Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Trosi’r Agenda i Broses Gynhadledd sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn

Mae’r gynhadledd amddiffyn plant yn dilyn agenda safonol. Mae’r canlynol yn disgrifio ‘yr hyn sy’n gweithio’ wrth ddilyn yr agenda.

Eitem/tasg agenda

1. Pwrpas neu resymau dros y gynhadledd a thasgau aelodau’r gynhadledd

Proses:

Mae’n bwysig bod aelodau teulu yn cael pob cyfle i gymryd rhan weithredol yn y gynhadledd. Mae’n fwy tebygol y caiff hyn ei gyflawni os:


  • Bydd aelodau teulu yn yr ystafell pan ddaw ymarferwyr i mewn, a bod ganddynt rywfaint o ddweud o ran yn lle y dylai’r ymarferwyr eistedd.
  • Yw’r teulu yn deall y rhesymau dros y gynhadledd cyn y digwyddiad.
  • Bod y tasgau a’r diben yn cael eu hamlinellu mewn Cymraeg/Saesneg clir a bod ymarferwyr yn osgoi defnyddio jargon ac anagramau gydol y digwyddiad.

Nid yw llawer o ymarferwyr yn gyfarwydd â chynadleddau ac efallai y byddant yn nerfus a dylid cydnabod hyn.

2. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, cyfrinachedd, swyddogaethau asiantaethau gyda’r teulu

Proses:

Yn aml bydd aelodau teulu yn teimlo wedi eu llethu. Mae ymchwil wedi dangos gorau byd po gyntaf y mae’r teulu yn siarad yna mwya tebygol fyddant o gymryd rhan weithredol.

Gall dulliau fel dechrau’r gynhadledd â genogram neu ecofap, wedi ei gyflwyno gan y gweithiwr cymdeithasol a’r teulu, fod yn ddefnyddiol o ran ymgysylltiad y teulu.

3. Dosbarthu adroddiadau

Proses:

Yn draddodiadol mae amser anghyfartal wedi ei dreulio yn rhannu gwybodaeth. Yr arfer gorau fyddai dosbarthu adroddiadau cyn y gynhadledd a/neu fod ag adroddiadau ar gael i aelodau eu darllen yn union cyn y gynhadledd.

Dylai’r teulu fod yn gyfarwydd â chynnwys adroddiad cyn y gynhadledd, fel na fyddant yn derbyn unrhyw newyddion annisgwyl yn y gynhadledd.

Yn hytrach na mynd drwy bob adroddiad yn fanwl dylai ymarferwyr fod yn barod i roi crynodeb byr.

4. Manylion y digwyddiadau yn arwain at y gynhadledd amddiffyn

Proses:

Dylai hwn fod yn berthnasol a chymesur.

5. Gwybodaeth o’r ymholiadau adran 47 a’r asesiad hyd yn hyn

Proses:

Mewn nifer o achosion, ni fydd yr asesiadau gofal, cymorth ac amddiffyn wedi eu cwblhau. Mae’n bwysig felly roi’r gwybodaeth a rennir mewn cyd-destun – y tri ‘beth’:


  • beth rydym ni’n ei wybod
  • beth rydym ni’n ei amau
  • beth sydd angen ei nodi eto.

6. Gwybodaeth gefndir gan yr holl asiantaethau, gan gynnwys unrhyw ymwneud yn y gorffennol yn ogystal â’r presennol

Proses:

Dylai aelodau gydnabod mai’r nod yw cynnig trosolwg o orffennol a hanes presennol y teulu a’u hymgysylltiad â gwasanaethau er mwyn brwydo’r broses benderfynu. Felly, dylai gwybodaeth ganolbwyntio ar:


  • bryderon – newydd a pharhaol
  • cryfderau rhianta – gan seilio ar hanes blaenorol ac arferion rhianta presennol
  • capasiti i newid – gan seilio ar hanes blaenorol a sefyllfa bresennol
  • beth sy’n gweithio o ran ymyriadau – ar sail tystiolaeth a gwybodaeth am wasanaethau ac ymateb y teulu yn flaenorol.

7. Crynodeb gan y cadeirydd o’r holl brif wybodaeth a roddwyd i’r gynhadledd

Proses:

Mae’n bwysig nad yw’r teulu a’r ymarferwyr yn y gynhadledd yn cael eu llethu gan y wybodaeth a rennir.

Dylai’r crynodeb ganolbwyntio ar:


  • pryderon blaenorol a phresennol
  • cryfderau’r teulu
  • capasiti rhianta ac effaith unrhyw broblemau perthnasol i oedolion
  • ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n effeithio ar rianta a’r teulu

8. Barn y plant ac aelodau teulu

Proses:

Os oes gormod o wybodaeth wedi ei rhannu a’i thrafod erbyn y cam hwn mae’n bosib y bydd y plentyn a’u deulu yn teimlo wedi eu llethu. Bydd y teimlad hwn o gael eu llethu yn fwy tebygol o ddatblygu os yw’r ymarferwyr wedi defnyddio jargon ac wedi gwthio’r teulu i’r cyrion yn y trafodaethau.

Os yw rhan gyntaf y gynhadledd wedi canolbwyntio ar wybodaeth berthnasol a rannwyd yn syml, mae’r teulu yn llawer mwy tebygol o ddeall yr hyn a rannwyd ac yn gallu cynnig mwy o sylwadau.

Mae’n bwysig nodi cyn y gynhadledd ym mha ffyrdd mae’r plentyn a’r teulu yn dymuno mynegi eu barn.

9. Dadansoddiad o oblygiadau yr holl wybodaeth a rannwyd am ddyfodol diogelwch y plentyn, ei iechyd a’i ddatblygiad: e.e. a yw’r plentyn yn parhau mewn peryg o gael niwed

Proses:

Mae’n bwysig bod y dadansoddi hwn yn cael ei wneud mewn modd hawdd ei ddeall.

Mae angen i gyfranogwyr y gynhadledd gael gwybod, gan dynnu ar brofiadau byw y teulu:


  • am beth rydym ni’n poeni?
  • Beth sy’n gweithio’n dda?
  • beth sydd angen iddo newid?

Canfuwyd bod defnyddio dyfeisiau gweledol fel goleuadau traffig neu ddefnyddio bwrdd gwyn i gofnodi ymatebion i gwestiynau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r teulu.

10. Ystyriaeth i’r peryg o niwed os yw’r plentyn yn aros adref, ac argymhellion diamwys o ran sut y gellir rheoli’r risgiau

Proses:

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a rannwyd ac a ddadansoddwyd, dylai’r cadeirydd hwyluso trafodaeth ynghylch y risgiau, anghenion a chryfderau a hynny AR GYFER POB PLENTYN YN Y TEULU. Y nod yw i ymarferwyr ystyrid:


  • y wybodaeth a gasglwyd,
  • yr asesiadau unigol o risg a niwed
  • dod i gytundeb o ran lefel y risg i bob plentyn yn y teulu.

Nod y cwestiynau canlynol yw hwyluso’r drafodaeth hon:

  • Yn ôl y gweithwyr proffesiynol pa agweddau ar brofiad byw y plentyn a phrofiad byw y rhieni sy’n rhoi’r plentyn mewn peryg a/neu o niwed sylweddol?
  • Beth yw ein pryderon a rennir?
  • A oes yna bryderon ychwanegol a nodwyd gan ymarferwyr unigol?
  • Allwn ni ddod i gytundeb?
  • Pa agweddau ar brofiad byw’r plentyn a phrofiad y rhieni sydd yn effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn ond nad sydd eto yn achosi neu’n debygol o achosi niwed sylweddol?
  • Pa agweddau ar brofiad byw’r plentyn sydd wedi eu nodi gan yr holl ymarferwyr neu rai unigol fel rhai cadarnhaol ac sy’n dangos cryfder teuluol?
  • Allwn ni ddod i gytundeb ynghylch y rhain?
  • Pa ffactorau hanesyddol a chyfredol sydd yn cael effaith ar allu’r teulu i gynnig profiad byw o ansawdd i’r plentyn?
  • Beth sydd yn dal i fod angen ei wybod arnom?
  • Beth yw barn y teulu am y dadansoddiad a wnaed gan ymarferwyr ynghylch sefyllfa eu teulu a’r peryg o niwed ac anghenion y plentyn? A ydyn nhw’n cytuno â’r ymarferwyr? Os nad ydynt, pam?

11. Ystyriaeth o’r angen am gyngor cyfreithiol

Proses:

Dylai unrhyw drafodaeth am gamau cyfreithiol gynnwys adran gyfreithiol yr awdurdod lleol.

12. Penderfyniad ar osod enw’r plentyn ai peidio ar y gofrestr amddiffyn plant a chategori’r risg

Proses:

Wrth wneud y penderfyniad hwn a phennu’r categori mae’n bwysig bod yr HOLL ymarferwyr yn cyfrannu i’r broses benderfynu.

Gall datgan y categori ar gyfer cofrestru ddod fel sioc i deuluoedd yn enwedig os nad yw ymarferwyr wedi enwi eu pryderon cyn hynny. Mae’n bwysig felly bod ymarferwyr yn lleisio eu pryderon yn ystod trafodaethau a chynadleddau e.e. ‘rydym yn pryderu bod eich plentyn yn cael ei esgeuluso oherwydd....’

13. Amlinelliad o’r cynllun gofal, cymorth ac amddiffyn, os oes ei angen

Proses:

Mae hon yn rhan hanfodol o broses y gynhadledd. Yn y gorffennol, amser cyfyngedig iawn sydd wedi ei dreulio ar gynllunio. Canlyniad hynny felly yw bod aelodau teulu ac ymarferwyr yn ansicr ar yr hyn sydd yn ddisgwyliedig ganddynt a phaham.

Dylai trafodaethau cynhadledd arwain yn rhesymegol at gynnwys y cynllun gydag aelodau teulu ac ymarferwyr yn deall y rhesymeg dros y cynllun gofal, cymorth ac amddiffyn amlinellol.

14. Crynodeb o gamau gweithredu’r gynhadledd

Proses:

Rhaid i’r cadeirydd sicrhau bod ymarferwyr ac aelodau teulu yn deall:


  • Y camau sydd i’w cymryd a’r rhesymeg drostynt
  • Y cyfraniad sy’n ddisgwyliedig ganddynt – o ran y teulu a’r ymarferwyr
  • Y deilliannau dymunol
  • Manylion aelodaeth graidd y grŵp, cyfarfod cyntaf y grŵp craidd a’r adolygiad.

(Wedi’i addasu gan Horwath and Wirral Safeguarding Children Board Supporting Families Enhancing Futures)