Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Ymarferwyr yn Mynychu Cynadleddau Amddiffyn Plant - Negeseuon Allweddol

  1. Mae paratoi yn allweddol. Dylai ymarferwyr baratoi crynodeb o’u hadroddiad sydd sy’n canolbwyntio ar y pwyntiau allweddol y dymunant eu gwneud yn y gynhadledd. Dylent ddefnyddio tystiolaeth a sicrhau ffocws ar y plentyn wrth gyflwyno’r crynodeb.
  2. Mae ffocws deublyg i’r gynhadledd. Yn gyntaf, gwneud synnwyr o’r wybodaeth ac yn ail, creu cynllun amlinellol i fynd i’r afael â’r pryderon.
  3. Yn ganolog i ddealltwriaeth o lefel y risg sydd o niwed y mae dealltwriaeth gadarn o brofiad bywyd dyddiol y plentyn/plant a’u gofalwr/wyr.
  4. Mae pob plentyn yn unigryw ac felly bydd ei anghenion yn benodol i’r plentyn hwnnw. Mae’n bwysig felly fod pob plentyn yn cael ei ystyried ar wahân.
  5. Mae cyfrifoldeb ar bob rhiant i gadw’r plentyn yn ddiogel. Dylid ystyried ei rôl a’i gyfrifoldebau ar wahân.
  6. Caiff asesiadau proffesiynol ynghylch pryderon diogelu a chryfderau teuluol eu hystyried. Sicrhewch eich bod yn gallu cyfiawnhau eich asesiad o’ch pryderon ac unrhyw gryfderau gyda thystiolaeth.
  7. Byddwch yn barod i gael trafodaeth agored am bryderon proffesiynol a chryfderau teuluol ac i gymryd rhan yn y trafodaethau hyn.
  8. Wrth ddrafftio’r cynllun amlinellol peidiwch â chanolbwyntio ar gamau gweithredu yn unig. Ystyriwch y camau yn eu cyd-destun. Pa anghenion sydd angen i ni fynd i’r afael â hwy? Pa gamau all fynd i’r afael â’r rhain a pham? Sut byddwn ni’n gwybod a yw’r camau yn effeithiol o ran deilliannau sy’n canolbwyntio ar y plentyn?
  9. Gall canolbwyntio yn unig ar bryderon yn y gynhadledd danseilio gofalwyr a llesteirio newid. Felly, sicrhewch eich bod yn cydnabod cryfderau teuluol a nodi sut gellir datblygu’r rhain i wella profiad byw dyddiol y plentyn/plant.