Mae’r grŵp craidd yn weithgor sy’n cynnwys y rheiny sy’n gyfrifol am weithredu’r cynllun amddiffyn gofal a chymorth.
Mae’r canlynol yn bwysig:
Erbyn diwedd y cyfarfod, dylai bob ymarferwr sicrhau bod nhw’n deall:
Mae anghenion plant yn amrywio; mae’n bwysig bod pryderon ynghylch profiad bob dydd bob plentyn yn y teulu, a newidiadau i brofiadau bob dydd, yn cael eu hystyried ar wahân.
Nod y cynllun yw sicrhau bod y plentyn wedi’i amddiffyn rhag niwed a bob ansawdd ei fywyd bob dydd yn gwella. Felly, mae’n bwysig bod mesurau canlyniad a nodau cynnydd yn cael eu fframio o ran y gwelliannau a ddisgwylir gan ymarferwyr i ansawdd profiad bywyd bob dydd y plentyn.
Dylid osgoi ieithwedd fel ‘rhiant/rhieni i fynychu rhaglen rianta’. Yn hytrach, dylid nodi’n glir pa bryderon ynghylch ymddygiad rhianta dylid cael eu datrys yn ystod y rhaglen rianta a sut fydd llwyddiant yn cael ei fesur o ran y ffordd allai gael ei ddangos, h.y. canlyniadau gwell i brofiadau bob dydd y plentyn/plant.
Er mwyn i gynlluniau fod yn effeithiol, mae’n hanfodol bod y rhiant/rhieni yn ymgysylltu’n ystyrlon â’r broses o newid. Er mwyn newid, mae angen gallu a chymhelliant i newid. Dylid cynnal asesiad o’r capasiti i newid a goblygiadau’r cynllun.
Mae ymddygiad yn y gorffennol ac ymgysylltiad â gwasanaethau yn y gorffennol yn dangos cymhelliant y rhieni i newid.
Mae rhieni’n fwy tebygol o ymgysylltu â’r cynllun os ydynt yn deall rhesymeg y cynllun a pham bod disgwyl iddyn nhw wneud y newidiadau a nodir yn y cynllun. Felly, mae’n bwysig bod y grŵp craidd yn mynd ar gyflymder y rhiant/rhieni i sicrhau eu bod nhw’n deall yn llwyr yr hyn a ddisgwylir ohonynt a’r gefnogaeth y byddant yn ei derbyn.
Er ei bod hi’n bwysig i ganolbwyntio ar bryderon ymarferwyr, mae hefyd yn bwysig i ystyried yr hyn yr hoffai’r plentyn/plant a’r rhiant/rhieni ei newid.
Mae angen i ymarferwyr ddeall sut bydd eu hymyrraeth yn cyfrannu at gyflawni canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Mae angen i ymarferwyr ddeall yn union yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt o ran camau a sut fydd y cynnydd yn cael ei fesur.
Dylid wastad cydnabod cryfderau’r teulu a defnyddio’r rhain wrth lunio cynllun.