atgyfeiriad i weithwyr proffesiynol eraill?

Ystyriwch:

  • beth oedd effaith y mewnbwn?
  • i beth y priodolir hyn?
  • beth oedd agwedd y rhiant a / neu’r plentyn tuag at y mewnbwn?
  • ansawdd y berthynas rhwng y darparwr gwasanaeth, y rhiant/rhieni a neu’r plentyn/plant.

A oes teulu estynedig, rhwydweithiau cymorth ac adnoddau cymunedol ar gael i’r teulu? Os felly beth ydynt a pha mor fuddiol ydynt yn diogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant y plentyn/plant?

Ystyriwch:

  • ansawdd unrhyw gymorth cymdeithasol anffurfiol i’r plentyn/plant a’r rhiant/rhieni;
  • y rhan a chwaraeir gan y rhwydwaith teuluol ehangach yn rhoi cymorth i’r teulu;
  • cymorth gan y gymuned a sefydliadau ffydd;
  • byd cymdeithasol y plentyn y tu allan i’r teulu.

(Horwath, 2019)


Rhagor o wybodaeth:

Horwath J (2019) The Assessment Process: Making a Referral, Planning an Assessment and Gathering Information in Horwath, J. and Platt, D The Child’s World The Essential Guide to Assessing Vulnerable Children and their Families; London, JKP.