Gall Ymarferwyr ddod ar draws heriau sylweddol wrth benderfynu p’un a yw plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Dehongli mympwyol, anghyson ar gam-drin ac esgeulustod mewn geiriau eraill ai fy mhryder i yw eich pryder chi?
- cytuno ar ystyr ‘sylweddol’;
- Amrywiadau rhwng asiantaethau ac yn wir rhwng unigolion yn yr un asiantaeth wrth ddehongli niwed sylweddol;
- diffyg eglurder o ran swyddogaeth a chyfrifoldebau i farnu a/neu gyfrannu at y broses;
- disgwyliadau sefydliadol ynglŷn â throthwyau;
- ansawdd y cyfathrebu rhwng ymarferwyr;
- llwyth gwaith;
- cymdeithas sy’n amharod i gymryd risg gan arwain at ymagwedd o wylio fy nghefn
Felly mae’n rhai asesu pob achos ar sail tystiolaeth a dadansoddiad a barn amlddisgyblaethol ynghylch:
- y plentyn unigol, ei anghenion, iechyd a llesiant;
- gallu rhianta;
- amgylchiadau teuluol.