Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Gwneud Penderfyniadau o ran Cofrestru a’r Angen am Gynllun

Mae cynnal ymagwedd at wneud penderfyniadau ynghylch niwed sylweddol sy’n cadw’r plentyn yn y canol yn heriol. Rydym yn ymdrin â theuluoedd a fydd yn ennyn ystod o deimladau ymhlith ymarferwyr o empathi i deimlo’n grac. Mae’n bwysig cydnabod y teimladau hyn a cheisio sicrhau bod barn broffesiynol yn llywio penderfyniadau mewn cynadleddau.

Ystyriodd Barry (2007) hyn o ran oedolion sy’n wynebi risg. Mae ei gwaith wedi ei addasu ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd.

  1. Nid oes yr un penderfyniad sydd yn rhydd rhag niwed.
    • Yr hyn sy’n allweddol yw penderfyniadau sydd er lles gorau i’r plentyn. Gall hyn fod yn heriol, er enghraifft, os yw ymarferwyr yn cydnabod bod rhiant yn gwneud ei orau/gorau ond yn anffodus nid yw hyn yn atal niwed sylweddol.
    • Bydd yn rhaid i ymarferwyr bwyso a mesur y dewisiadau gorau sydd ar gael. Er enghraifft, a yw’n well cyfeirio at wasanaeth sydd wedi ei dylunio i gwrdd ag anghenion plentyn gan wybod bod y rhestr aros yn hir neu atgyfeirio at wasanaeth nad yw mor addas ond sydd â rhestr aros dipyn byrrach?
  2. Mae penderfyniadau effeithiol yn cael eu gwneud wedi eu seilio ar asesiad gofalus a rhesymegol a dadansoddiad o’r risg.
    • Mae’n bwysig bod digon o amser yn cael ei dreulio yn y gynhadledd yn gwneud synnwyr o’r wybodaeth sydd yn dod i law. Lawer yn rhy aml mae’r canolbwyntio ar rannu gwybodaeth tra bod penderfynu yn cael ei wthio i’r cyrion.
    • Unigolion yw plant; felly, dylid gwneud penderfyniadau ynghylch pob plentyn yn seiliedig ar y dadansoddiad o’r risgiau unigol a’r ffactorau amddiffyn a gaiff eu profi gan y plentyn hwnnw.
  3. Mae sail dystiolaeth gadarn yn allweddol.
    • Mae profiad byw y plentyn a’r rhiant/rhieni a’r effaith a arsylwir gan ymarferwyr yn cynnig tystiolaeth o niwed sylweddol
    • Mae gwybodaeth broffesiynol ac ymchwil yn cynnig arwydd o’r tebygolrwydd y digwydd niwed sylweddol os nad eir i’r afael â’r pryderon
  4. Dylai ymarferwyr a’r teulu gyrraedd pwynt o gyd-ddealltwriaeth ynglŷn â’r pryderon os ydynt i weithio gyda’n gilydd i ateb anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn y plentyn.
  5. mae asesu risg yn broses barhaus.

Rhagor o wybodaeth:

Barry, M (2007) Effective approaches to Risk Assessment in Social Work. An international literature review Scottish Executive. www2.gov.scot/ (Cyrchwyd 16/7/2019)