Mae plant a phobl ifanc yn ffynhonnell gwybodaeth allweddol ynghylch eu bywydau a’r effaith mae unrhyw broblemau yn eu cael arnynt o fewn diwylliant penodol ac o fewn gwerthoedd eu teuluoedd. Syndod felly yw bod y dystiolaeth yn dangos nad yw plant yn cael eu cynnwys yn ddigonol mewn gwaith amddiffyn plant.
The Munro Review of Child Protection: Final Report - A child-centred system. 2011(Ch 2.5 p25).
Daeth Muench et al., (2017)2, mewn astudiaeth o ddau ddeg tri o blant rhwng 8 a 18 oed, i’r casgliad mai ychydig a ddeallai plant a phobl ifanc ar gynadleddau amddiffyn plant ac ychydig iawn oedd eu cyfranogiad ynddynt, sy’n tanlinellu bod y dulliau a ddefnyddir i ymgysylltu plant â’r broses yma, ar y cyfan, yn aneffeithiol.
Dylai ymarferwyr ystyried y canlynol:
- Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng mynychu a chymryd rhan mewn cynhadledd. Y nod yw rhoi llais i’r plentyn yn arena’r gynhadledd yn hytrach na’i fod yn eistedd fel aelod goddefol o’r gynhadledd. Mae’r olaf yn symbolaidd yn unig, oni bai fo’r plentyn wedi gwneud cais penodol am hynny.
- Gall plentyn neu berson ifanc gymryd rhan mewn sawl modd. Does dim rhaid iddynt fod yn y gynhadledd er mwyn gallu cyfranogi. Dylid ystyried y canlynol:
- Eiriolaeth
- Presenoldeb
- Cyfleu safbwynt yn adroddiad y gweithiwr cymdeithasol neu ymarferydd arall yn yr ysgol y mae’r plentyn yn ymddiried ynddynt
- Gwaith uniongyrchol gan ymarferydd cyn y gynhadledd
- Llythyr, darlun, testun ayb.
- Os nad yw’r plentyn yn dymuno mynychu’r gynhadledd neu os tybir nad yw’n ddigon aeddfed i ysgwyddo cynnwys cynhadledd, dylid ystyried dulliau eraill o sicrhau ei lais fel y disgrifiwyd uchod.
- Pa ddull bynnag a gaiff ei fabwysiadu dylai’r plentyn deimlo:
- Wedi ei gefnogi i allu mynegi ei farn a’i deimladau, er enghraifft cefnogaeth i roi trefn ar ei feddyliau
- Wedi ei ymrymuso fod rhywun yn rhoi llais iddo yn hytrach na dehongli ei deimladau o safbwynt proffesiynol
- Wedi ei gynnwys fel ei fod yn adnabod y ffaith ei fod yn bwysig, a bod eraill am glywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud
- Yn gadarnhaol am y profiad i’r graddau bod ei gyfraniad wedi ei werthfawrogi.
Os yw’r plentyn neu berson ifanc yn dymuno mynychu’r gynhadledd ac yn gallu deall cynnwys a phroses y gynhadledd, yna dylid ystyried sut gellir hwyluso’r cyfranogiad hwnnw.
Gellir cyflawni hyn drwy:
- dylid treulio amser yn egluro’r dasg a’r broses gan sicrhau bod y plentyn yn gwybod pwy fydd yn mynychu a phaham.
- Gallai fod yn ddefnyddiol mynd â’r plentyn i’r lleoliad cyn y digwyddiad ‘cherdded’ drwy yr hyn a fydd yn digwydd.
- Dylai’r gweithiwr cymdeithasol sefydlu a oes yna bethau y dymuna’r plentyn eu dweud ond bod ofn ganddynt ddweud hynny yn arena’r gynhadledd. Os felly, dylid dod o hyd i ddulliau fel y gall y plentyn roi’r wybodaeth hon.
- Mae taflenni a fideos priodol o ran oedran yn ddefnyddiol (Gweler protocolau BDRh lleol ayb)
- Cefnogaeth yn ystod y gynhadledd - Dylai’r plentyn gwrdd â’r cadeirydd cyn y gynhadledd er mwyn egluro’r dasg a’r broses mewn modd priodol i’r oed ac i ateb unrhyw gwestiynau.
- Cyn y gynhadledd dylai’r gweithiwr cymdeithasol a’r cadeirydd drafod a oes yna rannau o’r gynhadledd lle na ddylai’r plentyn/plant fod yn yr ystafell.
- Mae plant yn ei chael yn haws os ydynt yn yr ystafell cyn yr ymarferwyr a’u bod yn gallu dewis lle i eistedd a pha ymarferwyr y dymunant eu cael yn agos atynt.
- Dylai’r cadeirydd dorri’r ias a rhyddhau tensiwn ar ddechrau’r gynhadledd mewn modd sydd yn briodol o gofio diben y gynhadledd.
- Gorau po gyntaf y gall y person ifanc siarad yna y mwyaf tebygol fyddant o gymryd rhan. Mae holi’r plentyn am eu teulu, er enghraifft, pwy sy’n byw ar yr aelwyd, yn gallu bod yn ffordd ddefnyddiol o dorri’r ias.
- Dylid osgoi jargon a defnyddio iaith lleygwyr. Gall fod yn ddefnyddiol i eiriolwr a/neu blentyn/rhiant i godi cerdyn os nad ydynt yn deall rhywbeth. Ond dylid holi a yw hyn yn rhywbeth y dymuna’r plentyn ei wneud.
- Cael adborth a chefnogi - Yn aml bydd pobl ifanc yn gadael y gynhadledd wedi eu drysu a’u brifo gan rai o’r pethau a glywon nhw. Ar ben hynny, efallai iddynt gamddeall yr hyn a gafodd ei ddweud.
- Mae’n bwysig felly fod cyfle gan blentyn neu berson ifanc, yn syth wedi’r gynhadledd, i drafod eu teimladau a’r canlyniad. Mae angen iddynt gael cyfle i gael eglurhad a gwybod pa gamau fydd nesaf.
- Mae hefyd yn bwysig eu bod yn derbyn adborth cadarnhaol am eu cyfraniad. Efallai y byddant hefyd yn bryderus am ymateb eu rhiant/rhieni i rai o’r pethau maent wedi eu dweud. Dylid gwirio hyn a dylai’r gweithiwr cymdeithasol a’r eiriolwr ddod o hyd i ffordd o reoli hyn.
(O Aldridge 2012)
Rhagor o wybodaeth:
Aldridge L, (2012) Improving Participation for children and young people in Child Protection Conferences London Daphne. www.rbkc.gov.uk/
Children in Wales (2016) Children and Young People National Participation Standards www.childreninwales.org.uk/
Muench K, Diaz C and Wright R (2017) Children and Parent Participation in Child Protection Conferences: A Study in One English Local Authority, Child Care in Practice, 23:1, 49-63,