Mae nifer o heriau yn wynebu gweithwyr cymdeithasol sy’n ceisio cael gwybodaeth gan ymarferwyr, fel rhan o ymholiadau s47. Mae’r modd y gwneir y cais am wybodaeth yn cael dylanwad sylweddol ar y wybodaeth a dderbynnir. Gallai hyn, yn ei dro, amharu ar agwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Bydd y mathau canlynol o gwestiynau’n dwyn gwybodaeth gyfyngedig allan.
Allwch chi ddweud wrtha i beth wyddoch chi am Gareth a’r clais?
Gallai’r ffocws fod ar un plentyn ac un digwyddiad. Gall hyn arwain at ymatebion penodol iawn am y plentyn a’r digwyddiad sy’n gyrru pryderon eraill a phlant eraill i’r cyrion a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol.
Gall person sy’n rhoi gwybodaeth hefyd fod yn ddewisol o ran yr hyn a rannant oherwydd y gallant, er enghraifft, ofni ymateb rhiant neu or-ymuniaethu â nhw. Mewn geiriau eraill, rhennir gwybodaeth yn ddewisol.
Beth ydych chi’n ei wybod am Gareth Jones a’i deulu?
Mae cais mor gyffredinol am wybodaeth yn golygu mai’r ymarferydd sy’n rhoi’r wybodaeth sy’n penderfynu’r hyn sy’n berthnasol ac nad yw’n berthnasol ac ni allai ystyried y gallai gwybodaeth a gedwir ond nas rennir fod yn berthnasol.
‘Ro’n i’n meddwl y byddai’n syniad gwirio hyn gyda chi ond rwy'n siŵr nad oes dim sy’n gofyn edrych mewn ymhellach i hyn'
Os yw’r ymarferydd sy’n dwyn y ffeithiau i’r golwg mewn trafodaeth strategaeth yn credu nad oes problem mewn gwirionedd ond eu bod yn dilyn y gweithdrefnau, mae’n bosib y byddant yn mabwysiadu ymagwedd ddi-hid – dim angen poeni – sy’n denu ymateb optimistaidd tebyg gan y person sy’n cyflenwi’r wybodaeth. Rheol optimistiaeth yw hyn.
‘Allwch chi ddweud wrthyn ni am Gareth Jones? Rydym yn hen gyfarwydd â’r teulu a dwi ddim yn synnu ein bod ni wedi cael adroddiad arall eto fyth am gam-drin corfforol gan y fam’.
Mae’n bosib bod yr ymarferydd sydd wedi llunio'r adroddiad eisoes wedi ffurfio barn gychwynnol ynghylch pryderon a’r tramgwyddwr honedig. Gall cywair eu llais neu’r wybodaeth y gofynnir amdani, yn anfwriadol, ddenu gwybodaeth gan eraill sy’n cadarnhau eu barn mewn geiriau eraill mae syniadau penodol neu gredau penodol yn cael eu ffurfio.