Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Cynadleddau ar gyfer Grwpiau o frodyr a chwiorydd

Gall fod yn heriol i’r teulu ac aelodau’r gynhadledd ymarferwyr ystyried anghenion pob plentyn unigol mewn grŵp mawr o frodyr a chwiorydd. Dylai’r cadeirydd a’r gweithiwr cymdeithasol ystyried y canlynol cyn y gynhadledd:

  • pwy sydd angen bod yn y gynhadledd i sicrhau bod digon o wybodaeth ar gael er mwyn nodi anghenion amddiffyn, gofal a chymorth pob plentyn wedi eu nodi?
  • beth yw goblygiadau o fynychu cynhadledd a rheoli cyfranogiad a thrafodaeth?
  • pa mor hir y mae’r gynhadledd yn debygol o bara os ydym am sicrhau y caiff anghenion pob plentyn eu hystyried yn ystyrlon?
  • sut rydym yn bwriadu sicrhau bod pob brawd/chwaer â llais yn y gynhadledd?
  • sut byddwn yn rheoli cyfranogiad rhieni/gofalwyr os oes nifer o ffigyrau rhiant yn ymwneud â gofal y gwahanol frodyr a chwiorydd?

Wedi ystyried yr uchod, dylai’r cadeirydd a’r gweithiwr cymdeithasol benderfynu:

  • a yw’n realistig i ni nodi a mynd i’r afael ag anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn pob plentyn mewn un gynhadledd? A ddylen ni ystyried cynnal dwy gynhadledd gan fod anghenion y brodyr/chwiorydd mor amrywiol?
  • A fydd y teulu’n debygol o deimlo wedi eu llethu gan faint y gynhadledd? Sut gallai hyn effeithio ar eu cyfranogiad a sicrhau llais pob plentyn?
  • Allwn ni sicrhau bod ymarferwyr sydd yn cyfranogi yn cymryd rhan lawn wrth rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau?
  • Beth yw’r oblygiadau ar hyd y gynhadledd? Os yw’r gynhadledd yn debygol o bara’n fwy na 90 munud a fydd angen egwyl? A ddylid ystyried cynnal dwy gynhadledd?