Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Ymgysylltu â’r Teulu Wedi Cynhadledd

Gall y broses ddiogelu fod yn ddryslyd a pheri penbleth i blant a theuluoedd. Ar ben hynny, mae gwybodaeth am eu cam-drin a’u hesgeuluso wedi ei drafod mewn fforwm cynhadledd law yn llaw â manylion am eu hamgylchiadau personol a’r canlyniadau a ddymunir. Gall hyn adael aelodau teulu yn teimlo’n fregus bod eu profiadau wedi dod yn rhan o fusnes pawb. Gallent hefyd deimlo’n grac ac yn ofidus ynglŷn â chynnwys y gynhadledd.

Mae’n bwysig cydnabod a mynd i’r afael ag unrhyw deimladau a chanlyniadau negyddol yn deillio o’r broses. Os nad eir i’r afael â’r teimladau a’r pryderon hyn gall y teulu fod yn amharod i ymgysylltu â gwasanaethau.

Mae’n bwysig, felly, fod y plentyn/plant a’r rhiant/rhieni yn cael cyfle i:

  • Dderbyn cydnabyddiaeth o’u barn a’u teimladau ynghylch y profiad
  • Trafod eu profiad o’r broses ddiogelu; beth weithiodd a beth achosodd bryder iddynt;
  • Ystyried unrhyw faterion sydd heb eu datrys neu gwestiynau a allai fod ganddynt am y broses a’r canlyniad;
  • Mynegi eu barn ar unrhyw gymorth yn y dyfodol a sut y caiff hyn ei gynllunio a’i siapio yn unol â’u hanghenion, eu dymuniadau a’u hamgylchiadau.