Dangosodd astudiaeth a gwblhawyd gan Horwath a Tarr yn ne ddwyrain Cymru, fod rhai plant sy’n cael eu cam-drin a’u hesgeuluso o dro i dro yn derbyn mwy o sylw nag eraill; mewn adroddiadau wedi eu paratoi ar gyfer cynhadledd ac yn arena’r gynhadledd ei hun.
Ymhlith y plant y cafniwyd eu bod yn cael eu gwthio i’r cyrion roedd:
- Plant mewn teulu mawr o frodyr a chwiorydd. Yr ifanc iawn a’r rheiny y mae eu hymddygiad yn heriol i rieni a/neu i ymarferwyr sydd yn debygol o ddenu’r sylw mwyaf.
- Plant sydd yn mewnoli eu problemau yn hytrach na’u dangos. Plant tawel a mewnblyg sy’n ymddangos fel eu bod yn ymdopi yn gallu cael eu labelu fel ‘gwydn’. Fodd bynnag, efallai iddynt ddysgu bod yr ymagwedd yma yn eu hamddiffyn nhw rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Gall rhai plant sy’n agored i niwed weithredu ar eu trallod trwy hunan-anafu neu geisio gwneud amdanynt eu hunain os nad yw eu hanghenion yn cael eu cydnabod a’u diwallu.
- Brodyr a chwiorydd i blant anabl. Mae plant anabl yn fwy agored i gael eu cam-drin a’u hesgeuluso na phlant nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag, mewn rhai sefyllfaoedd mae’r rhiant/rhieni yn neilltuo cymaint o amser a sylw i anghenion y plentyn anabl fel bod rhai’r brodyr/chwiorydd yn cael eu gwthio i’r cyrion.
Rhagor o wybodaeth:
Horwath, J. and Tarr, S. (2015) Child Visibility in Cases of Chronic Neglect: Implications for Social Work Practice, British Journal of Social Work (45 (5) pp1379-1394.