Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Amddiffyn Plant a’r Plentyn nad yw wedi ei eni eto

Golyga’r diffyg statws cyfreithiol plant nad ydynt wedi eu geni eto, mewn achosion pryder o ran risg neu niwed pan fydd y plentyn yn cael ei eni, y dylai ymarferwyr ymgysylltu â’r rhieni a’r teulu cyn yr enedigaeth mewn modd amserol ac ystyrlon. Golyga hyn:

  • nodi pryderon posibl yn gynnar, megis camddefnyddio alcohol a chyffuriau, trais neu gam-drin domestig;
  • gweithio mewn partneriaeth gyda’r teulu a’r holl ymarferwyr sydd mewn cysylltiad â nhw;
  • asesiad effeithiol;
  • ymyrraeth gynnar;
  • amser i rieni wneud newidiadau yn ystod y beichiogrwydd a dangos y gallant newid ar gyfer y plentyn pan gaiff ei eni;
  • gwneud penderfyniadau amserol i dynnu’r plentyn yn gynnar os nas cyrhaeddwyd digon o newid.

Am ragor o wybodaeth gweler:

Critchley A, (2018) Pre-birth child protection (Cyrchwyd 12/8/2019)

Lushey et al., (2018) Assessing parental capacity when there are concerns about an unborn child: pre-birth assessment guidance and practice in England. (2018) Child Abuse Review vol 27 pp97-107.

Protocolau a Gweithdrefnau Diogelu Rhanbarthol.