Mae’r cwestiynau canlynol wedi’u datblygu gan Jan Horwath a Bwrdd Diogelu Plant Wirral i gynorthwyo aelodau’r grŵp craidd i lunio cynllun amlinellol ac i ddechrau meddwl sut allent weithio gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth i safon profiadau bob dydd y plant/plentyn a’u teulu.
Mae’n bwysig i roi cyfle i aelodau’r teulu ac ymarferwyr i ymchwilio’n fanwl y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun amlinellol. Rhywbeth sy’n allweddol i’r ddealltwriaeth hon yw bod pawb yn cydnabod sut mae’r pryderon a nodwyd yn y gynhadledd amddiffyn plant cychwynnol yn effeithio ar brofiad byw bob dydd y plant/plentyn.
Mae deall sut fyddai bywyd yn edrych i’r plentyn ar adeg dad-gofrestru yn ffordd bendant o weld y canlyniad bwriedig i’r plentyn.
Ar ôl ystyried y pryderon, dylai ymarferwyr ddefnyddio hyn i ddechrau i nodi sut fyddai profiad bob dydd y plant/plentyn yn edrych pan fyddant yn cael eu tynnu oddi ar y cynllun. Mewn geiriau eraill, sut beth fydd bywyd i’r plant os yw’r materion ynghylch pryderon am niwed sylweddol yn cael eu datrys.
Wrth ystyried hyn, dylai’r grŵp craidd gadw mewn cof beth mae’r plant wedi nodi yr hoffent ei weld yn newid.
Dylai’r grŵp craidd alw ar eu dealltwriaeth o brofiad bob dydd y plentyn i ddechrau i adnabod newidiadau graddol y byddent yn disgwyl eu gweld tra bod ymarferwyr yn gweithio gyda’r teulu ar weithredu’r cynllun. Dylid pennu amserlen resymol i adnabod pryd ddylai bob newid graddol ddigwydd.
Ar ôl adnabod y newidiadau sydd eu hangen i wella profiad bob dydd y plant, dylai’r grŵp craidd droi at beth mae hyn yn ei olygu i’r rhiant/rhieni. Dylid gwneud hyn drwy ddefnyddio’r hyn sydd wedi’i ddysgu am brofiad bob dydd y rhiant/rhieni. Yna, gall y grŵp craidd ddechrau adnabod beth fydd angen i’r rhiant/rhieni wneud yn wahanol i fodloni anghenion eu plant/plentyn.
Mae teuluoedd yn fwy tebygol o ymgysylltu â newid os yw ymarferwyr yn cydnabod ond hefyd yn ceisio adeiladu ar gryfderau’r teulu. Gall adeiladu ar brofiad bob dydd ymarferwyr hefyd ddechrau i adnabod beth mae’r rhieni’n gwneud yn dda.
Rhywbeth sy’n hanfodol am newid yw deall capasiti’r rhieni i ymgysylltu yn y broses o newid. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth o allu’r rhiant/rhieni a’r cymhelliad i wneud y newidiadau sydd eu hangen i’w bywydau bob dydd. Mae’n bwysig nad yw’r grŵp craidd yn ymgysylltu mewn modd arwynebol â’r cynllun er mwyn dangos bod y rhiant/rhieni yn barod i wneud y newidiadau sydd eu hangen. Yr unig brif fesur o dystiolaeth o newidiadau o safon yw profiadau bob dydd y plant/plentyn.
Mae angen i’r rhiant/rhieni ddeall y canlyniadau o beidio â gwneud y newidiadau angenrheidiol. Mae’n bwysig peidio gwneud bygythiadau a dylid ystyried cynlluniau wrth gefn fydd yn cael eu rhoi ar waith os nad yw’r rhiant/rhieni yn cydymffurfio, a rhoi gwybod am y cynlluniau hyn i’r rhiant/rhieni.
Nid yw newid yn hawdd, ac mae’n bwysig cydnabod bod rhai o’r newidiadau sy’n ofynnol gan rieni/y rhiant yn sylweddol o ran eu profiadau bywyd bob dydd. Er mwyn ymgysylltu â’r teulu yn bositif yn ystod y broses o newid, mae’n bwysig cydnabod pa mor anodd gallai fod i gyflwyno newidiadau i fywyd bob dydd. Nid yw trafodaeth yn cydnabod newid yn hawdd a gall cydnabod rhai o’r rhwystrau fod yn werthfawr o ran dangos i’r teulu bod ymarferwyr yn ymwybodol o’r heriau y mae’r rhiant/rhieni yn eu hwynebu.
Yn fwy na hyn, bydd ymddygiad rhianta wedi hen sefydlu yn anoddach i newid nag ymddygiad newydd. Felly, mae’n bwysig deall ers ba hyd y mae ymddygiad o’r fath wedi para.
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i adnabod y materion y gall y rhiant/rhieni ddod ar eu traws wrth wneud newidiadau sydd eu hangen i fodloni anghenion y plant/plentyn yw adolygu eu hymgysylltiad blaenorol â’r gwasanaethau. Beth weithiodd yn dda? Beth na weithiodd? Pam weithiodd rhai gwasanaethau a pham na weithiodd rhai eraill? Y prif beth am ymgysylltiad llwyddiannus yw’r berthynas y mae’r gweithiwr yn adeiladu gyda’r adeiladu. Pa brofiadau mae’r teulu wedi cael gyda gweithwyr yn y gorffennol? Sut mae hyn wedi effeithio eu hagwedd o ran gwasanaethau gwahanol?
Er ei bod hi’n hanfodol i fynd ar ôl pryderon ymarferwyr, mae’r rhiant/rhieni yn fwy tebygol i ymgysylltu â’r broses o newid os ydynt yn teimlo bod y grŵp craidd wedi ystyried yr hyn yr hoffent ei gyflawni ac ymchwilio ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Yn amlwg, ni ddylai dyheadau’r rhiant/rhieni fod yn beth drwg i’r plentyn.
Mae hefyd yn bwysig i ystyried beth mae’r plentyn/plant wedi nodi yr hoffent weld yn wahanol i’w bywydau, eu dyheadau a’u teimladau.
Mae teuluoedd yn fwy tebygol o ymgysylltu â’r cynllun os ydynt yn credu eu bod nhw’n cael cefnogaeth gan ymarferwyr sy’n cydnabod pa mor heriol yw gwneud y newidiadau sydd eu hangen ac sy’n gallu cynnig gwasanaethau i’w helpu nhw. Gorau po fwya’r manylion a ddarperir am gynnwys y gwasanaethau ac ateb a’r rhesymeg, oherwydd bydd y teulu’n gwybod yn union beth i ddisgwyl.
Erbyn diwedd cyfarfod cyntaf y grŵp craidd dylai’r teulu a’r ymarferwyr ddeall yn glir: rhesymeg y cynllun; cynnwys y cynllun amddiffyn plant; yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan bob aelod o’r teulu a phob ymarferwr.
Am wybodaeth ychwanegol gweler:
Platt D. (2012), Understanding Parental Engagement with Child Welfare Services: An Integrated Model. Child and Family Social Work, cyfrol 17, tud. 138-148.
Platt D. & Riches K. (2016), Assessing Parental Capacity to Change: The missing jigsaw piece in the assessment of a child welfare? Adolygiad Gwasanaethau Plant ac Ieuenctid, Cyfrol 61, Chwefror 2016, tud 141-148.