Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi Rhieni ar gyfer Cynadleddau Amddiffyn Plant

Y gweithiwr cymdeithasol sydd yn gyfrifol am baratoi aelodau teulu ar gyfer cynhadledd.

Fel rhan o’r paratoi hwn fe ddylai:

  • hysbysu’r teulu o ddiben y gynhadledd, y broses gaiff ei dilyn, y penderfyniadau a all gael eu gwneud a’r broses gwynion;
  • egluro sut bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal o ran gosodiad yr ystafell, gwybodaeth ar bwy fydd yno a’r agenda;
  • rhoi copi o’i asesiad iddynt a rhoi cyfle iddynt wneud synnwyr o’r adroddiad ac i holi unrhyw gwestiynau ynghylch ei gynnwys; herio cywirdeb a barn broffesiynol;
  • rhoi gwybodaeth iddynt o ran pwy fydd yn y gynhadledd a’u gwaith;
  • Cadarnhau a oes angen cyfieithydd ar y pryd arnynt a briffio’r cyfieithydd;
  • sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau a’u bod yn gallu dod â chefnogwr a all fod yn gyfreithiwr;
  • ystyried sut orau i sicrhau cyfranogiad gweithredol gan rieni a phlant trwy fynychu’r Gynhadledd oni bai ei fod yn niweidiol i les y plentyn.
  • talu sylw at adnabod ffyrdd o hyrwyddo cyfranogiad aelodau teuluol lle nad y Saesneg yw’r famiaith, pan fo ganddynt anabledd dysgu neu gorfforol a allai effeithio ar eu gallu i gymryd rhan.
  • eu helpu nhw i baratoi ar gyfer y gynhadledd. Er enghraifft, trafod gyda nhw yr hyn yr hoffent ei ddweud ac os nad ydynt am fynychu, ystyried dulliau eraill i allu cyflwyno eu safbwyntiau.
  • ystyried trefniadau ymarferol megis cludiant, gofal plant.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cydnabod ei bod yn debygol y bydd gan y rhiant/rhieni ystod amrywiol o deimladau am y gynhadledd yn aml yn deillio o ofn a phryder. Gallai’r rhain amrywio o deimlad o anghyfiawnder, a theimlo’n grac i deimlo’n annigonol, o ofn a phryder. Dylid cydnabod y teimladau hyn a’u harchwilio cyn y gynhadledd. Gall ymarferwyr yn aml leddfu llawer o’r ofnau a’r pryderon hyn ond ni ddylent fyth ddarogan canlyniad y gynhadledd.