Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cyfrannu at ymholiadau a47

Gall ymarferwyr nad sy’n cyfrannu fel rheol at ymholiadau s47 fod yn ansicr ynghylch yr hyn sydd ei angen ganddynt fel rhan o’r broses.

Mae’r canlynol yn rhoi amlinelliad:

  1. Mae asesiad effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth holistaidd o amgylchiadau’r teulu, meysydd pryder a chryfderau’r teulu o ystod o safbwyntiau proffesiynol. Mae’n bwysig, felly, edrych y tu hwnt i’r digwyddiad neu’r pryder a rhoi gwybodaeth am anghenion datblygiadol y plentyn, gallu rhianta, ffactorau economaidd-gymdeithasol.
  2. Mae asesiadau sy’n canolbwyntio ar blant yn digwydd pan fo ymarferwyr nid yn unig yn disgrifio ymddygiadau’r plentyn a’r gofalwr ac amgylchiadau’r teulu ond hefyd yn ystyried pam fod rhieni yn ymddwyn fel y maen nhw ac effaith y rhain ar iechyd a datblygiad pob plentyn yn y teulu.
  3. Mae tynnu ar brofiad real aelodau’r teulu yn helpu ymarferwyr i ddeall y pam a’r effaith. Er enghraifft, os oes pryderon am drais domestig, beth y mae’r plentyn a’r gofalwr wedi ei ddisgrifio ynghylch yr amgylchiadau sy’n ysgogi’r trais a’r effeithiau yn ystod y dydd?
  4. Tynnwch ar yr hyn a arsylwyd gennych ac y gwyddoch am y teulu.
  5. Peidiwch rhoi rhestr o ddyddiadau neu gysylltiadau asiantaeth heb roi rhyw arwydd o natur y cyswllt a’r canlyniad.
  6. Wrth benderfynu beth i’w gynnwys yn yr Asesiad holwch eich hun os yw hyn yn berthnasol? A yw’r wybodaeth yn cynyddu ein dealltwriaeth o’r plentyn, y teulu a’u sefyllfa? Os oes amheuaeth gennych trafodwch gyda’r gweithiwr cymdeithasol.
  7. Mae ymarferwyr yn cyfrannu at yr asesiad oherwydd nid yn unig bod cyswllt â’r plentyn a’r teulu ganddynt ond mae cefndir proffesiynol ganddynt hefyd sy’n eu galluogi nhw i ffurfio barn am y pryderon a’r cryfderau teuluol, o’u persbectif proffesiynol eu hunain. Peidiwch ag ofni tynnu ar hyn; gwerthfawrogir barn broffesiynol pawb.
  8. Mae’r fframwaith asesu yn galluogi un i ystyried yr amrywiol ddimensiynau sydd i anghenion plentyn a’i ddatblygiad, gallu rhianta a ffactorau teuluol ac amgylcheddol. Wrth ystyried effaith cam-drin ac esgeulustod ar blentyn ceisiwch ddefnyddio’r dimensiynau hyn i ddangos sut yr effeithir ar iechyd a llesiant y plentyn. Hefyd, ystyriwch sut y mae materion yn ymwneud ag oedolion megis cam-drin cyffuriau yn cael effaith ar amrywiol ddimensiynau’r gallu i rianta.
  9. Sicrhewch eich bod yn cefnogi’ch dadansoddiad â thystiolaeth o’r hyn a arsylwyd gennych, a ddwedwyd wrthych gan y teulu neu o ymchwil.
  10. Ystyriwch yr hyn a wyddoch am ddiwylliant, crefydd a’i effaith ar fywyd bob dydd bob aelod o’r teulu. Defnyddiwch hyn i osgoi gwneud datganiadau cyffredinol am faterion rhianta, diwylliant ac amrywiaeth.
  11. Eich cyfrifoldeb chi yw rhannu eich cyfraniad i’r asesiad gyda’r teulu. Os oes pryderon genych am wneud hynny yna trafodwch gyda’r Gweithiwr Cymdeithasol.

Wrth gyfrannu at asesiad gall y cwestiynau canlynol gynorthwyo i gadw ffocws ar gryfderau teulu a phryderon:

  • Beth gwn i am y plentyn a’r teulu sydd yn cynnig tystiolaeth fod peth/y cyfan o anghenion y plentyn yn cael eu diwallu? Pa dystiolaeth sydd gennyf i gefnogi hyn?
  • Beth mae hyn yn ei ddweud wrthyf am gryfderau rhianta?
  • Pa bryderon sydd gennyf fod y plentyn yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol? Pa dystiolaeth sydd gennyf?
  • Pa bryderon sydd gennyf am iechyd a datblygiad y plentyn nad sy’n peri niwed sylweddol hyd yma ond sy’n arwydd fod anghenion gofal a chymorth ganddynt?