‘Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am niwed sylweddol yn gyffredinol fel casgliad o ddigwyddiadau arwyddocaol, yn llym ac yno ers tro, sy’n rhyngweithio gyda datblygiad parhaus y plentyn, ac sydd yn tarfu, newid neu amharu ar ddatblygiad corfforol a seicolegol. Mae dioddef niwed sylweddol yn debygol o gael effaith ddofn ar sut y bydd plentyn yn ei weld ei hun fel person, ac ar ei fywyd yn y dyfodol. Mae niwed sylweddol yn cynrychioli un o brif symptomau methiant rhieni i addasu i’w swydd, ac mae hefyd yn ymwneud â’r teulu a chymdeithas.
(Bentovim, 1998, tud.57 yn Adcock and White Significant harm: It’s Management and Outcome).
Mae’r disgrifiad hwn o niwed sylweddol wedi goroesi prawf amser. Gan bwyso ar y disgrifiad hwn, wrth ystyried p’un a oes niwed sylweddol wedi digwydd fe ddylai ymarferwyr ystyried:
- Pa gam-drin a/neu esgeulustod sydd wedi digwydd, a yw wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd a datblygiad y plentyn neu a yw’n debygol o gael effaith os na fydd y gwasanaeth yn ymyrryd?
- Sut mae wedi effeithio’r plentyn? Dylid ystyried: profiad ei fywyd dyddiol, ei anghenion datblygiadol, ei deimladau a’i ganfyddiad ohono’i hun.
- A yw ein pryderon yn ymwneud â niwed cronnol? Hynny yw croniad un amgylchiad negyddol megis rhiant yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu wahanol amgylchiadau lluosog, megis diffyg gallu rhianta y ogystal â ffactorau economaidd-gymdeithasol? Fel arall, a yw ein pryderon yn ymwneud â digwyddiad llym sydd wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd a datblygiad y plentyn?
- Tynnu ar ein gwybodaeth o Brofiadau Plentyndod Adfydus (ACE) ac effaith cam-drin ac esgeulustod ar hyd cwrs oes, sut effaith all fod ar y plentyn os na fyddwn yn ymyrryd?
- Beth wyddon ni am allu a chymhelliad y rhiant/rhieni i fodloni anghenion y plentyn? (Ystyriwch eu patrwm byw dyddiol, gallu i rianta ac agweddau a theimladau tuag at y plentyn). Sut fod hyn yn dangos methiant i fod yn rhiant ‘digon da’.?
- I ba raddau y mae’r teulu estynedig a’r rhwydwaith teuluol a chymdeithasol yn cefnogi’r teulu er mwyn diwallu anghenion y plentyn?
- Pa ffactorau economaidd a chymdeithasol sy’n effeithio ar allu’r rhiant/rhieni i ateb anghenion y plentyn?
- A allwn adnabod cryfderau a ffactorau amddiffynnol a allai liniaru’r tebygolrwydd o niwed sylweddol?