Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Asesiadau Risg a Gwneud Penderfyniadau

Mae gwneud penderfyniad yn rhan o broses sy’n dilyn dadansoddi cadarn ar y wybodaeth a gafwyd. Mae Brandon et al., (2008) yn dadlau, ar sail canfyddiadau yr hyn sy’n cyfateb i adolygiadau ymarfer plant yn Lloegr, er mwyn dadansoddi gwybodaeth y dylai ymarferwyr:

  • Byddwch yn chwilfrydig - pam y gallai’r tad fod yn ymddwyn fel hyn?
  • Meddyliwch yn feirniadol –a allai hyn fod yn sgil effaith i’w feddyginiaeth?
  • Dadansoddwch wybodaeth yn systematig - nid yw’r Meddyg Teulu o’r farn fod hyn yn debygol, oni bai ei fod yn yfed wrth gymryd ei feddyginiaeth. Mae’r Meddyg Teulu wedi ei rybuddio am y risg wrth wneud hyn.
  • Meddyliwch yn gyd-destunol - byddwch yn wyliadwrus o’r modd y gall ffactorau sydd ar wahân ryngweithio i greu sefyllfa sy’n niweidiol i’r plentyn. Fe sylwais ar ganiau a photeli fodca hyd y lle a fyddai’n awgrymu bod y tad wedi anwybyddu cyngor meddygol a’i fod yn yfed gan wybod y gall hynny effeithio ar ei ymddygiad.

I wneud synnwyr o unrhyw wybodaeth rhaid i ymarferwyr ddefnyddio’u crebwyll proffesiynol. Hynny yw, dylent ddefnyddio:

  • Gwybodaeth ffurfiol megis cyfreithiau, gweithdrefnau, ymchwil

Beth yw’r diffiniad cyfreithiol o niwed sylweddol? Sut mae ymchwil i effaith cam-drin ac esgeulustod yn bwydo unrhyw ddealltwriaeth o’r niwed sylweddol mae’r plentyn hwn yn, neu yn debygol o’i brofi?

  • Ymarfer doethineb – y sgiliau a doethineb yn codi o hyfforddiant a phrofiad ymarfer

e.e. Rwyf wedi dysgu drwy hyfforddiant a’m profiad i fy hun ei bod yn bwysig rhoi llais i blant ond er mwyn gwneud hyn rhaid i mi gynyddu eu hymddiriedaeth ynof.

  • Gwerthoedd drwy fantoli hawliau, anghenion ac ymwybyddiaeth o wahaniaethu

e.e. Rhaid i bob plentyn yn y teulu hwn gael ei weld fel unigolyn sydd â’i anghenion a’i hunaniaeth ei hun ac mae’n bwysig peidio gwahaniaethu neu wthio plentyn neu berson ifanc yn y teulu i’r cyrion.

  • Deallusrwydd emosiynol i allu darparu lefel o ddealltwriaeth yn ymwneud â’r plentyn a sefyllfa’r teulu

e.e. Mae’r rhieni hyn wedi cam-drin eu plant yn emosiynol. Eto i gyd, maen nhw’n fodau dynol sydd yn cael trafferth ymdopi â’r holl bwysau sy’n cael ei osod arnynt o ran cyflogaeth, tai, tensiynau teuluol.

(Munro, 2002, in Calder 2016)

Dylai hyn arwain yn ei dro at benderfyniadau gwybyddus o ran y modd mwyaf priodol o amddiffyn y plentyn rhag niwed.

Offer asesu

Ceir ystod eang o offer asesu risg ar gael i helpu ymarferwyr i ddadansoddi a gwneud synnwyr o unrhyw wybodaeth. Mae i asesiadau risg, neu ddulliau strwythuredig o wneud penderfyniadau fel y cânt eu galw weithiau, eu lle. Yn anffodus, o’u defnyddio ar eu pennau eu hunain, nid ydynt yn cynnig ‘yr ateb’ o ran lefel y niwed i blentyn unigol a’r camau nesaf.

Mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol bod y dulliau hyn yn aml yn cael eu datblygu wedi eu seilio ar ddadansoddiad o ddata ymchwil, ac felly, na fyddant o anghenraid yn berthnasol i bob plentyn. Mae’n bwysig felly fod y dulliau hyn yn cael eu defnyddio law yn llaw â chrebwyll proffesiynol cadarn yn hytrach nag yn lle crebwyll o’r fath. Mae’n bwysig hefyd eu defnyddio fel y’i bwriadwyd.

Cwblhaodd Barlow et al (2012)1 adolygiad o’r offer asesu risg, a oedd wedi eu dylunio i asesu niwed i blant. Daethant i’r casgliad fod offer effeithiol yn ddelfrydol yn:

  • Cynnig safoni ond hefyd yn pwysleisio defnyddio crebwyll proffesiynol
  • Cefnogi cymhwysedd a hyder proffesiynol
  • Peidio lleihau cymhlethdod
  • Cynorthwyo i adnabod niwed ac a oes tebygolrwydd iddo gael ei ailadrodd
  • Cymryd ymagwedd ecolegol
  • Cydnabod gwahanol gamau’r broses asesu
  • Cynnig arweiniad ar ddefnyddio’r dull mewn gosodiadau sefydliadol gwahanol.
  • Pwysleisio gweithio mewn partneriaeth
  • Defnyddio’r dystiolaeth orau

Canfuont nad oedd dim un o’r dulliau yn ateb yr holl feini prawf, ond y gallai rhai fod yn ddefnyddiol fel rhan o asesiad. Y rhain yw:

Dull arall y gellid ei ddefnyddio i wella’r broses benderfynu yw:

Fframwaith ar gyfer Dadansoddi a Gwneud Penderfyniadau

Gan gymryd yr uchod i ystyriaeth mae Dendy a Turney (2019) yn cynnig fframwaith cysyniadol defnyddiol ar gyfer dadansoddi a gwneud penderfyniadau. Gellir defnyddio hwn fel rhan o ymholiadau adran a47 neu yn ystod y gynhadledd.

Y pryderon:

  • Pa broblemau neu niwed sydd wedi digwydd a/neu allai ddigwydd yn y dyfodol?
  • Beth yw anghenion datblygiadol y plentyn a ddiwellir a’r rhai nas diwellir?
  • Beth yw’r camau blaenoriaeth?

Archwilio cyd-destun ac achos y problemau a nodwyd:

  • Sut mae rhianta a ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn effeithio ar y plentyn?
  • Beth sy’n achosi’r problemau neu’r niwed i’r plentyn?
  • A oes amgylchiadau penodol neu ymddygiadau penodol gan y rhieni sydd wedi creu anawsterau neu sy’n parhau i fwydo’r anawsterau?

Asesu’r potensial i newid y sefyllfa:

  • Pa amgylchiadau neu ymddygiadau penodol y gellir mynd i’r afael â nhw yn y fath ffordd er mwyn gwella profiadau byw i’r plentyn?
  • Beth yw cryfderau’r aelodau teuluol, a pha adnoddau sydd ar gael o fewn rhwydwaith y teulu?
  • Pa wasanaethau/cyfleoedd sydd ar gael? A ydyn nhw’n briodol i anghenion y plentyn, ac a allan nhw ymateb yn gyflym?
  • A yw gallu’r rhiant i newid a’i ymwneud ag ymyriadau gwasanaeth perthnasol yn awgrymu y gellir mynd i’r afael â’r risg o niwed i’r plentyn a’i leihau o fewn fframwaith sydd yn rhesymol i’r plentyn?

Argymhellion a phenderfyniadau:

  • gwneud argymhellion a gosod amcanion
  • pwyso a mesur y dewisiadau
  • cytuno ar gynllun gweithredu, yn seiliedig ar y dadansoddiad uchod

Am ragor o wybodaeth gweler:

Barlow, J et al, (2012) A systematic review of models of analysing significant harm (DoE) (Cyrchwyd 21/7/2019)

Platt D and Turney D (2019) The Assessment Process: Making Sense of the Information in Horwath J and Platt D The Child’s World. The Essential Guide to Assessing Vulnerable Children, Young People and their Families. JKP.