Tasg - Ymholiadau i amheuaeth o niwed sylweddol i’r plentyn
Cam Gweithredu - Penderfynu pa wybodaeth bellach sydd angen am y plentyn neu blant a’r teulu, gan bwy, a sut dylid ei chael.
Cytuno pwy fydd yn ffurfio’r tîm sy’n gwneud yr ymholiadau.
Cynllunio sut dylid delio â’r ymholiadau.
Penderfynu pa gamau gweithredu sydd angen eu cyflawni ar unwaith, erbyn pryd ac i ba ddiben.
Ystyried a oes angen archwiliad meddygol os yn briodol, penderfynu pwy fydd yn cysylltu â’r rhiant/rhieni a chael cydsyniad ar gyfer holi’r plentyn, unrhyw recordiad fideo ac archwiliad meddygol, ystyried pa gamau y dylid eu cymryd os yw’r rhiant neu’r plentyn yn gwrthod cydsyniad am asesiad meddygol. Mae’n aml yn briodol i gael asesiadau meddygol o’r brodyr/chwiorydd.
Tasg - Ymchwiliadau’r heddlu
Cam Gweithredu - Cytuno ar amseriad unrhyw ymchwiliad troseddol a’r dull o’i gynnal. Dylai’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu gytuno ar sut y dylid cynnal unrhyw ymchwiliadau adran 47 gan yr heddlu, gan gynnwys lleoliad cyfweliadau a phwy fydd yn eu cynnal.
Cytuno a ddylid recordio ar fideo unrhyw gyfweliad ymchwiliadol gyda’r plentyn, a’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw. Cytuno pwy arall sydd angen bod yn bresennol yn y cyfweliad gyda'r plentyn.
Penderfynu a yw o fudd i’r plentyn i gael cydsyniad y rhieni i’w gyfweld.
Ystyried pa gamau y dylid eu cyflawni os yw rhiant neu blentyn yn gwrthod cydsynio i gyfweliad;
Ystyried lefel datblygiad y plentyn, unrhyw anabledd neu broblemau ieithyddol, a pha drefniadau sydd angen i gynnig cyfweliad i’r plentyn yn ei ddewis iaith, neu ei ddull cyfathrebu o ddewis, fel Makaton.
Cytuno ar bwy fydd yn cyfweld y camdriniwr honedig a pha bryd.
Penderfynu pwy fydd yn cael cyfweliad, gan bwy, pryd, ble ac i ba ddiben i sicrhau nad oes effaith ar dystiolaeth bosib mewn achos troseddol. Bydd hyn yn cynnwys cyfweld â’r sawl roddodd y wybodaeth yn wreiddiol os nad yw hyn eisoes wedi cael ei wneud.
Tasg - Ymgysylltu â’r teulu
Cam Gweithredu - Ystyried sut i fod yn ymwybodol o unrhyw faterion cyfathrebu, ethnigrwydd neu ddiwylliannol, a phenderfynu a oes angen cyfieithydd ai peidio.
Nodi a yw’r plentyn eisiau eiriolwr.
Ystyried a oes unrhyw broblemau galluedd meddyliol gyda’r plentyn neu’r rhiant.
Ystyried anghenion iaith o ran gweithio gyda’r plentyn a’r teulu.
Penderfynu pa wybodaeth o’r cyfarfod strategaeth a ddylid ei rhannu gyda’r teulu, oni bai y byddai rhannu’r fath wybodaeth yn rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol neu’n peryglu ymchwiliadau’r heddlu i unrhyw drosedd(au) honedig.
Cytuno ar sut y dylid adnabod profiad byw'r plentyn a’i ofalwyr, eu dymuniadau a’u teimladau, fel y gellir eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.
Penderfynu pa wybodaeth o’r cyfarfod strategaeth ddylid ei rhannu gyda’r teulu, oni bai y byddai rhannu’r fath wybodaeth yn rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol neu’n peryglu ymchwiliadau’r heddlu i unrhyw drosedd(au) honedig.
Ystyried pryd i roi gwybod i’r plentyn am ganlyniad ymchwiliad yr heddlu pan ddaw.
Tasg - Arfer cydweithredol
Cam Gweithredu - Cytuno ar yr amserlen ar gyfer ymholiadau ac asesiadau adran s47 amddiffyn plant.
Cytuno pa ymarferwyr nad ydynt yn bresennol yn y cyfarfod strategaeth ddylai gael gwybodaeth ar y cam hwn.
Nodi pa ymarferwyr ddylai gyfrannu at asesiadau.
Penderfynu pwy fydd yr ymarferwyr sy’n cynnal yr ymholiadau’n adrodd, pa mor aml a sut fydd y cynnydd yn cael ei adolygu.