Dylai aelodau’r grŵp craidd ystyried ‘beth sy’n gweithio’ wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu.
Gan dynnu ar y deunydd darllen, canfuwyd bod y canlynol yn bwysig:
- sefydlu perthynas o safon rhwng y plentyn, y teulu a’r ymarferwyr;
- mae cydnabod cryfderau wrth gydnabod anawsterau’n fwy tebygol o arwain at ymgysylltu yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau a phryderon yn unig;
- gall ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y rhiant sydd â’r nod o wella rhyngweithio rhwng y rhieni a’r plentyn a lleihau ymddygiad heriol fod yn effeithiol os ydynt yn gwneud synnwyr i’r rhieni;
- sicrhau bod rhieni ynghylch wrth fynd ar ôl pryderon ynghylch niwed sylweddol;
- bod yn ymwybodol bod angen atebion amlochrog ar broblemau amlochrog;
- dylai ymyriadau fod yn briodol ar gyfer anghenion a nodwyd yn hytrach nag ymagwedd ‘dyna’r cyfan sydd gennym felly rhaid iddo wneud y tro’;
- dylid cydnabod rhai o’r newidiadau sy’n angenrheidiol gan bennu cerrig milltir a mesur cynnydd yn gynyddrannol;
- mae teuluoedd angen cefnogaeth barhaus i gynnal newid.
(Sefydliad Ymyrraeth Gynnar)
Am wybodaeth ychwanegol gweler:
Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (2017) See Improving the Effectiveness of the Child Protection System; An overview, (20 Gorffennaf 2019)