Mae hwn yn rhan hanfodol o broses y gynhadledd. Yn y gorffennol, amser cyfyngedig iawn sydd wedi ei dreulio ar gynllunio. Felly, mae aelodau teulu ac ymarferwyr yn ansicr ar ddiwedd y gynhadledd o ran yr hyn sydd yn ddisgwyliedig ganddynt a phaham.
Dylai trafodaethau cynhadledd a dadansoddiad o risg o niwed sylweddol arwain yn rhesymegol at gynnwys y cynllun gydag aelodau teulu ac ymarferwyr yn deall y rhesymeg dan sylw.
Wrth ddatblygu’r cynllun amlinellol mae’n hanfodol bod:
- Y rhesymeg ar gyfer unrhyw gamau gweithredu a fwriedir yn glir ac wedi’i chysylltu’n glir a’r canlyniad a ddymunir. Er enghraifft, ym mha fodd y disgwylir i fywyd plentyn newid os yw rhiant yn mynychu rhaglen rhianta?
- Blaenoriaethau yn cael eu gosod gydag amserlen.
- Y newidiadau mae rhieni angen eu gwneud i’w patrymau a’u hymddygiadau yn glir
Mae’r canlynol wedi eu dylunio i gynorthwyo’r cadeirydd a chyfranogwyr y gynhadledd i greu cynlluniau amlinellol ystyrlon:
Y plentyn
- Ystyriwch bob plentyn yn ei dro. Peidiwch â rhagdybio y bydd yr un pryder o ran rhieni, megis amodau gwael yn y cartref, yn effeithio ar bob plentyn yn yr un ffordd.
- Ceisiwch feddwl y tu hwnt i’r pennawd sy’n peri pryder er mwyn nodi’r effaith. Er enghraifft, os yw’r gynhadledd yn pryderu am drais domestig yna disgrifiwch sut y mae’n effeithio ar fywyd beunyddiol ac iechyd a datblygiad y plentyn. Gall newidiadau i’r profiad hwn wedyn roi nodau cynnydd.
- Sicrhewch eich bod yn ystyried yr hyn sydd yn gofidio’r plentyn a’r rhiant/rhieni a’r hyn maen nhw eu hunain am weld ei newid. Lawer yn rhy aml mae ymarferwyr yn canolbwyntio ar yr hyn sydd yn eu poeni pan fo’r plentyn ei hun efallai yn pryderu am faterion y gellir mynd i’r afael a nhw yn rhwydd megis cael hosanau glân i fynd i’r ysgol bob dydd.
Gallu rhianta
- Sicrhewch y rhoddir ystyriaeth i bob rhiant a/neu ofalwr. Mae’n llawer yn rhy hawdd i anwybyddu’r effaith y bydd gofalwyr sydd yn osgoi gweithwyr yn ei chael ar blentyn/plant. Hefyd, ystyriwch effaith gofalwyr sydd â chyswllt cyfyngedig â’r plentyn/plant er enghraifft, rhieni sydd wedi gwahanu.
- Cofiwch nodi’r hyn y mae rhiant/rhieni yn ei wneud yn dda yn ogystal â’r meysydd i’w gwella.
- Gwneud cysylltiadau penodol rhwng ymddygiad rhiant a’r effaith ar y plentyn/plant. Er enghraifft, mam ddim yn codi yn y bore. Beth mae hynny yn ei olygu i bob plentyn yn y teulu?
Beth yw nodau’r cynllun?
- Nod y cynllun yw lleihau’r risg o niwed sylweddol a diogelu iechyd a datblygiad y plentyn.
- Defnyddiwch y wybodaeth a ddaeth i law am fywyd y rhiant/rhieni a phryderon yr ymarferwyr er mwyn creu disgrifiad manwl o ba newidiadau sydd angen eu gwneud ar gyfer pob plentyn er mwyn bod yn ddiogel trwy lygaid proffesiynol. Po fwyaf y manylion a gaiff eu rhoi yna mwya’r eglurder sydd gan deulu parthed yr hyn sydd angen iddynt ei wneud.
- Cofiwch ystyried yr hyn y byddai’r plentyn/plant eu hunain yn ei ddweud a fyddai’n gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a sicrhau bod hyn wedi ei adlewyrchu yn y cynllun amlinellol.
- Peidiwch ag arwain y rhieni i fethu drwy eu plagio nhw â gormod o newidiadau.
- Meddyliwch pa mor barod yw’r teulu ar gyfer newid. A ydynt mewn argyfwng, parod i ymgysylltu, yn wydn?
Sut byddwn yn mesur y canlyniadau?
- Cadwch hyn â’r plentyn yn y canol drwy ganolbwyntio ar ddisgwyliadau ymarferwyr ynghylch sut brofiad byw fydd gan y plentyn os dônt oddi ar y cynllun.
Swyddogaeth yr ymarferwyr
- Eglurwch wrth y teulu y byddant yn derbyn cefnogaeth i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
- Dylid pwysleisio na fydd y grŵp craidd yn chwilio am ganlyniadau dros nos ond am weld cynnydd graddol, ond rhaid bod hyn ar gyflymder sydd yn ateb angen y plentyn.
- Nodwch y bydd yn y grŵp craidd gyfleoedd i nodi ac archwilio unrhyw rwystrau i newid y gall fod y rhieni yn eu profi.
- Pwysleisiwch fod y grŵp craidd yno i gynorthwyo’r teulu i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn i’r plentyn/plant allu teimlo’n ddiogel.