Mae’r grŵp craidd yn grŵp sy’n canolbwyntio ar dasgau, ac mae’n rhaid i aelodau weithio ar y cyd ar ran y plentyn ar y gofrestr. Mae’r grŵp yn fwyaf tebygol o gyflawni’r dasg hon yn yr amgylchiadau canlynol:
- mae’n gweithio’n iawn, yn anffurfiol ac yn ymarferol – yn ddelfrydol ni ddylai fod â mwy na chwech aelod (Firth, 1999 allan o brint);
- mae pob cyfranogwr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau fel aelodau grŵp craidd;
- mae cyfraniadau ymarferwyr o’r gwasanaethau plant ac oedolion yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi;
- nid yw aelodau’n ofni herio ymarferwyr eraill a/neu’r teulu;
- mae ymarferwyr yn osgoi jargon proffesiynol megis ‘arddangos ymlyniad anhrefnus’ ac yn osgoi cymryd yn ganiataol bod pawb yn deall beth mae llythrennau’n cynrychioli megis ‘CAPC’ (cynhadledd amddiffyn plant cychwynnol);
- mae’r lleoliad yn niwtral ac yn bodloni anghenion y teulu. Dylent deimlo’n gyfforddus a gallu cael mynediad at y lleoliad yn hawdd. Mae’n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau am leoliad priodol heb ymgynghori â’r teulu. Er enghraifft, efallai bydd ysgol plentyn yn ymddangos yn lleoliad amlwg, ond efallai na fydd y plentyn yn fodlon ar hyn gan y bydd yn tynnu sylw cyfoedion i’r sefyllfa;
- cynhelir cyfarfodydd ar amser sy’n hwyluso presenoldeb i’r teulu.
Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae mwy o bwyslais wedi bod ar bwysigrwydd gweithio ar y cyd â theuluoedd. Os bydd hyn yn cael ei gyflawni, rhaid i aelodau sy’n ymarferwyr fod yn eglur am eu rolau a’u cyfrifoldebau. Mae hyn yn cynnwys:
- Y gwahaniaeth rhwng gwneud penderfyniadau ar y cyd ac atebolrwydd y prif asiantaeth a’r gwasanaethau cymdeithasol
- Rôl bob ymarferwr, os ydynt yn dod o’r gwasanaethau oedolion neu blant, o ran cefnogi’r teulu i fodloni anghenion y plentyn
- Canfyddiadau gwahanol o risg o niwed sylweddol a goblygiadau’r ymarfer grŵp craidd
- Pwysigrwydd bob ymarferwr yn ymgysylltu’n ymarferol gyda rhieni a phlant
- Ymatebir i bryderon a gofidion ymarferwyr ynglŷn â gwrthdaro ac ymddygiad ymosodol
- Cyfrifoldeb ar y cyd am rannu, cadeirio a chymryd cofnodion
(Wedi’i addasu o Ddiogelu Plant: heriau i weithrediad effeithiol grwpiau craidd Harlow, Elizabeth; Shardlow, Steven M. Child & Family Social Work, Chwefror 2006, Cyfrol 11(1), tud. 65-72)